Alert Section

Cwynion am Ysgolion


Cyflwyno cwyn i Ysgol eich plentyn

Os oes anhawster wedi codi gydag ysgol, dylech allu ei ddatrys drwy gael trafodaeth anffurfiol gyda staff perthnasol yr ysgol.  Os na allwch ei ddatrys yn anffurfiol, dylai fod gan yr ysgol weithdrefn gwynion ffurfiol y gallwch ei dilyn.

  • Cam A:  Mynegwch eich pryder wrth yr athro/athrawes neu'r unigolyn dynodedig ysgol

Mater heb ei datrys:-

  • Cam B: Ysgrifennwch at y pennaeth (neu unigolyn dynodedig yr ysgol) o fewn pum diwrnod ysgol.  (Os yw’r gŵyn yn ymwneud â’r pennaeth, dylech ysgrifennu at gadeirydd y corff llywodraethu).

Dylech allu trefnu cyfarfod neu sgwrs dros y ffôn gyda’r pennaeth drwy swyddfa’r ysgol.  Os nad yw hyn yn ymarferol, gallech gyflwyno cwyn ysgrifenedig.

Ffurflen Gwyno Ysgol

Bydd y pennaeth neu unigolyn arall a ddynodir gan yr ysgol yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn cyfarfod â chi.  Byddwch yn cael llythyr yn nodi’r canlyniad o fewn 10 diwrnod ysgol i’r  dyddiad y bydd eich llythyr wedi dod i law.

Cwyn heb ei datrys:-

  • Cam C:  Ysgrifennwch at Gadeirydd y Llywodraethwyr o fewn pum diwrnod Ysgol.  (Osyw’r gwyn yn ymwneudd a chadeirydd y llwodraethwyr, dylech ysgrifennu at yr is-gadeirydd.

Os nad yw eich anhawster yn cael ei ddatrys, cysylltu â chorff llywodraethu’r ysgol yw’r cam nesaf.  Mae’n ofynnol i bob ysgol wladol gael gweithdrefn i ymateb i unrhyw gwynion sy’n ymwneud â’r ysgol, neu unrhyw gyfleusterau neu wasanaethau mae’r ysgol yn eu darparu i’r gymuned leol.

Os hoffech wneud cwyn i’r corff llywodraethu, gofynnwch i’r ysgol am gopi o’i gweithdrefn gwynion. Rhaid i bob cwyn a gyflwynir i’r corff llywodraethu fod yn ysgrifenedig ac at sylw Cadeirydd y Llywodraethwyr yng nghyfeiriad yr ysgol.

Bydd y gwyn yn cael eichlywed gan bwyllgor cwynion y corf llywodraethu o fewn 15 diwrnod Ysgol I’r dyddiad y bydd eich llythyr wedi dod I law.

Cewch wybod y canlyniad o fewn 10 diwrnod Ysgol.

Targedau yw’r holl amserlenni a ddangosir ac meant yn hyblyg; mae o fudd I bawb bod cwyn yn cael ei datrys cyn gynted a phosibl.  Bydd yr Ysgol yn gweithio gyda chi I sicrhau bod yr amser a neilltuir I ddelio a’r mater sy’n achosi pryder I chi neu’ch cwyn yn rhesymol a’i fod yn helpu I gael ateb I’r broblem. 

Beth os ydych yn teimlo nad yw eich cwyn wedi’i datrys

Dim ond ar ôl dilyn y camau uchod a’ch bod yn teimlo bod corff llywodraethu eich ysgol wedi bod yn ‘afresymol’, cewch:

  • ysgrifennu at y Prif Swyddog Addysg a Ieuenctid neu;
  • e-bostiwch customerservices@flintshire.gov.uk 
  • ffonio y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid 01352 703020 neu.

Dim ond os yw pob ymdrech arall wedi methu y dylech wneud hyn.

Nid yw’n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddatrys cwynion  am ysgolion - y corff llywodraethu sydd â’r cyfrifoldeb statudol dros wneud hyn.

Mae Llywodraeth y Cynulliad o’r farn mai er mwyn adolygu’r weithdrefn a ddefnyddiwyd i ddod i benderfyniad fyddai diben cysylltu â’r awdurdod lleol yn hytrach nag adolygu’r penderfyniad dan sylw neu fod yn rhan o broses apelio.

Nid yw gweithdrefn gwynion ysgolion yn briodol os yw’r anawsterau dan sylw’n ymwneud â: 

  • derbyn neu wahardd disgyblion
  • datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig.

Os yw eich cwyn yn ag unrhyw un o’r materion uchod ffonio y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid 01352 703020 neu e-bostiwch customerservices@flintshire.gov.uk i gofnodi eich cwyn.