Alert Section

Prosiectau Gwaith Chwarae

Mae prosiectau gwaith chwarae yn fentrau sy'n canolbwyntio ar greu a darparu cyfleoedd chwarae cyfoethog i blant a phobl ifanc. Mae'r prosiectau hyn wedi eu dylunio i hyrwyddo pwysigrwydd sylfaenol chwarae ym mywydau plant a phwysleisio gwerth chwarae hunan-gyfeiriedig dan arweiniad y plentyn.

Mae prosiectau gwaith chwarae yn golygu creu mannau chwarae pwrpasol, trefnu digwyddiadau a chynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae.

Egwyddorion Allweddol Gwaith Chwarae

Mae Chwarae yn Werthfawr: Mae prosiectau gwaith chwarae yn cydnabod chwarae fel agwedd hanfodol o ddatblygiad plant, gan eu galluogi i archwilio, dysgu a gwneud synnwyr o’u byd. 

Canolbwyntio ar y Plentyn: Mae gwaith chwarae yn pwysleisio ymreolaeth a hunan fynegiant y plentyn. Caiff plant eu hannog i ddewis sut a beth maent yn ei chwarae, tra bod yr oedolion yn ymgymryd â rôl gefnogol.

Cynhwysiant: Mae prosiectau gwaith chwarae yn ymdrechu i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob plentyn, waeth beth fo’u galluoedd, cefndiroedd neu eu hamgylchiadau.

Risg a Her: Mae gwaith chwarae yn gwerthfawrogi pwysigrwydd caniatáu i blant gymryd risgiau penodol a chymryd rhan mewn gweithgareddau heriol, gan feithrin twf personol a gwytnwch.

Rhyddid i Ddewis: Mae Gweithwyr Chwarae yn darparu ystod o adnoddau a chyfleoedd, gan alluogi plant i benderfynu ar eu gweithgareddau chwarae eu hunain yn seiliedig ar eu diddordebau a’u hanghenion.

Mae prosiectau gwaith chwarae yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. Drwy greu amgylcheddau chwarae sy’n ymgysylltu a chefnogi ymreolaeth plant, mae prosiectau gwaith chwarae yn cyfrannu at les a datblygiad cyffredinol plant a phobl ifanc. 

Y Ddarpariaeth Bresennol

Darpariaeth Gymunedol (yn ystod y tymor yn unig)

  • Yr Holway – Dydd Llun – 3:30yp - 5:30yp
  • Gas Lane Yr Wyddgrug – Dydd Mawrth
  • Coed-llai – Dydd Iau – 3:30yp - 5:00yp
  • New Brighton  – Dydd Iau – 3:30yp - 5:30yp

Mae ein darpariaethau cymunedol yn annog chwarae y tu allan i leoliad strwythuredig. Gan hyrwyddo pwysigrwydd chwarae a’r manteision o ran datblygiad unigolyn ifanc. Drwy risgiau penodol, darnau rhydd, celf a chrefft a llawer mwy o weithgareddau fe fydd pobl ifanc yn dysgu, datblygu a ffynnu ym myd chwarae.

Cofrestrwch i chwarae!

Fe fynychodd dros 1294 o blant ddarpariaeth gymunedol yn 2023!

Hysbysiad Preifatrwydd Platfform Cofrestru Ar-lein Datblygu Chwarae Sir y Fflint