Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfraith newydd, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Y nod yw cael un system mewn perthynas â’r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac yn derbyn addysg a/neu hyfforddiant.
Bydd y wefan hon yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar ADY, y system ADY newydd a beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
Cyhoeddwyd y Cod ADY yn 2021 i gefnogi gweithrediad y Ddeddf newydd. Mae’n darparu canllawiau statudol, clir ar y system ADY ar gyfer awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, sefydliadau addysg bellach a byrddau iechyd eu dilyn. Mae’r Cod yn amlinellu’r dyletswyddau ar y cyrff hyn pan ddaw y posibilrwydd fod gan blentyn neu unigolyn ifanc ADY i’w sylw.
Mae’r Cod yn nodi’r ddyletswydd ar ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach i ddynodi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy’n gyfrifol am sicrhau fod anghenion y plant gydag ADY yn cael eu diwallu. Mae’r rôl yn debyg i rôl flaenorol y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig.
Rhaid i holl fyrddau iechyd gael Swyddog Arweiniol Clinigol Addysgol Dynodedig. Maent yn gyfrifol am gydlynu dyletswyddau’r bwrdd iechyd o dan y system newydd.
Diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY):
(1) Mae gan unigolyn anghenion dysgu ychwanegol os yw ef neu hi ag anawsterau dysgu neu anabledd (os yw’r anhawster dysgu neu anabledd yn codi o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
(2) Mae gan blentyn o oedran ysgol gorfodol neu unigolyn dros yr oedran hwnnw, anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi:
(a) yn cael llawer mwy o anhawster yn dysgu na mwyafrif y plant o'r un oed, neu (b) gydag anabledd ar gyfer dibenion y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n rhwystro neu’n atal ef neu hi rhag defnyddio’r cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill yr un oed mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
(3) Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi yn, neu os byddent pe na bai darpariaeth dysgu ychwanegol yn cael ei wneud, yn debygol o fod o fewn isadran (2) pan fyddent o oedran ysgol gorfodol.
Diffiniad o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol:
(1) Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” ar gyfer unigolyn tair oed neu hyn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy'n ychwanegol at yr hyn, neu sy'n wahanol i'r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o'r un oedran:
(a) ysgolion a gynhelir prif ffrwd yng Nghymru,
(b) sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu
(c) llefydd yng Nghymru lle darperir addysg meithrin.
(2) Mae “darpariaeth ddysgu ychwanegol” ar gyfer plentyn dan dair oed yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
Ystyried a phenderfynu ar ADY
Bydd anghenion addysgol ac ADY mwyafrif o blant a phobl ifanc yn Sir y Fflint yn cael eu canfod, eu diwallu a’u monitro o fewn ysgolion prif ffrwd neu sefydliadau addysg bellach lleol. Bydd hyn drwy wahaniaethu a mynediad at strategaethau perthnasol ac ymyraethau a dargedir o fewn cynnig cynhwysol o addysg safon uchel.
Os daw'r posibilrwydd o ADY i sylw ysgol neu sefydliad addysg bellach, rhaid iddynt ystyried a phenderfynu os oes gan y plentyn neu berson ifanc ADY, ac angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae gan ysgolion 35 diwrnod i benderfynu ac os cytunir ar ADY, rhaid paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Mewn achosion lle mae Cyngor Sir y Fflint angen gwneud y penderfyniad, mae terfyn amser o 12 wythnos i benderfynu a pharatoi CDU pan gytunir ar ADY. Mae’r terfynau amser hyn yn amodol nad oes amgylchiadau eithriadol yn codi a all arwain at oedi.
Os ydych chi’n bryderus am gynnydd eich plentyn ac yn credu bod ganddynt ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol, siaradwch ag athro/athrawes eich plentyn neu’r Cydlynydd ADY yn ysgol eich plentyn. Gall y plentyn neu berson ifanc hefyd wneud cais eu hunain.
Y Gymraeg
Os yw plentyn neu berson ifanc angen darpariaeth ddysgu ychwanegol trwy’r Gymraeg, rhaid i’r ysgol, sefydliad addysg bellach neu Gyngor Sir y Fflint gymryd holl gamau rhesymol i sicrhau’r ddarpariaeth. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau i holl blant, gan gynnwys y rhai gydag ADY trwy ddarpariaeth addysgol a gwneir pob ymdrech rhesymol i gynnig gwasanaethau arbenigol ac ymyrraeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynlluniau Datblygu Unigol – Cynllun unedig
Mae gwybodaeth am ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn cael ei ysgrifennu i mewn i Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n disgrifio anghenion yr unigolyn a’r ddarpariaeth sydd ei angen i’w helpu i gyflawni’r canlyniadau gofynnol.
Bydd CDU yn disodli ystod o gynlluniau addysgol sydd eisoes yn eu lle ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol neu goleg. Mae’r rhain yn cynnwys Cynlluniau Addysgol Unigol, Datganiadau Addysg Arbennig a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau. Ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, bydd y CDU yn ffurfio rhan o’u Cynllun Addysg Personol.
Bydd CDU mwyafrif y plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cael eu paratoi a’u cadw gan yr ysgol neu sefydliad addysg bellach. Bydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddiwallu mwyafrif o anghenion unigolion yn cael ei fodloni drwy gyllidebau dirprwyedig.
Mae CDU rhai grwpiau o blant wedi cael eu paratoi a’u cadw gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r rhain yn cynnwys plant gydag ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol sydd unai’n ‘derbyn gofal’, yn derbyn addysg yn y cartref neu wedi’u cofrestru mewn mwy nac un lleoliad.
Bydd yr holl CDU yn cael eu hadolygu mewn adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o leiaf unwaith y flwyddyn. Gall gais i gynnal adolygiad yn gynt gael ei wneud gan unrhyw unigolyn perthnasol, gan gynnwys y plentyn, y rheini neu’r unigolyn ifanc.
Arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae’r system ADY yn gosod mwy o ganolbwynt ar roi’r plentyn neu berson ifanc yn ganolog i’r broses wrth gynllunio, canfod eu ADY a phenderfynu ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach ystyried barn, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni neu’r person ifanc.
Bydd ysgolion, sefydliadau addysg bellach a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda phlant, eu rhieni, neu’r person ifanc wrth benderfynu ar ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol. Lle bod angen, bydd gwasanaethau perthnasol megis gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd hefyd yn cael eu cynnwys.
Mae ystod o adnoddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gall ysgolion a Chyngor Sir y Fflint eu defnyddio i gipio barn, dymuniadau a theimladau. Mae’r adnoddau hyn yn helpu i gefnogi cyfathrebu, cynllunio a gwneud penderfyniadau. Gall y wybodaeth a gesglir gan ddefnyddio’r adnoddai hyn, gael eu defnyddio i ddatblygu Proffil Un Dudalen, sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig o dan dri pennawd allweddol:
• Beth mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu amdana i
• Beth sy'n bwysig i mi, a
• Y ffordd orau i fy nghefnogi
Bydd adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau fod llais pawb yn cael ei glywed, gan ystyried y wybodaeth berthnasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r canllaw defnyddiol hwn ar gyfer teuluoedd:
https://llyw.cymru/adolygiadau-syn-canolbwyntio-ar-unigolion-canllawiau-i-deuluoedd
Hawl gyson a chlir ar gyfer apelio
Cydnabyddir weithiau y bydd anghydfodau am benderfyniadau yn codi. Yn unol â Chod ADY 2021, mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu datrys cyn gynted â phosibl. Os yw plentyn, eu rhieni/gofalwyr neu’r person ifanc yn anghytuno â phenderfyniadau’r ysgol am yr ADY a’r darpariaeth ddysgu ychwanegol, gallent wneud cais i Gyngor Sir y Fflint ailystyried y mater. Yn dilyn y broses ailystyried, bydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad. Mae ganddynt 7 wythnos i benderfynu, ac os gytunir ar yr ADY, dylent baratoi CDU. Mae’r terfyn amser yn amodol nad oes amgylchiadau eithriadol yn codi a all arwain at oedi.
Mae gan holl blant, eu rhieni/gofalwyr a phobl ifanc, yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan Gyngor Sir y Fflint, neu sefydliad addysg bellach mewn perthynas â’u ADY neu eu darpariaeth ddysgu ychwanegol.
Pan fydd yr ysgol, sefydliad addysg bellach neu Gyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad am ADY, rhoddir llythyr neu daflen gwybodaeth, sy’n egluro sut all plant, eu rhieni neu’r person ifanc ymarfer eu hawliau.
Gall teuluoedd yn Sir y Fflint gael mynediad at Wasanaeth Cefnogi a Gwybodaeth ADY rhanbarthol newydd. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan SNAP Cymru a bydd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ddiduedd ar gyfer plant a’u rhieni neu ofalwyr a phobl ifanc sydd ag/neu sydd o bosibl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys datrys anghydfodau ac eiriolaeth ADY ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am SNAP Cymru ar Hafan - SNAP CymruSNAP Cymru.
Plant o dan oedran ysgol gorfodol
Mae gan Gyngor Sir y Fflint Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar. Mae eu rôl yn cynnwys plant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir. Maent yn gyfrifol am gydlynu ein dyletswyddau fel Cyngor, codi ymwybyddiaeth o ADY, a hyrwyddo canfod anghenion yn gynnar.
Eclipse
Bydd Cyngor Sir y Fflint a’i ysgolion yn defnyddio system TG Eclipse i reoli ei brosesau o dan y system ADY newydd. Defnyddir Eclipse gan dri awdurdod cymdogol eraill a fydd yn cefnogi dull cyson ar draws y rhanbarth.
Symud i’r system newydd
Mae dull graddol, cam wrth gam i weithredu’r system newydd. Bydd plant sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) sydd eisoes yn hysbys, yn trosglwyddo i’r system newydd dros gyfnod o 3 blynedd. Mae hyn yn cynnwys plant yn Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a’r rhai gyda Datganiad AAA.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi amserlen ar gyfer trosglwyddo i’r system newydd y bydd rhaid i ysgolion a’r Cyngor ei weithredu. Rhan o’r broses yn gyntaf fydd ystyried a phenderfynu os yw plentyn neu berson ifanc yn bodloni’r diffiniad o ADY fel yr amlinellir o fewn y Ddeddf newydd, hynny yw, eu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Yn dibynnu ar y penderfyniad, bydd llythyr o’r enw Hysbysiad yn cael ei anfon i rieni’r plentyn neu berson ifanc. Os oes cytundeb fod gan y plentyn/person ifanc ADY, fel y diffinnir o fewn y Ddeddf, bydd Hysbysiad CDU’ yn cael ei anfon. Os oes penderfyniad nad oes ADY, bydd ‘Hysbysiad Dim CDU’ yn cael ei anfon.
Dolenni defnyddiol
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021