Alert Section

Rhandiroedd


Gwneud cais am Randir

Mae rhestr aros ar gyfer ein safle rhandir. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am randir, llenwch y ffurflen isod i gael eich ychwanegu i’n rhestr aros. 

Ffurflen ehestr aros rhandir

Cysylltwch â ni ar y ffôn 01352 703100 neu ebost ValuationandEstates@siryfflint.gov.uk 

Cost Flynyddol

Rhain yw’r costau rhentu cyfredol ar gyfer Ebrill 2023 - Mawrth 2024

  • Mae plot llawn yn costio £61.51 y flwyddyn
  • Mae hanner plot, neu wely uwch yn costio £30.75 y flwyddyn 

Safleoedd Rhandir

Rhandiroedd The Meadows, Swinchiard Walk, Y Fflint, CH6 5HB

  • Mae 16 plot llawn ar y safle
  • Mae cyflenwad dŵr ar y safle
  • Mae’r safle wedi ei ddiogelu gan ffens a giât

Rhandir Allt Goch, Rhodfa Tywysog Cymru, Y Fflint, CH6 5DL

  • Mae 20 plot ar y safle, yn cynnwys plotiau llawn a hanner plotiau
  • Mae cyflenwad dŵr ar y safle
  • Mae’r safle wedi ei ddiogelu gan ffens a giât

Rhandiroedd Maes Afon, Maes Afon, Y Fflint, CH6 5HR

  • Mae 14 plot ar y safle, yn cynnwys plotiau llawn a hanner plotiau
  • Mae cyflenwad dŵr ar y safle
  • Mae’r safle wedi ei ddiogelu gan giât

Rhandiroedd Henry Taylor Street, Henry Taylor Street, Y Fflint. CH6 5PS

  • Mae 13 plot ar y safle, yn cynnwys plotiau llawn a hanner plotiau
  • Mae cyflenwad dŵr ar y safle
  • Mae’r safle wedi ei ddiogelu gan ffens a giât
  • Mynediad i’r anabl ar y safle

Rhandiroedd The Woodlands, Dobshill, CH5 3NA

  • Mae 6 plot llawn ar y safle
  • Mae cyflenwad dŵr ar y safle (System Casglu Dŵr Glaw)
  • Mae’r safle wedi ei ddiogelu gan ffens a giât