Alert Section

Perthnasoedd

Mae perthnasoedd o fewn teuluoedd yn bwysig ar gyfer lles, datblygiad a chyfleoedd bywyd. Rydym yn gwybod fod gwrthdaro rheolaidd, dwys a heb eu datrys rhwng rheini’n cael effaith negyddol ar les emosiynol, sgiliau cymdeithasol a chyflawniad plant yn yr ysgol.

Mae perthnasoedd yn rhan bwysig o ffordd o fyw iach ar gyfer ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl.

Mae ein perthnasoedd gyda’r rheiny o’n hamgylch yn cael effaith sylweddol ar ein hapusrwydd, sut mae ein plant yn ffynnu a sut rydym yn ymdrin â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu o bryd i’w gilydd mewn bywyd.

Rydym ni i gyd yn anghytuno ac yn ffraeo gyda phobl o bryd i’w gilydd, mae’n rhan naturiol o berthnasoedd. Gall yr anghytundebau fod yn fawr neu’n fach, p’un a ydynt yn ymwneud â’r ffordd yr ydym yn magu ein plant, pwy sy’n gwario’r mwyaf o arian, neu bwy wnaeth olchi’r llestri ddiwethaf! Nid yw bob anghytundeb yn niweidiol, y ffordd yr ydym yn ymdrin â hwy sy’n bwysig.

Gall anghytundebau nad ydynt yn cael eu datrys, sy’n digwydd yn aml neu sy’n arwain at gyfnodau hir o dawelwch ddatblygu i wrthdaro.  P’un a yw’r rhieni gyda’i gilydd neu wedi gwahanu, mae’r ffordd yr ydych chi a’ch partner yn cyfathrebu’n gallu cael effaith ar eich plant. Nid yw gwrthdaro rhwng rhieni yr un fath â cham-drin domestig, os ydych chi’n ofni eich partner neu’n teimlo eu bod yn rheoli eich bywyd, fe allwch fod yn dioddef cam-drin domestig ac mae cefnogaeth ar gael i chi. Ceisiwch gymorth drwy: 

Cefnogaeth ar-lein

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio gyda OnePlusOne i ddarparu’r cyrsiau ar-lein canlynol AM DDIM. Mae rhaglenni oneplusone yn eich helpu gyda chyngor a chefnogaeth i gryfhau eich perthnasoedd a rheoli achosion o wrthdaro’n well. 

Oneplusone

Ymweld ag OnePlusOne

Kids talk | OnePlusOne

Kids talk | OnePlusOne gan OnePlusOne ar Vimeo.

Fi, Ti a’r baban hefyd

Ar gyfer pwy mae o

  • Rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl babi.

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu

  • Y pethau mae babis yn eu dysgu gennych chi, hyd yn oed cyn iddynt gael eu geni.
  • Pam y dylid rhannu unrhyw straen.
  • Sut allwch chi a’ch partner gefnogi eich gilydd yn well.
  • Sut i drafod pynciau anodd.
  • Sut mae anghytundebau’n dechrau a sut i’w rhwystro. 

Cynnwys

  • Newidiadau i mi ac i ni.
  • Ymdopi â straen.
  • Gwrthdaro a chyfathrebu. 

Dadlau’n Well

Ar gyfer pwy mae o

  • Rhieni sy’n awyddus i ddysgu ffyrdd iach o ymdopi â straen. 

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu

  • Beth sy’n achosi straen a pha effaith mae’n ei gael arnoch chi. Effaith straen ar eich teulu a’ch perthynas.
  • Sut i gefnogi eich gilydd yn ystod cyfnodau o straen.
  • Y ffordd orau i wneud hyn yw trafod eich problemau er mwyn i chi fedru canfod atebion gyda’ch gilydd. 

Cynnwys

  • Deall straen.
  • Ymdopi â straen gyda’ch gilydd.
  • Dadlau’n well.

Cael Pethau’n Iawn i Blant

Ar gyfer pwy mae o

  • Rhieni sy’n gwahanu neu wedi gwahanu ac yn profi lefel uchel o wrthdaro. 

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i osgoi cynhyrfu a gwrando yn ogystal â siarad.
  • Pam ei fod yn ddefnyddiol gweld pethau o safbwynt gwahanol.
  • Beth i’w wneud i atal trafodaeth rhag troi’n ffrae.
  • Sgiliau ar gyfer dod o hyd i ddatrysiadau a chyfaddawdu. 

Cynnwys

  • Peidio â chynhyrfu.
  • Gweld pethau’n wahanol.
  • Trafod.
  • Canfod datrysiad. 

Adnoddau ar-lein eraill

(Nid ydym yn cymeradwyo’r cynnwys ar eu gwefannau. Rhieni sydd wedi rhoi gwybod i ni am y gwefannau defnyddiol hyn). 

See it differently

Treuliwch ychydig funudau’n gwylio’r fideos hyn gan see it differently sy’n amlinellu sut mae’r problemau hyn yn cael effaith ar blant a’u teuluoedd.

Ymweld â gwefan See it differently

Family Lives

Mae Family Lives yn darparu ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu a chefnogaeth mewn argyfwng i deuluoedd sy’n cael trafferth.   Mae’r problemau y maent yn darparu cefnogaeth mewn perthynas â hwy’n cynnwys teuluoedd yn chwalu, perthnasoedd heriol ac ymddygiad, dyled, a lles emosiynol a meddyliol.

Ymweld â gwefan Family Lives

Gingerbread

Mae Gingerbread yn elusen sy’n helpu teuluoedd â rhieni sengl i fyw bywydau diogel, hapus a boddhaus.  Maent yn darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol a chyfrinachol ar unrhyw beth o ddelio â thor perthynas i fynd yn ôl i’r gwaith neu drefnu taliadau cynhaliaeth plant, budd-daliadau neu faterion credyd treth. Os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r llinell gymorth, mae’r boreau'n dueddol o fod yn brysur, felly efallai y byddai’n well i chi ffonio yn y prynhawn.

Ymweld â gwefan Gingerbread 

Problemau ariannol fel cwpwl 

Os ydych chi’n wynebu problemau ariannol fel cwpwl, dyma rai syniadau defnyddiol ar sut i geisio cymorth, siarad am arian, llunio cyllideb a neilltuo amser i’ch gilydd.

Darllen mwy am broblemau ariannol fel cwpwl

Click Relationships

Ar wefan Click Relationships, gallwch rannu cwestiynau a straeon gyda’r gymuned, rhoi cynnig ar weithgareddau hwyliog a defnyddiol, neu geisio cefnogaeth breifat gan wrandäwr Click.

Ymweld â gwefan Click Relationships

Dad Info

Gwefan Dad Info - Gwefan fwyaf Ewrop ar gyfer cyngor a chefnogaeth i dadau.  Mae’n cynnwys cwrs ar-lein am ddim i rieni sydd wedi gwahanu.

Ymweld â gwefan Dad Info