Alert Section

Plant yn eu harddegau

Mae teuluoedd o bob math a maint i’w cael.  Mae magu plant yn gallu bod yn dipyn o gyfuniad o gyfnodau da a chyfnodau anodd.  Yn aml mewn teuluoedd, mae plant yn eu harddegau yn ogystal â phlant bach, felly wrth weithio gyda rhieni, rydym ni wedi datblygu adnoddau ar bedair thema allweddol y dwedodd rhieni eu bod angen help â nhw.

Hoffem ddiolch i Dr John Coleman am ein helpu i ddatblygu’r adnoddau hyn. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth am bob agwedd ar yr arddegau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w gweld ar ei wefan.

Ymweld â gwefan Dr John Coleman

Mae gennym ni fideos gyda Dr John Coleman yn trafod pynciau:

Y Glasoed, Ymennydd Pobl Ifanc a Chwsg


Mae’r ffilm wedi’i rhannu’n dair rhan: y glasoed, ymennydd pobl ifanc a chwsg. Dyma’r prif bynciau sy’n cael eu trafod:

Y Glasoed:

  • Disgrifiad o’r glasoed
  • Effaith seicolegol y glasoed
  • Profiadau’r rhai sydd wedi datblygu’n gynnar neu’n hwyr iawn

Ymennydd pobl ifanc:

  • Disgrifiad o’r prif newidiadau sy’n digwydd yn ystod blynyddoedd yr arddegau
  • Effaith y newidiadau hynny, rhai cadarnhaol yn ogystal â rhai heriol
  • Rôl hormonau
  • Risg a gwobrwyo
  • Pam bod y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i rieni a gofalwyr

Cwsg:

  • Cloc mewnol a melatonin pobl ifanc
  • Beth sy’n digwydd yn ystod cwsg
  • Pam bod cwsg yn bwysig i bobl ifanc
  • Helpu pobl ifanc i oresgyn effaith melatonin

Taflen Wybodaeth 1 - Y Glasoed, Ymennydd Pobl Ifanc a Chwsg

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod

Taflenni gwybodaeth y Glasoed, Ymennydd Pobl Ifanc a Chwsg

Cyfathrebu


Ffilm yw hon am gyfathrebu rhwng pobl ifanc yn eu harddegau a rhieni a gofalwyr. Dyma’r prif bynciau sy’n cael eu trafod:

Pam fod cyfathrebu yn bwysig:

  • Pam fod cyfathrebu da yn gwneud gwahaniaeth
  • Beth mae pobl ifanc yn eu harddegau yn ei ddweud am gyfathrebu
  • Beth mae rhieni a gofalwyr yn ei ddweud am gyfathrebu

Pam y gall pethau fynd o chwith:

  • Problem distawrwydd a grwntach
  • Sut mae methiant yn arwain at wrthdaro a dicter
  • Beth mae pobl ifanc yn eu harddegau ei eisiau mewn gwirionedd?

Rhai elfennau allweddol yn ymwneud â chyfathrebu:

  • Hidlwyr
  • Grym cydbwysedd
  • Rheoli gwybodaeth
  • Mae cyfathrebu yn sgil - mae’n bosibl fod oedolion yn well am wneud hyn

Sut i gyrraedd man sy’n well:

  • Cyfathrebu dwy ffordd
  • Adfer pan fo pethau wedi mynd o chwith
  • Dysgu am gyfathrebu da

Taflen Wybodaeth 2 - Cyfathrebu

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod

Taflenni gwybodaeth cyfathrebu

Y Byd Digidol


Ffilm yw hon am bobl yn eu harddegau a’r byd digidol. Dyma’r prif bynciau sy’n cael eu trafod:

Cefndir y byd digidol

  • Agweddau oedolion tuag at y cyfryngau cymdeithasol
  • Defnydd oedolion o dechnoleg a dyfeisiadau digidol
  • Effaith Covid
  • Y syniad o amser sgrin

Bygythiadau a chyfleoedd

  • Agweddau ar y byd ar-lein sy’n achosi pryder
  • Mae’r cyfleoedd yn bwysig hefyd
  • Mae pobl o bob oed yn defnyddio’r byd ar-lein
  • Pwyslais ar greadigrwydd, mynediad at wybodaeth a bywyd cymdeithasol ac ati

Llythrennedd Digidol:

  • Beth mae llythrennedd digidol yn ei olygu?
  • Mae gwahanol oedrannau angen gwahanol sgiliau
  • Yr angen i feddwl ymlaen
  • Rheoli Emosiynau
  • Gwytnwch
  • Gwybod lle i fynd am help

Rôl oedolion:

  • Beth all oedolion ei wneud?
  • Mae gan oedolion rôl!
  • Ni ellir gadael popeth i’r ysgolion
  • Mae’n rhaid i oedolion barchu preifatrwydd pobl ifanc.
  • Fodd bynnag ni ddylai oedolion optio allan

Taflen Wybodaeth 3 - Y Byd Digidol

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod

Taflenni gwybodaeth y Byd Digidol

Iechyd Meddwl a Lles


Ffilm yw hon am iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn eu harddegau. Dyma’r prif bynciau sy’n cael eu trafod:

Cyflwyniad:

  • Y pwysau y mae pobl ifanc heddiw’n ei wynebu.
  • Mwy o ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • Pryderon rhieni
  • Beth sydd wedi newid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf

Anghenion pobl ifanc yn eu harddegau:

  • Yr ymennydd yn yr arddegau
  • Gwahaniaethau unigol
  • Newid o fod yn blentyn i fod yn oedolyn

Sut i reoli emosiynau:

  • Rheoli Emosiynau
  • Emosiynau anodd
  • Pwysau a Straen
  • Strategaethau lles

Beth all rhieni a gofalwyr ei wneud?:

  • Rôl Oedolion
  • Strwythurau cymorth allweddol
  • Beth sy’n ‘normal’ i bobl yn eu harddegau?
  • Sut i gael help a gwybod pryd i ymyrryd

Taflen Wybodaeth 4 - Iechyd Meddwl a Lles

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod

Taflenni gwybodaeth Iechyd Meddwl a Lles