Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014

Published: 27/06/2014

Dyma fydd yr wythfed gwaith i ni gynnal Wythnos Fusnes Sir y Fflint, sy’n cael ei chynnal eleni rhwng 7 a 10 Hydref. Mae’r Wythnos Fusnes yn un or digwyddiadau pwysicaf oi fath yn y rhanbarth, gan ddenu tua 2,000 o fusnesau pob blwyddyn. Maen cefnogi cymuned fusnes y sir, yn ogystal â busnesau’r rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. Mae’r Wythnos Fusnes wedi esblygu yn barhaus i ddiwallu anghenion syn newid, ac mae datblygiadau newydd ar gyfer 2014 yn cynnwys penderfyniad yr Arglwydd Barry Jones i arwain y digwyddiad i’r dyfodol. Mae gan yr Arglwydd Barry Jones brofiad enfawr o weithio i sicrhau ffyniant diwydiannau yng Nglannau Dyfrdwy a Chymru. Yr oedd hefyd yn un or Aelodau Seneddol hiraf yn Nhyr Cyffredin ac yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Y thema ar gyfer y digwyddiad eleni yw ‘Twf a bydd yn canolbwyntio ar helpu busnesau yng ngogledd Cymru i ddelio âr heriau newydd wrth i ni ddod allan or dirwasgiad. Bydd ffocws penodol ar weithgynhyrchu, sy’n adlewyrchur ffaith bod gweithgynhyrchu yn rhan allweddol or economi ranbarthol. Mae gan ogledd Cymru oddeutu 150 o gwmnïau yn y sector gweithgynhyrchu sy’n cyflogi tua 25,000 o bobl. Maer rhan fwyaf or swyddi hyn yng ngogledd ddwyrain Cymru, gyda 34% or holl swyddi yn Sir y Fflint mewn diwydiant gweithgynhyrchu. Mae uchafbwyntiau’r rhaglen eleni yn cynnwys; rôl addysg uwch mewn diwydiant, sgiliau ar gyfer y dyfodol, Canolfan arfaethedig Gweithgynhyrchu Uwch Gogledd Cymru, Coridor Technoleg yr A55/M56 a thechnolegau syn dod ir amlwg yn y diwydiant ceir, awyrofod ac ynni. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn helpu ein busnesau lleol ac yn rhoi ein hardal ar y map. Maen bartneriaeth unigryw a llwyddiannus iawn rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rwyf wrth fy modd bod yr Arglwydd Barry Jones wedi cytuno i fod yn llywydd ar gyfer yr Wythnos ac rydym ni’n ffodus iawn i gael llysgennad mor wych ar gyfer ein sir a’n diwydiant. Dywedodd yr Arglwydd Barry Jones: “Maen anrhydedd fawr i fod yn rhan o Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014. “Maer tîm yn gweithio efo busnesau ar draws y sir ac eleni maen nhw’n canolbwyntio ar weithgynhyrchu. Mae Sir y Fflint yn prysur ddod yn bencampwyr gweithgynhyrchu ym Mhrydain gyda 34 y cant o swyddi’r sir yn y diwydiant hwnnw. “Rydym ni’n gobeithio datblygu’r Wythnos Fusnes yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn ei gwneud hyn yn oed mwy llwyddiannus. Ychwanegodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Rydym ni wrth ein bodd y bydd yr Arglwydd Barry Jones yn ymuno â ni eleni i adeiladu ar ein llwyddiant. “Fel Cyngor, rydym ni’n cydweithio efo busnesau lleol er mwyn cyflawni canlyniadau llwyddiannus i greu cyfleoedd o’r newydd a chanolbwyntio ar sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd ac ar brosiectau fel Cynghrair Mersi Dyfrdwy. “Hoffwn ddiolch ir holl fusnesau syn cefnogi Wythnos Fusnes Sir y Fflint. I archebu stondin neu i noddi’r digwyddiad, neu i gael mwy o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, ewch i www.flintshirebusinessweek.co.uk neu cysylltwch âr tîm Wythnos Fusnes ar 01352 703219. Pennawd Llun: Gwesteion yn lansiad Wythnos Fusnes Sir y Fflint.