Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
20mya y tu allan i ysgolion
Published: 02/07/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i osod
terfyn cyflymder o 20mya y tu allan i bob ysgol yn y Sir a bydd y gwaith o
godi’r arwyddion priodol yn dechrau yn ystod y dyddiau nesaf. Bydd yr holl
waith wedi’i gwblhau erbyn i’r ysgolion ailagor ar ôl gwyliau’r haf.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
Yn dilyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y
gall y gwaith o osod yr arwyddion 20mya ddechrau’n awr.
Mae gosod terfyn cyflymder o 20mya y tu allan i ysgolion y Sir wedi bod yn
flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon, a bydd y trefniadau newydd yn helpu i wella
diogelwch ar y ffyrdd drwy sicrhau bod gyrwyr yn fwy ymwybodol o leoliad
ysgolion ac yn gyrru’n arafach. Mae cyflymder yn amlwg yn allweddol i
ddiogelwch ar y ffyrdd ac mae hyn yn gam pwysig ymlaen o ran sicrhau diogelwch
ein plant.”