Alert Section

Cais Cludiant Ysgol


Amserlen Cludiant Ysgol 2024/2025

Amserlen Cais am Gludiant Ysgol
Ffurflenni cais ar gaelDyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni wedi’u llenwiCeisiadau’n cael eu hasesuHysbysiad o gymhwysterHysbysiad o drefniadau cludiant
01/03/2024 31/05/2024 31/05/2024 - 20/06/2024 Erbyn 30/06/2024 Erbyn 19/07/2024

Ffurflen Gais Ar-lein

Meini Prawf Cymhwysedd 

Mae angen i’r Awdurdod Lleol benderfynu a yw’n angenrheidiol darparu cludiant i ddisgyblion o oed ysgol statudol i ganiatáu iddynt fynychu ysgol ddynodedig.  Os penderfynir bod angen cludiant, yna rhaid darparu’r cludiant am ddim.


Y ddarpariaeth statudol sylfaenol
Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant am ddim i blant o oedran ysgol gorfodol (h.y. 5-16 oed) fel aganlyn:

  • os yw’r plentyn yn cael addysg gynradd ac yn byw dros ddwy filltir o’r ysgol addas agosaf
  • os yw’r plentyn yn cael addysg uwchradd ac yn byw dros dair milltir o’r ysgol addas agosaf.

Mae’r Awdurdod Lleol hefyd yn darparu cludiant am ddim i blant o oedran ysgol gorfodol:

  • os yw’r Awdurdod Lleol, mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, o’r farn bod yllwybr i’r ysgol yn beryglus
  • os yw cludiant i ysgol a enwir yn cael ei nodi yn Natganiad o Anghenion Addysgol Arbennigdisgybl.  Fel arfer byddai hyn ar sail feddygol neu addysgol a byddai’n cael ei ystyried yn hanfodolyng nghyd-destun meini prawf eraill a nodwyd yn y polisi hwn
  • os oes angen cludiant ar blentyn ar sail feddygol ac nid oes cludiant cyhoeddus addas ar gael.

Darpariaeth cludiant arall
Caiff cludiant am ddim ei ddarparu hefyd ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol:

  • os yw’r rhieni’n cael Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Treth Gwaith, ac mae’r cartref dros 2.5milltir o’r ysgol addas agosaf
  • i’r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf yn ôl y meini prawf a nodir uchod
  • i’r ysgol agosaf a gynorthwyir yn wirfoddol ble mae derbyn i’r ysgol ar sail enwadol, yn amodol ary meini prawf pellter.  Bydd ymgynghori ag ysgolion unigol yn digwydd i gadarnhau’r meini prawfderbyn yn ôl pa rai y derbynnir disgyblion.  Mae’n bosibl y gofynnir am dystiolaeth addas oymlyniad at ffydd yr ysgol megis tystysgrif bedyddio neu lythyr gan offeiriad.

Cludiant Ôl-16
Bydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu ar gyfer myfyrwyr ôl 16, sy’n byw yn Sir y Fflint sy’n mynychucwrs cyntaf o astudio llawn amser mewn ysgol neu goleg, yn amodol ar gwrdd â’r meini prawf pellter o 3milltir ac ar yr amod bod y myfyriwr yn mynychu’r sefydliad addysgol agosaf sy’n cynnig y cyrsiau y meant yn dymuno eu hastudio. Bydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i safleoedd penodedig yn unig. Y safleoedd hyn yw:

  • Pob safle Ysgol Uwchradd o fewn Sir i Fflint sy’n cynnig cyrsiau ôl 16
  • Ysgol Uwchradd Babyddol caer, safleoedd Coleg Cambria yng Nghei Connah, Llaneurgain,Wrecsam a Llysfasi (ar gyfer cyrsiau tir yn unig), Ysgol Uwchradd Prestatyn, 6 Y Rhyl, YsgolSantes Ffraid, Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

Cludiant am ddim i fyfyrwyr dros 19 oed
Mae cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr cymwys sydd wedi troi’n 16 oed ond nad ydynt wedi troi’n 19 oed ar y 1 Medi yn y flwyddyn academaidd berthnasol. Bydd y cludiant am ddim yn parhau nes bydd y myfyriwr yn cwblhau’i gwrs, hyd yn oed os bydd yn troi’n 19 oed cyn diwedd y cwrs hwnnw.

Disgyblion/myfyrwyr ag anawsterau/anableddau dysgu
Bydd cludiant arbenigol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion/myfyrwyr sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu pan nodir hynny yn y datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.  Bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried anghenion addysgol arbennig neu anabledd y disgybl, p’un oes ganddo ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ai peidio, wrth benderfynu pa ysgol yw’r ysgol addas agosaf.  Bydd y gofynion cludiant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun.


Pan nodir ffactorau eraill yn y datganiad, e.e. darpariaeth arbenigol, gellir darparu cludiant i bobl ifanc ag anawsterau a/neu anableddau dysgu i deithio ymhellach na’u hysgol/coleg agosaf.  Mae’n bosibl y caiff cludiant am ddim ei gynnig i bobl ifanc sydd â chyflyrau meddygol difrifol sy’n effeithio’n ddifrifol ar eu gallu i symud, er nad ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf pellter.  Ym mhob achos, rhaid cael tystiolaethfeddygol i ategu’r cais.

Costau teithio i rieni disgyblion sy’n mynychu ysgol y tu allan i Sir y Fflint ar sail eu Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig
Os yw disgybl yn mynychu ysgol breswyl dros 100 milltir o’u cartref, bydd yr Awdurdod Lleol yn helpugyda chostau teithio i ganiatáu i’r rhieni fod yn bresennol yn y cyfarfod Adolygu Blynyddol statudol, ynseiliedig ar y dull rhataf o deithio. Bydd yn:

  • trefnu cludiant, neu’n
  • gwneud taliad ariannol (sef 20c y filltir ar hyn o bryd), neu’n
  • darparu tocyn (neu’n cynnig swm o arian cyfwerth â phrif y tocyn) i un neu’r ddau riant deithio ynoar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd y cymorth tebyg ar gael hefyd os bydd disgybl sydd fel arfer yn teithio mewn cerbyd a ddarperir argyfer grŵp, yn methu â theithio'r un pryd â’r grŵp oherwydd ei iechyd.  Bydd angen ardystiad meddygol yn y cyswllt hwn.  Ni fydd yr Awdurdod Lleol fel arfer yn helpu gyda chostau teithio ar gyfer digwyddiadau neu gyfarfodydd eraill.

Diffiniad o feini prawf

Meini prawf ysgol addas
Ysgol addas yw’r ysgol agosaf sy’n darparu addysg ar gyfer oed a gallu’r disgybl, yr ysgol cyfrwngCymraeg agosaf neu’r ysgol Wirfoddol agosaf.
Nid yw’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am gost cludiant:

  • os yw rhieni’n dewis ysgol neu’r cyfleuster gwahanol i’r ysgol addas agosaf
  • os yw rhieni’n dewis ysgol a gynhelir gan Awdurdodau, oni bai mai’r ysgol honno yw’r ysgolagosaf
  • disgyblion sy’n byw y tu allan i Sir y Fflint ond sy’n cael eu haddysg yn un o ysgolion Sir y Fflint
  • mae gan yr Awdurdod drefniadau gydag awdurdodau cyfagos ar gyfer disgyblion Sir y Fflint sy’nmynd i ysgol dros y ffin gan mai honno yw’r ysgol addas agosaf.

Meini Prawf Oed
Nid oes gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim.

  • Nid yw’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant i ddisgyblion sy’n mynd i ysgol feithrin neuddosbarthiadau meithrin yn dair oed. Mae cludiant yn cael ei ddarparu o ddechrau’r flwyddynysgol pan fydd y plentyn yn troi’n bump oed
  • Ar hyn o bryd mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion cymwys sy’n hŷnna’r oedran ysgol gorfodol, i gael eu cludo am ddim i’r ysgol neu’r coleg addas agosaf fel y nodir Polisi Cludiant.

Meini Prawf ar gyfer Darparu Hebryngwr
Mae’n bosibl y bydd yr Awdurdod yn darparu Hebryngwr i ddisgyblion sydd â Datganiad o AnghenionAddysgol Arbennig, sy’n gymwys i gael cludiant am ddim o dan y meini prawf uchod.  Darperirhebryngwyr ar ôl i swyddogion perthnasol ystyried anghenion unigol disgybl neu grwpiau o ddisgyblion anatur y cludiant sydd ar gael.

Gwneud cais am Gludiant Ysgol a Choleg
Os ydych chi’n credu y gall eich plentyn fod yn gymwys i dderbyn cludiant ysgol am ddim, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais.  Mae angen gwneud cais pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth Derbyn, yn yr ysgol Uwchradd ac mewn cyfleuster addysg Ôl-16 ac nid yw’n ôl-weithredol.  Bydd angen i chiwneud cais eto os bydd eich amgylchiadau’n newid mewn unrhyw ford yn ystod y cyfnod y bydd eichplentyn yn yr ysgol, neu os bydd cwrs eich plentyn yn newid. 

Dylid anfon cais am gludiant i’r coleg dan sylw (manylion isod). Gellir gwneud cais unrhyw adeg o’rflwyddyn er bod y myfyrwyr yn cael eu hannog i wneud cais ar ddiwedd tymor yr haf cyn i’r cyrsiauddechrau ym Mis Medi.

Dull o Deithio
Wrth benderfynu ar gludiant priodol, bydd angen cadw at yr egwyddorion a ganlyn:

  • yr angen am gludiant arbenigol
  • Anghenion Ychwanegol y disgybl fel y’u diffinnir yn natganiad y disgybl.

Ym mhob achos, bydd y cludiant yn seiliedig ar ddefnyddio’n effeithiol (yn unol â’r amodau uchod).  Galldarparu cludiant drwy gyfrwng cytundeb gwasanaethau cludiant ysgol neu wasanaethau trafnidiaethcyhoeddus arferol, a bydd natur y cludiant a ddarperir (bws, bws mini, trên, tacsi ac ati) yn dibynnu ar ygost.  Weithiau, gall un bws ar gontract gludo disgyblion i fwy nag un safle ysgol.
Mewn amgylchiadau eithriadol, mae’n bosib y bydd yr Awdurdod Lleol yn talu rhieni (20c y filltir ar hyn obryd) i gludo disgybl sy’n bodloni’r meini prawf i gyd, os penderfynir bod hynny’n fwy cost effeithiol.

Codi a dychwelyd disgyblion
Bydd cludiant yn cael ei ddarparu fel arfer o safleoedd bws neu fannau codi penodol ar gyfer grwpiau oddisgyblion. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd disgyblion yn cael cludiant ddrws i ddrws.  Bydd y pellter y bydd disgwyl i ddisgybl gerdded rhwng ei gartref a’r man codi’n dibynnu ar oed ydisgyblion, eu hanghenion unigol a natur y llwybr y disgwylir iddynt gerdded ar ei hyd.

Côd Ymddygiad wrth Deithio
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu Côd Ymddygiad wrth Deithio sy’n orfodol i bob Dysgwr hyd at 19 oed. Mae’n berthnasol i bob dull o deithio i/o sefydliadau addysgol. Rhaid i’r dysgwyrgydymffurfio â’r Côd yn ystod y daith. Yn unol â’r Côd, gellir dod â’r trefniadau teithio i ben os byddymddygiad dysgwr yn annerbyniol yn ystod y daith i/o’r ysgol neu goleg.

Bydd y gyrrwr, yn unol â’r weithdrefn y cytunwyd arni, yn rhoi adroddiad am unrhyw achos ogamymddwyn i’r Awdurdod Lleol ac i Bennaeth yr ysgol dan sylw.  Bydd unrhyw ddigwyddiadau o’r fath yn cael eu harchwilio a bydd camau priodol yn cael eu cymryd, os bydd angen, gan gynnwys gwahardd ydisgybl dros dro rhag defnyddio’r cludiant.

Ysmygu ar Fysiau
Ni chaniateir ysmygu ar unrhyw gerbyd a gaiff ei ddefnyddio o dan gytundeb â’r Cyngor i gludo disgyblion yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.  Ystyrir cymryd camau disgyblu yn erbyn unrhyw ddisgybl a gaiff ei ddal yn ysmygu ar fysiau ysgol neu goleg.

Mae gan rieni gyfrifoldeb dros:

  • gludo’u plentyn rhwng y cartref a’r ysgol os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim
  • gwneud cais am gludiant am ddim os yw’r plentyn yn gymwys;• roi gwybod i’r Awdurdod Lleol a’r ysgol am unrhyw amgylchiadau newydd a allai effeithio ar ycludiant
  • sicrhau bod eu plentyn yn barod ac yn aros am y cludiant ar yr adeg a’r lle priodol.  Cyfrifoldeb yrhieni yw mynd â’r plentyn at y cerbyd a’i gyfarfod pan ddaw’n ôl
  • sicrhau bod ymddygiad eu plentyn yn dderbyniol wrth ddefnyddio cludiant ysgol .

Ymholiadau cyffredinol ynglŷn â chludiant
Cludiant Ysgol, Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, Ffôn: 01352 704532E-bost: www.siryfflint.gov.uk/ysgolion

Colegau
Coleg Cambria (Cei Connah)
Ffordd Celstryn
Cei Connah
Sir y Fflint
CH5 4BR
Ffôn: 01244 831531

Coleg Cambria (Iâl)
Ffordd Parc y Gelli
Wrecsam
LL12 7AB
Ffôn: 01978 311794

Dyfrdwy Coleg Llandrillo
Swyddog Trafnidiaeth
Ffordd Llandudno
Glannau Dyfrdwy Llandrillo yn Rhos
LL28 4HZ
Ffôn: 01492 546666 

Y broses ymgeisio 

  • Mae’r ffenestr i wneud ceisiadau cludiant ysgol yn agor gyda ffurflenni ar gael 1 Mawrth – 31 Mai
  • Rhaid i chi wneud cais i’r awdurdod lleol am lle rydych yn byw. Er enghraifft; os ydych wedi cael lle ysgol yn Sir y Fflint a'ch bod yn byw yn Sir Ddinbych, rhaid i chi wneud cais i Gyngor Sir Ddinbych
  • Byddwch yn cael cydnabyddiaeth o fewn 10 diwrnod gwaith fod eich cais wedi’i dderbyn
  • Bydd yr Uned Gludiant Integredig yn asesu’ch cais unwaith y byddwch wedi cael cadarnhad o’r ysgol bod eich plentyn wedi cael lle
  • Pan fydd eich plentyn wedi’i asesu, byddwch yn rhoi gwybod i chi os ydyw’n gymwys ai peidio
  • Byddwn yn dweud wrthych am y trefniadau cludiant cyn diwedd tymor yr haf (Gorffennaf) ac yn anfon tocyn bws i’ch plentyn (os yw’n gymwys) ar yr adeg hon
  • Nodwch y bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried ar ôl y rhai hynny a dderbynnir erbyn y dyddiad cau, ond ni allwn sicrhau y bydd trefniadau cludiant yn eu lle Medi ar gyfer ymgeiswyr hwyr, ac efallai na fydd cludiant ar gael hyd nes ar ôl hanner tymor Hydref. Bydd pob cais hwyr yn cael ei sgorio o ran blaenoriaeth e.e. seiliau meddygol / anghenion addysgol arbennig yn gyntaf
  • Os ydych yn symud ty, bydd angen i chi ail-ymgeisio am gludiant ysgol am ddim. Mae hyn oherwydd bod eich cymhwyster yn dibynnu ar y pellter rhwng eich cartref a’ch ysgol. Os ydych yn symud i gyfeiriad newydd, byddwn angen gwirio eich cymhwyster eto
  • Os ydych yn gwneud cais am gludiant ar ôl symud ty yn ystod y flwyddyn ysgol, gwnewch gais cyn gynted ag y bydd eich cyfeiriad newydd wedi'i gadarnhau
  • Byddwch hefyd angen ailymgeisio am gludiant os yw unrhyw un o’ch amgylchiadau’n newid yn ystod y cyfnod mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol, neu os bydd ysgol neu gwrs eich plentyn yn newid
  • Ar yr amod nad yw eich cyfeiriad cartref a'r ysgol a fynychwyd yn newid, nid oes angen i chi ail-gymhwyso am gludiant ysgol bob blwyddy

Cludiant Ysgol – Tywydd Drwg

Os yw ysgol/coleg ar agor, y cwmnïau sy’n darparu cludiant sy’n penderfynu afydd yn y gwasanaeth yn rhedeg ai peidio os bydd tywydd drwg.  Byddant ynystyried yr amgylchiadau ar y pryd, y rhagolygon hyd at 9:00am a gweddill ydydd, y siwrnai, y man cychwyn a’r amgylchiadau yn yr ysgol/coleg.

Dylai rhieni/myfyrwyr wirio’r sefyllfa gyda’r darparwr cludiant (am fanylion cyswllt gweler Amserlenni Bws) neu gysylltu â Thîm Cludiant Ysgol Sir y Fflint ar 01352 701234

Os na fydd cludiant ar gael i’r ysgol/coleg yn y bore oherwydd tywydd drwg, nifydd cludiant adref chwaith, hyd yn oed os yw’r tywydd yn gwella.  O dan yramgylchiadau hyn, os yw rhieni/gofalwyr yn danfon myfyrwyr i’r ysgol/coleg euhunain yn y bore, nhw fydd yn gyfrifol am eu cludo adref hefyd ar ddiwedd ydydd, neu’n gynharach os caiff yr holl fyfyrwyr eu hanfon adref o’r ysgol/colegoherwydd y tywydd.

Penderfyniad y Pennaeth fydd cau ysgol, yn dilyn asesiad risg yn seiliedig arnifer o ffactorau.  Bydd yn rhaid gwneud y penderfyniad hwn er na fydd moddgwybod yn iawn sut fydd y tywydd yn newid yn ystod y dydd.

Caiffgwybodaeth am yr ysgolion/colegau sydd wedi cau oherwydd tywydd drwg eiphostio ar wefan Cyngor Sir y Fflint cyn gynted â phosibl a byddcyhoeddiadau hefyd ar Coast FM.  Edrychwch hefyd ar wefannau ysgolionunigol.

O ran trafnidiaeth gyhoeddus, dylech holi’r darparwr cyn teithio neu ffonio

  • Traveline Cymru ar 0800 4640000 

Cwestiynau Cyffredin Cludiant i'r Ysgol

A oes modd i fy mhlentyn gael cludiant am ddim i’r ysgol?
Caiff cludiant am ddim i’r ysgol briodol agosaf ei ddarparu i blant rhwng 5 ac 16 mlwydd oed os ydynt ynbyw:

  • dros ddwy filltir o ysgol gynradd, neu
  • dros dair milltir o ysgol uwchradd

Caiff cludiant am ddim ei ddarparu i blant rhwng 5 ac 16 mlwydd oed pan mae'r:

  • ffordd i’r ysgol wedi cael ei archwilio a chaiff ei hystyried yn berygl
  • plentyn wedi derbyn Datganiad o Angen Addysgol Arbennig sy’n enwi ysgol
  • cludiant ei angen ar sail feddygol, ond nid oes cludiant cyhoeddus addas ar gael
  • plentyn yn byw 2.5 milltir o'r ysgol ac mae'r rhieni yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Credyd Treth Gwaith

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf uchod ac yn credu eich bod yn gymwys i dderbyn cludiant am ddimi’r ysgol, bydd angen i chi wneud cais ar-lein

Unwaith rydych wedi cyflwyno cais, byddwn yn asesu eich cais yn unol â’r meini prawf cymhwysedd.  Os yw eich plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim i'r ysgol, yna bydd y trefniadau teithioangenrheidiol yn cael eu gwneud.

Pryd alla i wneud cais am gludiant i fy mhlentyn?
Mae’r rhan fwyaf o geisiadau am gludiant yn cael eu cyflwyno gan rieni/ofalwyr mewn pryd ar gyferdechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, unwaith mae lle wedi ei gadarnhau i'ch plentynyn yr ysgol.  I sicrhau fod gennych drefniadau cludo ar gyfer mis Medi, cyflwynwch eich cais rhwng y dyddiadau a ddangosir ar frig y dudalen hon, os gwelwch yn dda.

Efallai y bydd adegau pan fyddwch yn gwneud ceisiadau ar gyfer cludiant tu allan i’r dyddiadau hyn,efallai yn ystod y flwyddyn ysgol pan mae anghenion eich plentyn wedi newid, eich bod wedi symud tŷ, neu fod eich sefyllfa ariannol wedi newid.  Gallwch gyflwyno cais unrhyw bryd.  Cofiwch, er mwyn sicrhaucludiant ar gyfer dechrau’r flwyddyn ym mis Medi, bydd angen i chi wneud cais rhwng y dyddiadauuchod.

Beth os ydw i’n hwyr yn cyflwyno fy nghais?
Mae’n well cyflwyno eich cais cyn gynted â phosib.  Bydd ceisiadau sy’n dod i law cyn y dyddiad cau yncael eu hystyried yn gyntaf.  Os ydym yn derbyn eich cais ar ôl y dyddiad cau, ni allwn sicrhau y bydd yn cael ei hystyried mewn pryd ar gyfer trefniadau dechrau’r flwyddyn ym mis Medi, ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros nes hanner tymor mis Hydref.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried mewn trefn blaenoriaeth, pan mae sail feddygol neu angenaddysgol arbennig er enghraifft, byddant yn cael eu hystyried yn gyntaf.

Sut ydw i’n adnewyddu cludiant ar gyfer fy mhlentyn?
Os yw eich plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant cynorthwyol, wedi derbyn tocyn teithio yn y flwyddynysgol flaenorol a byddant yn parhau i fod yn gymwys pan maent yn parhau i’r flwyddyn ysgol nesaf, byddeich manylion yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig, ac ni fydd angen i chi ail wneud cais ar gyfer eucludiant.

Os oes unrhyw newidiadau i’r Polisi Cludiant i'r Ysgol a fydd yn effeithio ar hawl eich plentyn i gaelcludiant cynorthwyol, byddwn yn ysgrifennu atoch cyn gynted â phosib.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau (megis newidysgol neu gyfeiriad) oherwydd gall hyn effeithio ar hawl eich plentyn.

Mae fy mhlentyn yn mynd i ysgol gyfrwng Gymraeg, oes hawl ganddynt i gludiant am ddim?
Caiff cludiant am ddim i’r ysgol briodol agosaf, cyfrwng Gymraeg ei ddarparu i blant rhwng 5 ac 16mlwydd oed os ydynt yn byw:

  • dros ddwy filltir o ysgol gynradd, neu
  • dros dair milltir o ysgol uwchradd

Caiff cludiant am ddim i ysgol Gymraeg ei hiaith ei ddarparu i blant rhwng 5 ac 16 mlwydd oed panmae'r:

  • ffordd i’r ysgol wedi cael ei archwilio a chaiff ei hystyried yn berygl
  • plentyn wedi derbyn Datganiad o Angen Addysgol Arbennig sy’n enwi ysgol
  • cludiant ei angen ar sail feddygol, ond nid oes cludiant cyhoeddus addas ar gael
  • plentyn yn byw 2.5 milltir o'r ysgol ac mae'r rhieni yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Credyd Treth Gwaith.

Mae fy mhlentyn yn mynd i ysgol ffydd, oes hawl ganddynt i gludiant am ddim?
Bydd cludiant am ddim i'r ysgol wirfoddol a gynorthwyir agosaf yn cael ei ddarparu i blant rhwng 5 ac 16mlwydd oed lle mae'r mynediad i'r ysgol ar sail enwadol, yn amodol ar y meini prawf pellter sy’n cael eurhestru isod:

  • dros ddwy filltir o ysgol ffydd gynradd, neu
  • dros dair milltir o ysgol uwchradd ffydd

Gellir gofyn am dystiolaeth addas o ymlyniad wrth ffydd yr ysgol megis tystysgrif bedydd neu lythyr ganoffeiriad.

Caiff cludiant am ddim ei ddarparu i blant rhwng 5 ac 16 mlwydd oed pan mae'r:

  • ffordd i’r ysgol wedi cael ei archwilio a chaiff ei hystyried yn berygl
  • plentyn wedi derbyn Datganiad o Angen Addysgol Arbennig sy’n enwi ysgol
  • cludiant ei angen ar sail feddygol, ond nid oes cludiant cyhoeddus addas ar gael
  • plentyn yn byw 2.5 milltir o'r ysgol ac mae'r rhieni yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu CredydTreth Gwaith

Yn ychwanegol at yr amodau uchod, bydd angen i blant sy’n mynd i ysgol ffydd gydymffurfio gyda ‘meiniprawf mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael’ pan ofynnir am dystiolaeth o ffydd o bosib.  

Ydy fy mhlant yn gymwys i gael cludiant sy'n asesu incwm rhieni?
Yn gyffredinol bydd gan eich plentyn hawl i gludiant am ddim i'r ysgol os ydynt o oedran ysgol uwchradd (11-16 mlwydd oed, blwyddyn ysgol 7-11) ac rydych un ai'n:

  • Gymwys i brydau ysgol am ddim neu’n
  • Derbyn lefel uchaf credyd treth gwaith ac yn gallu darparu copi o’r hysbysiad dyfarnu'r credydtreth (ffurflen TC602), neu lythyr diweddar gan yr Asiantaeth Budd-Daliadau, yn cadarnhau eichbod yn derbyn lefel uchaf credyd treth gwaith

Rwyf dros 16 mlwydd oed ac yn mynd i’r ysgol/coleg, ydw i’n gymwys ar gyfer cludiant am ddim?
Mae myfyrwyr sy’n 16 mlwydd oed neu’n hŷn ac yn mynd i'r ysgol neu goleg yn gymwys ar gyfer gludiantam ddim i safleoedd penodol pan:

  • maent yn byw dros dair milltir o’r ysgol/coleg agosaf sy’n cynnig y cyrsiau maent yn dymuno euhastudio
  • mae’n un o’r cyrsiau cyntaf o astudio llawn amser ar ôl gadael yr ysgol
  • mae’r cwrs a ddilynir un lefel yn uwch na beth a astudiwyd yn yr ysgol, er enghraifft, ni fyddaiailsefyll TGAU fel arfer yn cymhwyso
  • mae’r cwrs sy’n cael ei gynnig yn un o’r lleoliadau penodol canlynol:
    - Ysgol uwchradd yn Sir y Fflint sy’n cynnig cyrsiau ôl-16
    - Ysgol Uwchradd Gatholig Caer
    - Ysgol Uwchradd Prestatyn
    - Chweched y Rhyl
    - Ysgol y Santes Ffraid, Dinbych
    - Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy
    (Ar gyfer y lleoliadau a restrir uchod, gwnewch gais i Gyngor Sir Y Fflint)

    - Coleg Cambria, Cei Connah
    - Coleg Cambria, Llaneurgain
    - Coleg Cambria, Wrecsam
    - Coleg Cambria, Llysfasi (ar gyfer cyrsiau yn ymwneud â’r tir yn unig)
    (Ar gyfer y lleoliadau a restrir uchod, gwnewch gais yn uniongyrchol i Goleg Cambria)

Os gwneir cais am gludiant i un o'r ysgolion penodol a restrir uchod, ac nid honno yw'r agosaf i gartref ymyfyriwr, yna bydd y Cyngor yn cymharu'r cyrsiau yn y ddau leoliad. Caiff y cais ei gymeradwyo pan yrystyrir bod gwahaniaeth sylweddol yn y cwrs a gynigir.

Rwyf dros 19 mlwydd oed ydw, i’n gymwys ar gyfer cludiant am ddim i’r coleg?
Darperir cludiant am ddim i fyfyrwyr cymwys sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ond heb gyrraedd 19mlwydd oed ar 1 Medi yn y flwyddyn academaidd honno.

Caiff cludiant am ddim ei gynnal i fyfyrwyr ar gyfer cyfnod eu cwrs cychwynnol, hyd yn oed os ydynt yncyrraedd eu pen-blwydd yn 19 mlwydd oed cyn y daw’r cwrs i ben.

Mae fy mhlentyn yn mynd i’r ysgol yn Sir y Fflint, ond nid ydym yn byw yn Sir y Fflint, i le ydw i’ngwneud cais?
Bydd angen i chi wneud cais i’r Cyngor lle rydych yn byw, er enghraifft:

  • os yw eich plentyn yn mynd i’r ysgol yn Sir y Fflint a'ch bod yn byw yn Sir Ddinbych, mae’n rhaid ichi wneud cais i Gyngor Sir Ddinbych

Rydym yn byw yn Sir y Fflint, ond mae fy mhlentyn yn mynd i’r ysgol mewn Sir arall, i le ydw i’ngwneud cais?

Bydd angen i chi wneud cais i’r Cyngor lle rydych yn byw, er enghraifft:

  • os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint ond mae eich plentyn yn mynd i’r ysgol yn Sir Ddinbych, mae’nrhaid i chi wneud cais i Gyngor Sir y Fflint.

Pryd fyddaf yn cael gwybod bod cais fy mhlentyn wedi bod yn llwyddiannus?
Gweler brig y dudalen.

Pryd fydda i’n cael gwybod am fanylion y trefniadau cludo?
Ar, neu o gwmpas 19 Gorffennaf, byddwch yn derbyn neges e-bost yn rhoi manylion trefniadau cludoeich plentyn.

Pa fath o gludiant fydd yn cael ei ddarparu?
Byddwn yn ysgrifennu atoch ymlaen llaw, yn eich cynghori o’r trefniadau sydd gennym ar waith.  Efallaibyddwn yn darparu tacsi, bws mini, coets neu fws gwasanaeth bws cyhoeddus i’ch plentyn, yn dibynnuar amryw ffactorau megis y lleoedd ar gael ar wasanaethau presennol.

Ydw i’n cael dewis y darparwr cludiant?
Caiff cludiant ei ddarparu gan ddarparwyr ar restr Fframwaith y Cyngor yn unig. Caiff pob contractcludiant ei ddyfarnu’n dilyn ymarfer tendro cystadleuol.

Pryd fydda i’n derbyn fy nhocyn bws ysgol?
Ein nod yw anfon tocynnau teithio i'ch cyfeiriad cartref cyn diwedd mis Gorffennaf yn barod ar gyfer dechrau'r tymor ysgol ym mis Medi.

Os nad ydych wedi derbyn y tocyn bws cyn y cyfnod hwn, ac rydych wedi ymgeisio cyn y dyddiad cau,cysylltwch â’r Uned Trafnidiaeth Integredig drwy anfon neges e-bost atschool.transport@flintshire.gov.uk

Os gwnaed eich cais ar ôl i'r tymor ddechrau neu hanner ffordd drwy'r flwyddyn academaidd ac maeeich plentyn yn gymwys, byddwn yn anelu at ddosbarthu’r tocyn o fewn 14 diwrnod.

Nodwch, efallai y bydd ceisiadau sy’n cael eu gwneud yn ystod adegau prysur yn cael eu hoedi,ac felly, rhieni/gofalwyr sy’n gyfrifol am wneud unrhyw drefniadau teithio dros dro.  Pan rydych yn derbyn y tocyn teithio, sicrhewch eich bod yn ei gadw yn ddiogel.  Os ydych chi’n talutuag at gostau teithio eich plentyn, ni fydd tocynnau'n cael eu dosbarthu nes y gwneir taliad.

Beth ddylwn i wneud os yw’r manylion ar y tocyn bws yn anghywir?Cysylltwch â’r Uned Trafnidiaeth Integredig drwy anfon neges e-bost atschool.transport@flintshire.gov.uk, byddwn yn ceisio trefnu un newydd yn syth.

Oes angen i ddisgyblion gario eu tocyn bob dydd?
Mae’n bwysig bod pob disgybl yn cario eu tocyn yn barod i’w ddangos i'r gyrrwr bob tro maent yndefnyddio'r drafnidiaeth.  Mae’n rhaid cadw’r tocynnau’n ddiogel ac mewn cyflwr da. I sicrhau mai’r disgyblion hynny sy’n gymwys i deithio sy’n gwneud hynny’n unig, mae cludwyr bysiau yn caelcyfarwyddiadau i weithredu polisi ‘dim tocyn, dim teithio’.

Ar gyfer pa siwrneiau a phryd y gellir defnyddio’r tocyn teithio?
Mae tocynnau yn ddilys ar gyfer siwrnai dychwelyd o/i’r ysgol/coleg, ddydd Llun i ddydd Gwener ynunig, oni nodir yn wahanol.  Caiff camddefnydd a/neu ddefnydd twyllodrus o’r tocynnau teithio eu trinfel mater difrifol a fydd efallai’n arwain at ddiddymu’r cludiant.  Gall unrhyw un o’r canlynol arwain atgymryd y tocyn oddi ar y disgybl:

  • Defnydd gan unrhyw un arall ac eithrio deiliad y tocyn
  • Ymgais i’w ddefnyddio ar siwrneiau anawdurdodedig
  • Defnyddio tocyn teithio sydd wedi'i ddifrodi neu ei ddifwyno
  • Defnyddio tocyn sydd wedi dod i ben, nad yw’n ddilys mwyach

Beth sy’n digwydd os yw’r tocyn teithio yn cael ei golli neu ei ddifrodi?
Mae’n rhaid cael tocyn teithio newydd cyn gynted â phosib. Ar hyn o bryd, nid oes ffi i gael tocyn bwsnewydd, os dosbarthwyd y tocyn gan y Cyngor.

Bydd disgwyl i ddisgyblion sy’n teithio ar wasanaethau bws cyhoeddus dalu’r ffi briodol nes ydosberthir tocyn newydd, ac ni fydd ad-daliadau ar gyfer unrhyw gostau cysylltiedig.

Gall fy mhlentyn deithio heb docyn bws?
Na all.  Bydd pob disgybl uwchradd sy’n gymwys i gludiant am ddim i'r ysgol yn cael tocyn bws, acmae gofyn iddynt eu defnyddio i gael mynediad i gludiant i'r ysgol bob amser.

Beth sy’n digwydd os ydym ni’n newid ein cyfeiriad neu’n symud i ysgol wahanol?
Mae’n rhaid adrodd newid cyfeiriad neu ysgol fel ein bod yn gallu ailasesu eich manylion a diweddaruein cofnodion.  Cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at school.transport@flintshire.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cyfeiriad os ydych chi wedi symud cyfeiriad e.e. Copi o fil Trethy Cyngor neu fil gwasanaethau.

Beth os oes angen canslo cludiant fy mhlentyn?
Os nad yw eich plentyn yn gallu mynd i'r ysgol neu nid oes arnoch angen y cludiant mwyach, yna byddgofyn i chi gysylltu â’r Uned Trafnidiaeth Integredig cyn gynted â phosib dros e-bost:school.transport@flintshire.gov.uk

A oes caniatâd i fy mhlentyn fwyta ac yfed ar gludiant i'r ysgol?
Nac oes.  Nid yw bwyta nac yfed yn cael ei ganiatáu ar gerbydau.  Os oes gan eich plentyn gyflwrmeddygol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt fwyta’n gyson, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Uned Trafnidiaeth Integredig cyn y siwrnai.

A oes modd i fy mhlentyn gario offer ar gludiant i'r ysgol?
Bydd caniatâd i gario offer a bagiau ychwanegol os:

  • Oes digon o le ar y cerbyd
  • Oes lle iddynt gael eu storio’n ddiogel
  • Nad oes ffi ychwanegol o ganlyniad
  • Nad yw’n achosi anghyfleustra i deithwyr eraill

Dylid ystyried dewisiadau eraill megis, a yw’r offer ar gael yn yr ysgol. 

Beth os oes yw fy mhlentyn yn cario meddyginiaeth i'r ysgol?
Dylid cadw meddyginiaeth yn ddiogel mewn cynhwysydd wedi’i selio a’i roi ym mag ysgol eich plentyn.

Cyfrifoldeb pwy yw danfon fy mhlant i’r ysgol?
Cyfrifoldeb y rhiant/gofalwr yw sicrhau bod eu plant yn mynd ac yn dod adref o'r ysgol ar yr amser priodol bob dydd.  Mae trefniadau teithio yn ystyriaeth bwysig pan mae rhieni/gofalwyr yn gwneuddewisiadau. Dylech feddwl pa mor ymarferol yw dewis ysgol nad yw o fewn pellter cerdded, ac eithrioos mai dyma eich ysgol agosaf a ddyrannwyd i chi. 
Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant/gofalwr yw sicrhau bod trefniadau teithio i'r ysgol ar waith.

Sut gall ddewis rhiant effeithio hawl i gludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim?
Os ydych chi’n dewis rhoi eich plentyn mewn ysgol arall i’r ysgol addas agosaf, yna chi sy’n gyfrifol amdrefnu a thalu am gostau teithio i’ch ysgol ddewisol.

Pwy alla i gysylltu â nhw os oes unrhyw broblemau neu gwynion?
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon uchel, fodd bynnag, efallai y bydd cyfnod panfydd eich plentyn yn profi problemau gyda’r gwasanaeth bws neu dacsi.

Pan fydd gennych broblem, neu bryder, gallwch eu hadrodd drwy anfon neges e-bost at:school.transport@flintshire.gov.uk.

Byddwn yn ymchwilio i’r broblem ac yn cymryd y camau gweithredu priodol.

Pa safonau sy’n ddisgwyliedig o gontractwyr a gyrwyr cludiant o'r cartref i'r ysgol?
Dim ond cwmnïau sydd wedi cymhwyso ar ein fframwaith o gyflenwyr wedi’u cymeradwyo sy’n caelgwneud cais am gontractau cludiant o'r cartref i'r ysgol.  I gymhwyso, mae’n rhaid iddynt allu dangos eubod yn bodloni safonau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, sicrwydd ariannol, yswiriant a rheoliadaugyrwyr.

Caiff canllaw i yrwyr ei ddosbarthu hefyd sy'n ymwneud â safonau ymddygiad y gyrrwr acymwybyddiaeth y cwsmer.

Os yw’r drafnidiaeth yn hwyr neu ddim yn cyrraedd, beth ddylwn i wneud?
Weithiau, efallai y byddwch yn profi oedi annisgwyl neu broblemau, er ein bod yn gwneud ein gorau glasi geisio lleihau hyn.  Disgwyliwch 15 munud ar ôl yr amser casglu ar yr amserlen.  Os nad yw’rdrafnidiaeth wedi cyrraedd ar ôl hyn, cysylltwch â’r Uned Trafnidiaeth Integredig ar 01352 701234.

Cysylltwch â’r Uned Trafnidiaeth Integredig os yw’r cludiant yn hwyr yn rheolaidd hefyd, drwy anfonneges e-bost at school.transport@flintshire.gov.uk

Eiddo coll – beth os yw fy mhlentyn yn gadael eiddo ar gludiant i'r ysgol?
Mae modd i chi gysylltu â’r cwmni trafnidiaeth yn uniongyrchol neu gallwch gysylltu â’r Uned Trafnidiaeth Integredig a byddwn yn rhoi enw a rhif ffôn y cludwr i chi fel eich bod yn gallu cysylltu ânhw'n uniongyrchol a gwneud trefniadau i gasglu’r eiddo.

Gyda phwy ddylwn i gysylltu os oes gen i bryderon ynghylch cludiant fy mhlentyn?
Cysylltwch â’r Uned Trafnidiaeth Integredig os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am unrhyw agwedd osiwrnai eich plentyn, yn cynnwys ymddygiad teithwyr eraill, neu ddiogelwch neu ddibynadwyedd ycerbyd. 

Gorau po gyntaf y cawn wybod am y broblem, fel y gallwn weithredu i'w datrys.

Beth sy’n digwydd mewn achos o ffordd yn cau?
Fel arfer, byddwn yn derbyn rhybudd o flaen llaw os yw cynllun i gau ffyrdd.  Pan mae cludiant i'r ysgol yncael ei effeithio, efallai y bydd angen i chi drefnu mannau casglu/danfon gwahanol gyda’ch cludwr. Yna, byddwn ni’n trefnu bod rhieni/gofalwyr yn cael eu hysbysu o drefniadau teithio dros dro.

Mewn argyfwng, efallai y bydd ffyrdd yn cau yn ddirybudd gan achosi oedi i gludiant i'r ysgol, byddwn yncyhoeddi ffyrdd sydd wedi cau mewn argyfwng ar wefan Sir y Fflint pan fo hynny'n bosib.

Cysylltwch â’r Uned Trafnidiaeth Integredig unrhyw bryd os oes gennych bryderon am eichplentyn/plant yn cyrraedd yn hwyr.

Os yw fy mhlentyn yn cael ei fwlio ar gludiant, beth ddylwn i ei wneud?
Mae gan ysgolion gyfrifoldeb dros ymddygiad plant ar y ffordd i, ac o'r ysgol, yn cynnwys wrth deithio argludiant o'r cartref i'r ysgol.

Adroddwch unrhyw ddigwyddiadau i’r ysgol i ddechrau ac yna cysylltwch â’rUned Trafnidiaeth Integredig.

Oes modd i ffrindiau a rhieni deithio ar gludiant i’r ysgol?
Nac oes.  Disgyblion cymwys yn unig sy’n cael teithio ar gerbyd cludiant i'r ysgol.

Mae pob sedd wedi ei dyrannu i ddisgyblion cymwys.  Os yw plant ychwanegol yn teithio, gallai hynachosi i'r cerbyd orlenwi.

Nid oes gan rieni hawl i deithio ar gludiant i'r ysgol ac eithrio dan amgylchiadau arbennig a threfniadau oflaen llaw gyda'r Uned Trafnidiaeth Integredig.

Oes newidiadau o gwbl yn cael eu gwneud i gludiant i’r ysgol?
I sicrhau bod llwybrau teithio yn parhau i fod yn effeithlon ac yn gost effeithiol, mae’n hanfodol bodadolygiadau cyson yn cael eu cynnal.  O ganlyniad, efallai y gwneir rhai newidiadau yn achlysurol igludiant eich plentyn, ond byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o hynny.

Pa amodau eraill y dylwn wybod amdanynt?
Dylai rhieni, myfyrwyr a phlant fod yn ymwybodol o God Ymddygiad Teithio Llywodraeth Cymru, sy’nnodi safonau i’w dilyn gan bawb i sicrhau bod siwrneiau i, ac o'r ysgol yn ddiogel ac yn diogelu lles pobteithiwr.  Gweler y wybodaeth o dan 'Dogfennau Defnyddiol'.