Alert Section

Cynllun Datblygu Lleol


Mabwysiadwyd CDLl Sir y Fflint gan y Cyngor ar 24/01/23 ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2015 a 2030. Mae’n ffurfio rhan o’r cynllun datblygu statudol ochr yn ochr â Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Y rhan sy’n weddill o’r cynllun datblygu statudol fydd y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru, pan fydd wedi’i baratoi a’i fabwysiadu. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r CDLl a Cymru’r Dyfodol fel y brif sail ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a chynigion datblygu.

Mae mabwysiadu’r CDLl yn cyd-fynd â’r dogfennau canlynol: Datganiad ar ôl Mabwysiadu ymaAdroddiad Terfynol Arfarniad o Gynaliadwyedd yma & Diweddariad i Fabwysiadu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yma

Dogfennau CDLlMae

Datganiad ysgrifenedig – yn cynnwys cyflwyniad, strategaeth, polisïau strategol, polisïau rheoli datblygu manwl a fframwaith monitro. Mae modd gweld y datganiad ysgrifenedig mabwysiedig yma.

Mapiau Cynigion – gellir gweld y mapiau cynigion naill ai fel map rhyngweithiol yma neu fel cyfres o ddogfennau pdf isod (mae’r map hwn yn darparu canllaw gweledol syml i’r hyn a gaiff ei gwmpasu ar bob un o’r mapiau):

Mae’r CDLl wedi’i ategu gan fap cyfyngiadau ar wahân, a gellir ei weld fel map rhyngweithiol yma. Mae’r map cyfyngiadau er gwybodaeth yn unig ac nid yw’n ffurfio rhan o’r cynllun datblygu statudol a fabwysiadwyd.

Paratoi ac Archwilio'r CDLl Mae manylion y camau amrywiol wrth baratoi'r CDLl, gan gynnwys y sylfaen dystiolaeth, ymgynghoriadau allweddol a'r Archwiliad ar gael i'w gweld yma

Mae fersiynau terfynol o’r CDLl a fabwysiadwyd nawr ar gael i’w gweld mewn copi caled yn Nhŷ Dewi Sant yn Ewloe, Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug, Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu ac mewn llyfrgelloedd.