Alert Section

Cynllun Ariannu Cyfle Cynnar, Sir y Fflint


Mae ceisiadau ar gyfer tymor y Gwanwyn sy’n dechrau 8 Ionawr 2024 ar agor i blant sydd â’r dyddiad geni rhwng 1 Medi 2020 a 7 Ionawr 2021.

Mae ceisiadau ar gyfer tymor yr Haf sy’n dechrau ar 8 Ebrill 2024 yn agor ar 12 Chwefror 2024 i blant gyda dyddiad y ddau rhwng 8 Ionawr 2021 a 7 Ebrill 2021.

Nid yw plant sydd â dyddiadau geni rhwng 8 Ebrill 2021 a 31 Awst 2021 yn gymwys ar gyfer cyllid Hawl Bore Oes ond bydd angen iddynt lenwi cais ar gyfer Ysgol Feithrin sy'n dechrau ym mis Medi 2024 - gellir dod o hyd i'r cais yma: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/School-Admissions.aspx

-----------------------------------------------------------------------

Cliciwch yma i agor y ffurflen gais.

Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion penodol o weinyddu, monitro a rheoli’r Cynllun Cyfle Cynnar. Gall ‘data personol’ ymwneud â’r rhiant/rhieni neu blentyn. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu’r data personol fel rhan o'i 'dasg gyhoeddus' o dan adran 118 Deddf Fframwaith Safonau Ysgolion 1998, i sicrhau darpariaeth addysg feithrin ddigonol ar gyfer ei ardal ac i gynorthwyo i ddarparu addysg cyson o ansawdd dda i blant tair a phedair oed yng Nghymru.

Mae’r Cynllun Cyfle Cynnar yn darparu addysg i blant 3 oed y mae eu pen-blwyddi yn disgyn rhwng dyddiadau penodol ym Medi a Mawrth/Ebrill bob blwyddyn. Mae’r Cynllun Cyfle Cynnar yn golygu bod angen i Gyngor Sir y Fflint a’ch lleoliad a ddewisir rhannu data personol, a fydd yn gyfyngedig yn unig i’r hyn sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno’r cynllun. Os nad ydych yn byw yn Sir y Fflint ond yn gwneud cais i fynychu lleoliad yn Sir y Fflint, efallai y bydd eich data personol yn cael ei rannu gyda'r Awdurdod Lleol ble rydych yn byw ar gyfer atal a chanfod twyll.

Mae Tîm Cyfle Cynnar Sir y Fflint yn cefnogi darpariaeth addysgol i blant 3 oed ac, er mwyn gwneud hyn, efallai y bydd yn rhannu gwybodaeth ynghylch presenoldeb plant a gofrestrwyd/ariannwyd mewn lleoliadau Cyfle Cynnar a/neu am eu datblygiad, gyda gwasanaethau mewnol Sir y Fflint megis Dechrau'n Deg, Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd, Cynhwysiant, Seicoleg a gyda staff ysgolion Sir y Fflint. Efallai y bydd y Tîm Cyfle Cynnar hefyd yn rhannu gwybodaeth yn allanol gyda Gwasanaethau Cefnogi Synhwyrau ac Iaith a Lleferydd Gogledd Ddwyrain Cymru, Tîm Datblygiad Cyn Ysgol Sir y Fflint ac ymwelwyr iechyd. Ble fo angen, at ddibenion cefnogi addysg a lles eich plentyn, efallai bydd y Tîm Cyfle Cynnar hefyd yn rhannu gwybodaeth a gafwyd gan y gwasanaethau mewnol ac allanol uchod gyda lleoliad Cyfle Cynnar eich plentyn.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth hyd ben-blwydd eich plentyn yn 18 oed.

Am fwy o wybodaeth am y ffordd mae Cyngor Sir Y Fflint yn prosesu data personol ac eich hawliau gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan neu gwnewch gais am gopi gan y Cyngor.

Deddfwriaeth berthnasol:

  • Deddf Fframwaith Safonau Ysgolion 1998
  • Rheoliadau Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (Cymru) 2003 (diwygiwyd gan Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005
  • Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Tîm y Blynyddoedd Cynnar

Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion Canolfan Gyswllt

Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a’r bobl sy’n byw ynddynt.  Mae cynnal y gwaith hwn yn golygu ein bod yn gorfod casglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydym yn rhoi gwasanaethau iddynt, ac i gadw cofnod o’r gwasanaethau hynny.  Oherwydd ein bod yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn gwybod beth rydym yn bwriadu ei wneud gyda'u gwybodaeth, a gyda phwy y gellir ei rhannu.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, rydym wedi crynhoi rhai o’r ffyrdd allweddol rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn Nhîm y Blynyddoedd Cynnar, a pham rydym yn recordio galwadau.  Dylid darllen yr wybodaeth hon ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.


Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn gyfrifol am ateb galwadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, y Tîm Datblygu Gofal Plant, Cyfle Cynnar a Chanolfan Westwood. 

Mae pob galwad i Dîm y Blynyddoedd Cynnar yn cael eu recordio, ac eithrio:

  • Galwadau lle gwneir taliadau
  • Galwadau sy’n gadael Tîm y Blynyddoedd Cynnar h.y. yn cael eu trosglwyddo'n fewnol i adrannau, gan fod recordiadau'n dod i ben pan wneir trosglwyddiad.

Pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw, a gwybodaeth gan bwy?

Lle mae cwsmeriaid yn dewis ymgysylltu â Thîm y Blynyddoedd Cynnar, gellir cadw eu data personol gyda’r maes gwasanaeth perthnasol/a'r sefydliadau ehangach os oes angen, er mwyn iddynt brosesu cais y cwsmer.

Ac eithrio manylion cerdyn talu, mae’r holl ddeialog a gwybodaeth a roddir gan y cwsmer i Ganolfan Westwood (ac i’r gwrthwyneb) yn ystod galwad ffôn gyda Thîm y Blynyddoedd Cynnar, yn cael eu dal a'u cadw yn y recordiad o'r alwad. Bydd y math o wybodaeth a gedwir gan y recordiadau hyn yn amrywio fesul galwad, ond maent fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt fel enw, cyfeiriad, rhif ffôn, eiddo a chyfeiriadau e-bost.
  • Manylion adnabyddadwy, fel dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.
  • Gwybodaeth ariannol, yn cynnwys manylion cyflogaeth, incwm a chyfrif banc.
  • Gwybodaeth deuluol yn cynnwys oedrannau, dibynyddion, statws priodasol.
  • Gwybodaeth am faterion fel iechyd a manylion meddygol.

O ble y caiff y gwasanaeth fy ngwybodaeth?

Gall ffynhonnell/ffynonellau gwybodaeth bersonol a roddir yn ystod galwad i/gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar gynnwys:

  • Gwybodaeth a roddwyd yn uniongyrchol gan y pwnc
  • Gwybodaeth a roddir gan aelod arall o’r cyhoedd (e.e. cwyn neu bryder)
  • Gwybodaeth a roddwyd gan Gynghorydd etholedig ar ran eu hetholwr.
  • Gwybodaeth a roddwyd gan swyddogion/gwasanaethau eraill y Cyngor sy’n ymgysylltu â Thîm y Blynyddoedd Cynnar er budd ei gwsmeriaid, neu'r Cyngor ei hun
  • Gwybodaeth a roddwyd gan sefydliadau eraill (e.e. Gwasanaethau Brys, Landlordiaid) ynghylch unigolyn.

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol?

Mae wedi dod yn arferiad cyffredin i gofnodi galwadau oherwydd twf y busnes a gynhelir dros y ffôn.  Mae recordio sgyrsiau cwsmeriaid yn galluogi’r Cyngor i asesu boddhad cwsmeriaid, hyfforddi a datblygu staff, adolygu ansawdd galwadau, a chael mynediad at gofnod llafar o’r hyn a ddywedir os bydd cwyn ddilynol.

Mae hefyd yn golygu y bydd gweithwyr yn teimlo eu bod wedi’u hamddiffyn yn fwy gan wybod y bydd tystiolaeth o unrhyw ymddygiad bygythiol, ac y gweithredir ar hyn lle bydd angen.

Gellir defnyddio gwybodaeth a gedwir o fewn recordiad o alwad yn y ffyrdd canlynol:

  • Dibenion Ansawdd a Hyfforddi – Dim ond gwybodaeth rannol y mae cofnodion ysgrifenedig yn ei ddarparu.  Mae recordiad o alwad yn rhoi safbwynt mwy cyflawn ac yn caniatáu i ni ddeall profiad cwsmeriaid yn well ac asesu’r prosesau a ddefnyddiwyd.    Gall hyn ein helpu i nodi unrhyw feysydd o welliant a sicrhau ansawdd gwasanaeth a roddir gan Swyddogion Cyswllt â Chwsmeriaid, drwy ddefnyddio’r wybodaeth o fewn y recordiad i lywio gwrthrychau'r hyfforddiant a chynlluniau datblygu gweithwyr unigol.
  • Ennill gwell dealltwriaeth o’n cwsmeriaid – Mae sawl galwad yn cael eu datrys ar lafar heb yr angen i gwblhau unrhyw gofnodion.  Bydd gwrando ar alwadau sampl yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid, ac ennill safbwynt mwy gwybodus ynghylch y sefydliadau y cyfeiriwn bobl atynt.
  • Cwynion ac Anghydfodau – Mae rhai galwadau’n cael eu datrys ar lafar.  Lle rhoddir gwybodaeth ar system electronig, dyma yw'r cofnod sefydledig wedyn.  Os bydd cwyn neu anghydfod, gall recordiad o'r alwad (os ydyw ar gael), roi gwybodaeth ychwanegol i'n helpu i ymchwilio i unrhyw honiadau, i ddiogelu buddion y gwrthrych a/neu'r Cyngor drwy ddefnyddio'r wybodaeth yn y recordiad i ymateb i gwynion ynghylch y Ganolfan Gyswllt a/neu wasanaethau eraill y Cyngor.
  • Hawliadau cyfreithiol - I’w defnyddio i amddiffyn hawliadau cyfreithiol yn erbyn y Cyngor.
  • Diogelwch a lles gweithwyr - Gall recordiad ddod yn ddarn hanfodol o dystiolaeth os bydd unrhyw fygythiadau’n cael eu gwneud i’r Cyngor neu unigolyn.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio’r wybodaeth hon?

Mae recordio pob galwad yn amddiffyn buddion y gwrthrych a'r Cyngor mewn cyfarfod:

  • Rhwymedigaethau Cyfreithiol – defnyddio’r wybodaeth i gydymffurfio â chyfraith gyffredin neu rwymedigaeth statudol
  • Tasgau Cyhoeddus – i arfer ‘awdurdod swyddogol’ a phwerau wedi’u gosod mewn cyfraith; neu i berfformio tasg benodol er budd y cyhoedd sydd wedi’i osod mewn cyfraith.

A yw’r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Er bod gwybodaeth a gesglir yn ystod yr alwad yn gallu cael ei rhannu â gwasanaethau eraill y Cyngor, neu sefydliadau allanol i gynorthwyo i ddatrys ymholiad y gwrthrych, mae recordiadau ffôn yn gyfrinachol a byddant ond yn cael eu rhannu gyda'r canlynol, lle mae rhesymau dros rannu'n cael eu cyfiawnhau:

  • Gwasanaethau eraill y Cyngor sy’n gweithio gyda’r Ganolfan Gyswllt, gyda’r bwriad o gynorthwyo i ddatrys anghydfod neu gŵyn.
  • Sefydliadau eraill ynghlwm wrth ofal y gwrthrych (h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol/gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac ati)

Am ba hyd y cedwir fy ngwybodaeth?

Mae recordiadau galwad a gedwir gan y Ganolfan Gyswllt yn cael eu cadw am 24 mis.  Unwaith y bydd y cyfnod hwn o gadw wedi dod i ben, bydd recordiadau'n cael eu dileu ac ni fydd modd eu hadfer mwyach.


Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, yn cynnwys yr hawl i gael mynediad at yr wybodaeth bersonol sydd gan y gwasanaethau amdanoch.

Am ragor o wybodaeth am eich gwybodaeth, a sut i’w gweithredu, ymweliad tudalen Deddf Diogelu Data


Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw bryderon neu eisiau gwybod mwy am sut mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni yn un o'r ffyrdd canlynol:

Trwy e-bost: EarlyEntitlementapplications@flintshire.gov.uk
Dros y ffôn: 01352 703930
Yn ysgrifenedig: Swyddog Cymorth Prosiect y Blynyddoedd Cynnar, Tabernacle Street, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2JT


Bydd eich plentyn yn derbyn lle mewn sefydliad cofrestredig Cyfle Cynnar naill ai ar gyfer:

  • 5 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, 2 awr o hyd
  • neu 4 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, 2 awr a hanner o hyd.

Bydd hyn yn ddibynnol ar beth mae eich sefydliad yn ei ddarparu.

 Gall sefydliad cofrestredig Cyfle Cynnar fod yn un o’r canlynol:-

  • cylch chwarae
  • meithrinfa dydd preifat
  • dosbarth meithrin neu uned blynyddoedd cynnar mewn ysgol leol

Mae’n rhaid i sefydliadau sy’n derbyn cyllid:

  • wedi cofrestru gyda, ac yn derbyn arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru  
  • fod â staff cymwys
  • derbyn arolygon gan Estyn
  • darparu’r sesiynau a nodir
  • derbyn cefnogaeth gan athro/athrawes gymwysedig yn rheolaidd. Gallwch ymgeisio drwy lenwi ffurflen gofrestru ar y ddolen isod.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw Cyngor Sir y Fflint yn hyrwyddo nac yn argymell unrhyw leoliad penodol, a dyletswydd y rhiant / gofalwr yw sicrhau bod y lleoliad a ddewisant yn addas.

Gallwch ond ymgeisio am gyllid mewn UN sefydliad.

Bydd y cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r sefydliad bob mis (Ionawr – Gorffennaf).

Fodd bynnag, mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu sesiynau Cyfle Cynnar wedi’u hariannu yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, mae’n bosibl y bydd meithrinfeydd preifat yn gofyn i chi am ffioedd atodol i dalu am gostau sesiwn bore neu brynhawn lawn yn y sefydliad.


Hawl i Gyllid

Gweler canllawiau Cyngor Sir y Fflint i Wasanaethau Addysg am wybodaeth fanwl ynglŷn a’r broses dderbyn: Derbyniadau Ysgol.

Nod Sir y Fflint yw darparu’r profiadau blynyddoedd cynnar gorau i’n plant ifanc drwy sesiynau chwarae o ansawdd.

I gael rhagor o wybodaeth:

Tîm Cynnig Gofal Plant/Cyfle Cynnar, dros y ffôn: 01352 703930 neu e-bost:  eefundingapplications@flintshire.gov.uk


Cyn llenwi’r ffurflen gofrestru:

  1. Gwiriwch â’ch darparwr gofal plant eu bod wedi cofrestru fel darparwr Cyfle Cynnar.
    Os oes gennych blentyn sydd yn gymwys am Gyfle Cynnar ond ni allwch ddod o hyd i leoliad addysg iddynt o fewn ardal benodol o fewn Sir y Fflint, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Blynyddoedd Cynnar ar 01352 703930.

  2. Gofynnwch i’ch darparwr Cyfle Cynnar:
      • A oes lle ar gael i’ch plentyn dderbyn addysg wedi’i ariannu drwy Cyfle Cynnar ac os felly, sawl awr yr wythnos mae eich darparwr yn gallu ei gynnig i’ch plentyn? Mae hawl gan eich plentyn i uchafswm o 10 awr o Addysg Cyfle Cynnar yr wythnos.
      • Pa ddyddiau ac amseroedd sydd ar gael ar gyfer eich plentyn?

  3. Cytunwch gyda’ch darparwr Cyfle Cynnar pa ddyddiau ac amseroedd y bydd eich plentyn yn mynychu 

    Os cynigiodd eich darparwr 10 awr o addysg Cyfle Cynnar wedi ei ariannu i’ch plentyn, ond ddewisoch chi i ddechrau i beidio manteisio ar y 10 awr yn llawn, gallwch gysylltu â'ch darparwr yn ddiweddarach i gynyddu oriau Cyfle Cynnar eich plentyn i'r 10 awr yn llawn.

    Gallwch wneud y newid hwn oni bai eich bod, ar unrhyw bryd, yn cytuno gyda’ch darparwr yn ysgrifenedig nad ydych yn dymuno cynyddu oriau Cyfle Cynnar eich plentyn yn ystod tymor/tymhorau’r Gwanwyn/Haf.

SICRHEWCH FOD EICH PLENTYN WEDI COFRESTRU Â’CH SEFYDLIAD CYFLE CYNNAR NEU FOD Y SEFYDLIAD WEDI DERBYN EICH MANYLION CYSWLLT CYN LLENWI’R FFURLFEN GOFRESTRU.


Llenwi’r ffurflen gofrestru:

Bydd gofyn i chi ddarparu llungopi o dystysgrif geni eich plentyn pan fyddwch yn cofrestru (os ydych yn ymgeisio drwy’r post, peidiwch ag anfon eich copïau gwreiddiol – dylid ond darparu llungopïau).

Bydd gennych 6 wythnos i gyflwyno’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi eich cais, yn dilyn hyn, byddwn yn cau ceisiadau nad ydynt wedi’u cwblhau a bydd yn rhaid cyflwyno cais newydd ar-lein pe baech yn dymuno bwrw ymlaen â’r cais ymhellach.

Cwblhewch y ffurflen gofrestru isod os gwelwch yn dda, gan sicrhau eich bod yn nodi'r darparwyr Cyfle Cynnar cywir yn y ddewislen ar y ffurflen.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni ar unwaith os yw nifer yr oriau yn newid, os ydych yn symud at ddarparwr arall neu os ydych yn symud tŷ neu’n newid cyfeiriad e-bost. Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich cyllid Cyfle Cynnar.


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod fod eich cais wedi cael ei gymeradwyo. Efallai y byddwch yn derbyn e-bost gennym, o dro i dro, er mwyn cadarnhau bod eich amgylchiadau yn dal yr un fath.

Bydd ceisiadau ar gyfer cyllid Cyfle Cynnar ar agor.
-----------------------------------------------------------------------

Cliciwch yma i agor y ffurflen gais.