Alert Section

Trosolwg Cyffredinol

Flintshire Play Logo (Transparent)

Hwrê, mae hi’n haf!

Bydd Cynlluniau Chwarae’r Haf Sir y Fflint yn cael eu darparu mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol a Llywodraeth Cymru.

Mae mwyafrif ein tîm yn staff sydd yn dychwelyd o gynllun chwarae’r haf diwethaf yn 2022. Maent wedi cael gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a byddant wedi cwblhau rhaglen hyfforddiant llawn a chynhwysfawr.   Mae’r hyfforddiant yn cynnwys Rheoli Risg; Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle; Cymorth Cyntaf; Amddiffyn Plant; Diogelu ac Ymwybyddiaeth o Anableddau. 

Bydd yr holl weithgareddau a gemau yn cael eu trefnu mewn cydymffurfiaeth â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cynlluniau chwarae mynediad agored yn ddiogel. 


Bydd rhieni a gofalwyr yn gallu cofrestru ar-lein o 1 Gorffennaf ymlaen. Bydd cofrestru ymlaen llaw yn orfodol ar gyfer bob safle.   Ar ôl cwblhau’r broses gofrestru, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion. 

DYDDIADAU
Dydd Llun 24 Gorffennaf – Dydd Gwener 1 Medi (dyddiau’r wythnos) 

HYD
Gall nifer yr wythnosau ar safleoedd amrywio o 3, 4, 5 neu 6 wythnos yn dibynnu ar leoliad, mae’r rhain wedi’u nodi mewn cromfachau ger pob safle.  Bydd rhestr safleoedd 2023 hefyd yn nodi os yw safleoedd yn cyflwyno darpariaeth yn y bore (10:30am - 12:30pm) neu yn y prynhawn (2:00pm - 4:00pm)

DIM COST 
Bydd yr holl sesiynau am ddim.

OEDRANNAU
5 – 12 OED – POB SAFLE

HEBLAW
5-11 OED – QUAYPLAY,  CEI CONNAH, CENTRAL PARK YN UNIG 

CYSYLLTWCH Â
E-bost - cynllunchwaraesyff@siryfflint.go.uk
Tel: 01352 704154 

Bydd y sesiynau chwarae’n cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint.

Ymgeisiwch Rŵan

 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw chwarae peryglus?

Mae Chwarae Peryglus yn bwysig i ddatblygiad plant, mae’n eu galluogi i herio eu hunain, arbrofi gyda chyfyngiadau, goresgyn ofnau ac archwilio ffiniau. Gall Chwarae Peryglus gynnwys dringo, neidio, cydbwyso, llithro, siglo a mathau eraill o chwarae.  Bydd ein tîm yn sicrhau bod eich plentyn yn cael cyfle i gael mynediad at chwarae peryglus dan oruchwyliaeth ddiogel. 

Beth yw chwarae mynediad agored dan oruchwyliaeth?

Mae Mynediad Agored yn cyfeirio at allu plant i chwarae’n rhydd a mynychu cynlluniau chwarae a gadael fel y mynnant.   Bydd ein staff yn annog plant i aros ar y safle, ond rydym hefyd yn annog rhieni/gwarcheidwaid i drafod eu disgwyliadau gyda’r plentyn cyn mynychu.   Mae fyny i chi benderfynu p’un a fydd eich plentyn yn dilyn eich cyfarwyddiadau neu beidio. 

Mae Chwarae Dan Oruchwyliaeth yn cyfeirio at gyfrifoldeb y staff.   Eu gwaith nhw yw goruchwylio er mwyn sicrhau fod gan blant amgylchedd diogel i chwarae.  Cynghorir staff fel rhan o’u hyfforddiant i roi’r hawl i blant chwarae heb ymyrraeth oedolion, gan ymuno os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny. 

A oes rhaid i mi adael fy mhlentyn?

Nag oes, mae croeso i chi aros o gwmpas gyda’ch plentyn, a chewch ddod â phicnic gyda chi a mwynhau cymdeithasu gydag eraill. 

Ble a phryd mae’r Cynlluniau Chwarae’n cael eu cynnal?

Mae sesiynau bore a phrynhawn yn cael eu cynnal ar draws Sir y Fflint, gweler isod am amseroedd a rhestr o safleoedd.  

Sicrhewch eich bod hefyd yn cofrestru eich plentyn ymlaen llaw ar-lein ar gyfer bob safle.  Gallwch eu cofrestru ar gyfer nifer o safleoedd os ydych yn dymuno iddynt fynychu mwy nag un. 

Rhestr Lleoliadau

Bydd Cynlluniau Chwarae yn dechrau ar draws y sir o ddydd Llun 24 2023 Gorffennaf (diwrnodau’r wythnos yn unig)

  • Cynhelir cynlluniau chwarae 3 wythnos o hyd rhwng 24 Gorffennaf 11 a Awst
  • Cynhelir cynlluniau chwarae 4 wythnos o hyd rhwng 24 Gorffennaf 18 a Awst
  • Cynhelir cynlluniau chwarae 5 wythnos o hyd rhwng 24 Gorffennaf 25 a Awst
  • Cynhelir cynlluniau chwarae 6 wythnos o hyd rhwng 24 Gorffennaf 1 a Medi

Safleoedd Sesiynau Bore’r Cynllun Chwarae - 10:30am -12:30pm

(Mae nifer yr wythnosau mewn cromfachau)

  • Bagillt, Cae Chwarae Ffordd Fictoria (6)
  • Brychdyn, Cae Chwarae Brookes Ave (3)
  • Brynffordd, Cae Hamdden (3)
  • Bwcle, Cae Elfed (4)
  • Bwcle, Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood (4)
  • Caerwys, Meysydd Chwarae’r Sefydliad Coffa (3)
  • Carmel, Ysgol Bro Carmel (5)
  • Cilcain, Cae Hamdden (3)
  • Cei Connah, Parc Canolog (6) (5-11 mlwydd oed)
  • Cymau, Maes Chwarae (Mawrth/Iau) (3)
  • Mynydd y Fflint, Ardal Chwarae (4)
  • Y Fflint, Ardal Hamdden Albert Avenue. (4)
  • Maes Glas, Canolfan Gymunedol (Cae) (6)
  • Gwernaffield, Cwt Scouts (3)
  • Penarlâg, Level Road (3)
  • Treffynnon, Ardal Hamdden Pen y Maes (6)
  • Coed-llai, Parc Phoenix (6)
  • Mancot, Meysydd Chwarae (3)
  • Yr Wyddgrug, Maes Chwarae Parkfields (4)
  • Yr Wyddgrug, Ysgol Glanrafon (Cyfrwng Cymraeg) (6)
  • Northop Hall, Cae Chwarae (4)
  • Llaneurgain, Ysgol Owain Jones (I’w gadarnhau) (3)
  • Pentre Helygain, Maes Chwarae (3)
  • Pontybodkin, Maes Chwarae (Llun/Mer/Gwe) (3)
  • Trelawnyd, Ardal Hamdden (5)
  • Trelogan, Canolfan Gymunedol (3)

Safleoedd Sesiynau Prynhawn y Cynllun Chwarae - 2:00pm - 4:00pm

(Mae nifer yr wythnosau mewn cromfachau)

  • Abermorddu, Ysgol Gynradd Gymunedol Llun/Mer/Gwe (3)
  • Aston, Caeau Chwarae Gary Speed (3)
  • Bagillt, Ysgol Merllyn (6)
  • Bwcle, Tir Comin (4)
  • Bwcle, Parc Drury (4)
  • Ffrith, Maes Chwarae Maw/Iau (3)
  • Y Fflint, Coed Onn (4)
  • Y Fflint, Parc Cornist (4)
  • Y Fflint, Dee Cottages (4)
  • Garden City, Ardal Chwarae Ffordd Cymraeg (6)
  • Gronant, Caeau’r Pentref (3)
  • Gwernymynydd, Maes Chwarae (3)
  • Penarlâg, Caeau Chwarae Gladstone (3)
  • Holway, Safle Hamdden Meadowbank (6)
  • Treffynnon, Ardal Chwarae Penrhyn (6)
  • Yr Hôb, Yr Willows (3)
  • Licswm, Ardal Chwarae (3)
  • Yr Wyddgrug, Ardal Chwarae Gas Lane (4)
  • Mostyn, Ardal Hamdden Maes Pennant (3)
  • Mynydd Isa / New Brighton, (Safleoedd Cymysg) (4)
  • Penyffordd (Caer), Ardal Chwarae (4)
  • Penyffordd (Treffynnon), Ardal Chwarae (4)
  • Rhosesmor, Ardal Hamdden (3)
  • Saltney, Cae Chwarae Park Avenue (3)
  • Sandycroft, Ardal Hamdden Park Avenue (3)
  • Shotton, Cae Clwb 33 (5)
  • Oakenholt, Maes Chwarae ar ystâd newydd, (6)
  • Sychdyn, Ardal Chwarae (3)
  • Chwitffordd, Caeau Glebe. (5)

Nid yw fy mhlentyn yn 5 oed eto?

Yn anffodus rydym ond yn cael goruchwylio plant 5 oed a hŷn, ond mae croeso i chi aros gyda nhw ar y safle.