Alert Section

Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol


Canllawiau Cynllunio Atodol Presennol

Adolygodd y Cyngor a diweddaru'r mwyafrif o'r Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol ac Atodol presennol i gefnogi defnydd parhaus Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Sir y Fflint a fabwysiadwyd. Cafodd y nodiadau cyfarwyddyd eu diweddaru, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus am 8 wythnos (o 18 Rhagfyr 2015 hyd 12 Chwefror 2016 ac o 10 Mehefin i 22 Gorffennaf 2016 ar gyfer CCA Rhif 23) ac mae newidiadau wedi'u cymeradwyo gan Aelodau drwy'r Grŵp Strategaeth Cynllunio. Mae'r broses hon wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a chafodd y Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol newydd eu mabwysiadu'n ffurfiol gan Gabinet y Cyngor ar 17.01.17.

Bydd yr holl gynigion datblygu yn ystyried Canllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig lle bo'n berthnasol, sy'n cynnwys canllawiau manwl ynghylch safleoedd unigol, materion datblygu, a mathau penodol o ddatblygiad a byddant yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. O ran ystyriaethau perthnasol, gellir rhoi mwy o bwysau at nodyn cyfarwyddyd os cafodd ei fabwysiadu'n ffurfiol fel Canllaw Cynllunio Atodol.

Mae'r CDU wedi'i ddisodli gan y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd ar 24 Ionawr 2023. Mae'r CDLl yn darparu'r sail ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio. Mae’r Cyngor bellach yn gweithio tuag at adolygu’r CCA presennol a nodiadau canllaw presennol eraill ond yn y cyfamser, dylid dal i roi pwysau ar y CCA presennol fel y nodir yn y tabl hwn

Adolygiad o Ganllawiau Cynllunio Atodol – cliciwch yma

Er mai dyddiad dod i ben y CDU yw 31 Rhagfyr 2015, mae'r Cynllun Datblygu Unedol yn dal i gael ei ddefnyddio fel y cynllun a fabwysiadwyd fwyaf diweddar ar gyfer dibenion rheoli datblygu a bydd yn ystyriaeth berthnasol bwysig mewn unrhyw benderfyniadau cynllunio hyd nes y bydd y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yn dod yn ei le. Mae'r nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig fel a ganlyn: 

Bydd dogfennau Cymraeg ar gael ar hyn o bryd yn fuan

Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol Anffurfiol:

  1. Estyniadau a Newidiadau mewn Anheddau 
  2. Lle o Amgylch Anheddau - Er bod y safonau a nodir yn LPG2 yn absoliwt, neu’n bellteroedd isaf, mae’n bosibl y bydd adegau pan fo modd cymhwyso’r safonau gyda rhywfaint o hyblygrwydd. Mae'n rhaid i adegau o'r fath fod yn seiliedig ar amgylchiadau penodol datblygiad arfaethedig lle gellir gwneud dyfarniad cynllunio i ganiatáu safon is heb achosi niwed annerbyniol i amwynder preswyl.
  3. Tirlunio 
  4. Coed a Datblygu 
  5. Trosi Adeiladau Gwledig 
  6. Adeiladau Rhestredig 
  7. Ardaloedd Cadwraeth 
  8. Gwarchod Natur a Datblygu 
  9. Tai Fforddiadwy 
  10. Tai Newydd mewn Cefn Gwlad Agored 
  11. Safonau Parcio 
  12. Mynediad i Bawb 
  13. Gofynion Lle Agored 
  14. Rheoli a Gwaredu Gwastraff (I ddilyn)
  15. Blaenau Siopau (I ddilyn)
  16. Hysbysebion 
  17. Echdynnu Mwynau (I ddilyn)
  18. Telegyfathrebu 
  19. Systemau Draenio Cynaliadwy 
  20. Arbed Ynni ac Ynni Adnewyddadwy i Ddeiliaid Tai a Busnesau Bach 
  21. Asesiadau Effaith Amgylcheddol 
  22. Goblygiadau Cynllunio

CCA Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

SPGN - Cynllunio ar gyfer awyr dywyll y nos yn yr AHNE

Canllawiau Cynllunio Atodol a Fabwysiadwyd:

  • 23. Cyfraniad Datblygwyr at Addysg 
  • 24. Cadw Cyfleusterau Lleol 
  • Datblygu brîff ar gyfer Tai ar y Safle Cyfansawdd, i’r gorllewin o Barc Siopa Brychdyn 
  • Brîff Datblygu ar gyfer tai ar y Tir ger Ffordd Eldon, Sychdyn 

Mae Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol yn cael eu hadolygu a’u diweddaru ar hyn o bryd.  Yna byddant yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a phenderfyniad Cyngor er mwyn iddynt gael eu cymeradwyo fel Canllawiau Cynllunio Atodol ffurfiol.  Byddant ar gael yn Gymraeg yn fuan ar ôl eu cymeradwyo’n ffurfiol.  Os oes angen cyfieithiad arnoch yn y cyfamser e-bostiwch cynlluniaudatblygu@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 01352 703212.