Alert Section

Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol


Mae tîm datblygu’r gweithlu yn gyfrifol am gynnig cefnogaeth i reolwyr a gweithwyr unigol i hyfforddi a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yn Sir y Fflint.  Mae’r gwasanaeth hwn yn cefnogi staff yr awdurdod lleol, darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol a’r sector gwirfoddol drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu. Nod tîm datblygu’r gweithlu yw:

  • cefnogi rheolwyr i ddenu a chadw gweithlu medrus, hyblyg ac effeithlon sydd wedi ymrwymo i gyflawni amcanion y Cyngor a gwella ansawdd a gwerth ei wasanaethau.
  • cynorthwyo pawb sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn Sir y Fflint i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd a’r agweddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy’n gost effeithiol ac o ansawdd uchel ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth.
  • cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cynghori ac ymgynghori arbenigol sy’n hyrwyddo ac yn cynnal arferion cyflogi ac arferion datblygu staff da.
  • cefnogi datblygiad gweithlu gofal cymdeithasol cymwys ar hyd a lled y sir.

Mae’r tîm yn cydlynu Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol mewn partneriaeth â’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. 

Mae’r rhaglen flynyddol wedi’i hamlinellu yn y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024-25.

Mae manylion y cyrsiau unigol a’r dyddiadau wedi’u hamlinellu yn y cyfeirlyfr hyfforddiant blynyddol.

I ddathlu llwyddiannau unigolion ar draws y gweithlu, rydym yn cynnal seremonïau gwobrwyo.

Mae Rhaglen Datblygu Gofal Cymdeithasol Sir y Fflint yn cael ei hariannu gan Gyngor Sir y Fflint a thrwy grant gan Lywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth am unrhyw gwrs, cysylltwch â Thîm Datblygu'r Gweithlu ar 01352 702591 neu drwy anfon e-bost at wdt@flintshire.gov.uk