Os ydych yn teimlo ar chwal yn emosiynol neu os ydych yn poeni bod gennych broblem, mae llawer o leoedd y gallwch fynd iddynt yn gyntaf. Gall eich meddyg:
- Drafod eich problemau
- Gwirio a oes rheswm corfforol y tu ôl i'ch problemau
- Rhoi meddyginiaeth ar gyfer iselder, ofn neu anhwylderau eraill
- Eich atgyfeirio at y gwasanaeth priodol
- Gofyn i chi fynd i weld cwnsler
- Eich anfon i'r ysbyty
I nifer o bobl, mae'r daith yn dod i ben yma. Maent yn cael triniaeth gan eu meddyg ac yn fodlon â'r canlyniad.
Cofiwch: Os ydych yn meddwl bod eich meddyg yn rhy brysur i drafod eich problemau, gallwch drefnu apwyntiad hir wrth gysylltu â'r dderbynfa, neu gallech ysgrifennu popeth mewn llythyr a'i anfon at eich meddyg.Am fwy o wybodaeth am fynd at eich meddyg, cysylltwch â: Eiriolaeth Gwasanaethau Gogledd-ddwyrain Cymru ar: 01352 759332
Llinellau Cymorth
Mae nifer o linellau cymorth ar gael ar gyfer pob math o broblemau iechyd meddwl.
Gall llinellau cymorth:
- Roi cyngor arbenigol iawn i chi - mae rhai llinellau cymorth yn canolbwyntio ar anhwylderau penodol fel iselder, sgitsoffrenia ac ati
- Eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau lleol a all helpu - mae'n bosibl y bydd gan linellau cymorth cenedlaethol restrau o asiantaethau lleol a llinellau cymorth lleol
- Amddiffyn eich hunaniaeth - nid oes raid i chi ddweud wrth yr unigolyn ar y pen arall pwy ydych chi
- Darparu gwasanaeth gwrando
Ffoniwch y Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar Gyfer Cymru ar: 0800 132 737
Mynediad Cyntaf
Mae Mynediad Cyntaf yn dîm sy'n darparu triniaeth a gwasanaethau gofal i oedolion â phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Gallwch ofyn wrth eich Meddyg Teulu i’ch atgyfeirio. Trefnir apwyntiad ar eich cyfer i drafod eich anghenion. Yna:
- Efallai y teimlir nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach
- Efallai y cewch eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol a grwpiau cymunedol perthnasol
- Efallai y cewch gynnig sesiynau unigol gydag aelod o staff neu le gyda grŵp o bobl sydd â phroblemau tebyg megis iselder, ofn neu straen
I ddarganfod mwy am Mynediad Cyntaf, ffoniwch: Tîm Mynediad Cyntaf Sir y Fflint ar 03000 858 999
Parabl
Cynigir therapi siarad i bobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. 0300 777 2257 http://www.parabl.org.uk/cymru/
Ble nesaf?
I nifer o bobl, nid ydynt angen mynd dim pellach nag at y meddyg, neu at grŵp hunangymorth neu Wasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol. Ond i bobl eraill, nid yw’r gwasanaethau yma’n ddigon. Efallai y cewch eich atgyfeirio i wasanaeth mwy arbenigol megis Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu Dîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl. Nid yw hyn yn golygu bod eich problemau yn waeth na rhai pobl eraill. Yn syml, mae’n golygu eich bod angen mwy o gymorth arbenigol, ac er eich bod wedi cael eich atgyfeirio, nid yw hyn yn golygu y bydd hi’n cymryd yn hirach i chi wella chwaith.
Felly, beth mae'r gwasanaethau hyn yn ei gynnig?
Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cael eu cynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae aelodau’r tîm yn cynnwys:
- Nyrsys
- Seicolegwyr
- Therapyddion Galwedigaethol
- Seiciatryddion
Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint ac mae’n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol yn unig. Gan fod amser ac adnoddau’n brin, dim ond â’r bobl sydd â’r angen mwyaf y bydd y timau yma’n delio.
Os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio i un neu ddau o’r timau yma fe fydd gweithiwr penodol yn cael ei ddynodi i chi. Yna byddwch yn cyfarfod er mwyn cytuno ar y driniaeth orau i chi. Fe fydd yr hyn y byddwch yn ei gytuno’n cael ei ysgrifennu i lawr a’i enw fydd Cynllun Gofal a Thriniaeth/Cefnogaeth.
Yn achlysurol iawn, yn rhan o’ch gofal, fe all eich gweithiwr iechyd meddwl awgrymu eich bod yn treulio rhywfaint o amser yn yr ysbyty. Nid yw hyn yn golygu y byddwch yn cael eich cadw yn erbyn eich ewyllys nac y byddwch yn anfon i ysbyty meddwl. Mae mwyafrif o bobl sydd yn yr ysbyty am broblemau iechyd meddwl yn mynd yno’n wirfoddol a gallant adael ar unrhyw adeg. Yr enw am hyn yw “cleifion anffurfiol”.
I ddysgu mwy am beth sy’n digwydd yn yr ysbyty, darllenwch y rhan nesaf. Os ydych chi’n sâl iawn, efallai y cewch eich cludo i’r ysbyty heb eich caniatâd. Yna fe fyddech yn cael gofal o dan un o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
I ddysgu mwy am y timau yma, ffoniwch:
- Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Glannau Dyfrdwy ar 03000 858 999
- Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Yr Wyddgrug ac Y Fflint ar 03000 85 0007
- Tîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl, 01352 705990
Ysbyty
Gallwch ddilyn sawl trywydd i gyrraedd yr ysbyty. Efallai y cewch eich anfon gan eich meddyg neu'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu efallai y byddwch yn mynd yno o dan adran o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Rydych yn llawer llai tebygol o orfod mynd i'r ysbyty nawr nag y byddech ugain mlynedd yn ôl, a hyd yn oed os ydych yn mynd i'r ysbyty, ni fydd hynny am gyfnod hir.
Mae'n bosibl y bydd raid i chi fynd i'r ysbyty oherwydd:
- Mae eich gweithiwr eisiau bod yn gwbl sicr eich bod wedi cael y feddyginiaeth neu driniaeth gywir
- Rydych yn rhy sâl i allu ymdopi yn eich cartref
Os byddwch yn mynd i'r ysbyty o'ch gwirfodd, cewch eich galw'n "glaf gwirfoddol". Mae mwyafrif y bobl sy'n mynd i ysbyty yn gleifion gwirfoddol. Os nad ydych yn hapus â'ch triniaeth, gallwch adael ar unrhyw adeg ond mae'n syniad da trafod hyn gyda'r staff yn gyntaf. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau yn yr ysbyty, cysylltwch â'r Gwasanaeth Eiriolaeth. Bydd gan y rhan fwyaf o ysbytai daflen wybodaeth yn nodi amseroedd ymweld, yr holl gyfleusterau megis toiledau, beth sy'n digwydd i'ch eiddo ac ati. Mae banciau, caffis, addoldai a chanolfannau cyngor ar gael mewn ysbytai, neu heb fod ymhell, fel arfer.
I ddarganfod mwy am yr ysbytai, ffoniwch:
Triniaeth Orfodol
Os yw'r bobl o'ch cwmpas yn poeni y byddwch yn niweidio'ch hunan neu bobl eraill, gallwch gael eich hanfon i'r ysbyty heb roi caniatâd. Mae hyn yn golygu y cewch eich trin o dan adrannau amrywiol Deddf Iechyd Meddwl 1983. Gall nifer o'r sefydliadau yn yr adran "cysylltiadau defnyddiol eraill" isod roi gwybodaeth i chi am y Ddeddf Iechyd Meddwl.