Alert Section

Trosedd ar y trothwy


Trosedd ar y trothwy yw’r hyn sy’n digwydd pan ddaw rhywun at y drws yn ddiwahoddiad a thwyllo perchennog y tŷ i’w adael i mewn er mwyn dwyn oddi wrtho neu er mwyn dwyn perswâd arno i roi arian iddo. Gallant hefyd gymryd arnynt eu bod yn gweithio i gwmni e.e.  cwmni nwy neu ddŵr, neu gallant geisio gwerthu rhywbeth neu ofyn am daliad am waith fel garddio, rhoi wyneb newydd ar y dreif neu drwsio’r to. Mae hefyd yn cynnwys pobl sy’n dwyn perswâd ar bobl i dalu am nwyddau neu wasanaethau nad ydynt yn bod neu sy’n codi pris cwbl afresymol am nwyddau neu waith gwael. 

Mae rhai yn fasnachwyr dilys, ond nid pob un. Defnyddiwch y wybodaeth isod i wneud yn siŵr eich bod yn barod i ddelio â nhw.

Atal Trosedd Ar Y Trothwy

Cyngor ar Bopeth - cyngor am werthu ar y trothwy e.e. beth y dylai gwerthwr dilys ei wneud a sut i’ch diogelu’ch hun. 

Gwybod Eich Hawliau

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod am eich hawliau statudol pan fyddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau ar garreg y drws.

Mae’r Rheoliadau Gwerthu ar y Garreg y Drws yn eich diogelu chi pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau ar garreg eich drws. Cewch eglurhad ar wefan  Cyngor ar Bopeth

Rhoi Gwybod Am Ddigwyddiad

Peidiwch â phoeni am gysylltu â’r heddlu am ddigwyddiad amheus. Dylech ffonio 101 i ddweud wrthynt am fasnachwr ffug a 999 os yw masnachwr ffug wedi cymryd arian gennych chi ac os yw’n dal yn eich cartref neu yn yr ardal leol. Dylech hefyd ffonio 999 os ydych yn amau bod rhywun yn bwrglera drwy dynnu sylw.

Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yw dau o blith nifer o bartneriaid mewn menter ar y cyd i sicrhau nad yw Sir y Fflint yn ardal sy’n apelio at droseddwr ar y trothwy. Bydd Safonau Masnach a’r Heddlu yn cymryd camau gorfodi yn erbyn drwgweithredwr ond rydym yn dibynnu ar bobl Sir y Fflint i roi gwybod i ni amdanynt.

Cofiwch, eich trothwy chi a’ch penderfyniad chi ydyw


Cysylltwch â ni

Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133

Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)

E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF

Ewch i:
Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint

Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener