Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Integredig Sengl
Published: 14/04/2014
Disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo cynllun yn esbonio ymrwymiadau i wella lles
pobl Sir y Fflint mewn cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (15 Ebrill).
Mae’r Cynllun Integredig Sengl yn cyflwyno rhaglen bedair blynedd i sicrhau bod
y sefydliadau sector cyhoeddus a’r grwpiau gwirfoddol sy’n rhan o Fwrdd
Gwasanaethau Lleol Sir y Flint yn gweithio tuag at amcanion cyffredin. Bwrdd
Gwasanaethau Lleol Sir y Fflint yw un o’r byrddau sy’n perfformio orau drwy
Gymru ac mae’n bartneriaeth flaengar sy’n cydweithio’n dda i wneud gwahaniaeth.
Mae’r cynllun yn ymdrin â materion cymdeithasol drwy ganolbwyntio ar bedwar
maes blaenoriaeth.
Y cyntaf yw arwain drwy esiampl fel cyflogwyr ac arweinwyr cymunedol drwy
ddioglu a hyrwyddo lles ein gweithwyr, ein gwirfoddolwyr a’r gymuned a drwy
hybu a gwella rhagolygon gweithwyr a phobl ifanc o ran addysg, hyfforddiant a
chyflogaeth.
Blaenoriaeth arall yw cadw pobl yn iach a bydd hyn yn dechrau drwy fynd i’r
afael â phroblemau’n gysylltiedig ag alcohol yn y gymuned gan geisio gwella
gwasanaethau i bobl sy’n agored i niwed drwy ganolbwyntio ar gam-drin yn y
cartref. Y drydedd flaenoriaeth yw helpu pobl i fwynhau iechyd, lles ac
annibyniaeth drwy gydgysylltu gwasanaethau ac ymateb i ddiwygiadau lles. Yn
olaf, drwy annog sefydliadau i fabwysiadu arferion amgylcheddol da, bydd modd
lleihau ein hôl-troed carbon ac ymateb yn gadarnhaol i’r newid yn yr hinsawdd.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir y Fflint yn cynnwys uwch arweinwyr cyrff yn y
sector cyhoeddus a gwirfoddol: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Coleg
Cambria,Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Prifysgol
Glyndwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru,
Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Prawf Cymru a
Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth
Gorfforaethol:
“Drwy fod yn rhan o’r cynllun, gall Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid sicrhau
eu bod yn gweithio i gyflawni’r un amcanion er budd pobl leol. Fel Cyngor,
rydym yn chwilio am ffyrdd i wella bywydau pobl leol yn gyson ac mae’r cynllun
hwn yn cynnig rhaglen i’w gweithredu ochr yn ochr â Chynllun Gwella’r Cyngor i
helpu i gyflawni hyn.”
Meddai Colin Everett, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol
“Mae Sir y Fflint yn ymfalchïo yn ei record hir o weithio gyda phartneriaid.
Mae’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethau’n disgwyl, yn gwbl briodol, i’r
partneriaid statudol a’r partneriaid yn y trydydd sector gydweithio’n unol â
blaenoriaethau cyffredin a, drwy ymdrechu ar y cyd, i roi newidiadau ar waith.”