Mae’r Cyngor angen sicrhau bod nifer digonol o leoedd mewn ysgolion a bod y rheini o’r math cywir ac yn y lleoliadau iawn. Nid yw hyn yn broses syml gan fod yna nifer fawr o leoedd gwag mewn ysgolion mewn rhai ardaloedd yn y Sir, tra bod diffyg lleoedd mewn ardaloedd eraill sydd methu cwrdd â’r galw lleol. Mewn ardaloedd eraill, mae poblogaethau ysgolion yn cael eu cynnal gan blant a phobl ifanc sy’n byw y tu allan i'r ardal leol a hynny thrwy ddewis rhieni. Mae’r angen i gynnal nifer fawr o adeiladau ysgol hen a seilwaith ategol yn anghynaliadwy. Felly, mae angen i ni adolygu ein darpariaeth ysgol:
- i sicrhau bod ein darpariaeth addysg o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy;
- i wella ansawdd adeiladau a chyfleusterau ysgolion; ac i
- ddarparu'r nifer cywir o leoedd mewn ysgolion, o'r math cywir, yn y lleoliadau iawn.
Mae'r gwaith yn gofyn i:
- ragweld niferoedd disgyblion;
- rheoli'r cyflenwad o leoedd mewn ysgolion;
- rheoli'r galw drwy dderbyniadau a gweithdrefnau apelio;
- sicrhau bod fframwaith yn ei le i sicrhau gwelliant drwy newid sefydliadol mewn ysgol;
- bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd; a
- monitro a gwerthuso effaith penderfyniadau.
Rydym yn adolygu a moderneiddio'r ffordd y caiff addysg ei ddarparu drwy raglen dreigl o adolygiadau ardal. Rydym yn adolygu ysgolion ar fesul ardal, i wneud yn siŵr pan fyddwn yn gwneud newidiadau i drefniadaeth ysgolion, ein bod yn cymryd i ystyried unrhyw effaith bosibl ar ysgolion eraill cyfagos.
Pan fyddwn yn cynnal adolygiad ardal, byddwn bob amser yn ymgynghori â phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr sy'n gysylltiedig ag ysgolion yn yr ardal honno. Mae hyn er mwyn iddynt gael dweud eu dweud a bod yn rhan o benderfyniadau a wneir am ein hysgolion lleol. Gall canlyniadau adolygiad ardal gynnwys uno ysgolion sy'n bodoli eisoes trwy gyfuniad o ffederasiynau ysgolion, uno ar un safle a ffafrir neu adeiladu ysgolion ardal newydd a chau ysgolion sydd bellach ddim yn addas at y diben. Er mwyn cyflawni hynny bydd angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i wella seilwaith ein hysgolion ac i sicrhau bod adeiladau’r ysgolion yn addas ac yn darparu etifeddiaeth effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Moderneiddio Ysgolion Strategaeth Diweddaraf 2014