Alert Section

Safonau Iaith Gymraeg


Bydd Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ddisodli gan y Safonau Iaith Gymraeg newydd ar 30 Mawrth 2016. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi rhybudd i bob Cyngor yng Nghymru yn nodi'r Safonau mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â hwy. 

Nod y Safonau yw i barhau a datblygu gwaith Cynlluniau Iaith Gymraeg:

  • gwella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan sefydliadau yn y Gymraeg
  • cynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg
  • ei gwneud yn glir i sefydliadau yr hyn sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg

Mae’r Safonau yn ymdrin â darparu gwasanaeth, llunio polisïau, gweithredol, hyrwyddo a chadw cofnodion.

Safonau’r Gymraeg ar gyfer Cyngor Sir y Fflint

Hysbysiad Cydymffurfio - Iaith Gymraeg

Mae rhagor o wybodaeth am Safonau’r Gymraeg ar gael ar wefan 

Os ydych am gwyno oherwydd eich bod yn amau nad yw Cyngor Sir y Fflint yn cydymffurfio â’r safonau Iaith Gymraeg, defnyddiwch drefn gwyno’r Cyngor.  

Strategaeth Bum Mlynedd  Hynwyddo’r Iaith Gymraeg


Proffil siaradwyr Cymraeg Sir y Fflint
Tabl: Gwybodaeth o’r Gymraeg (2011 & 2021)
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021

 

Sir y Fflint

Cymru

2011 Cyfrifiad

2011 Cyfrifiad

      No.      

%

%

Pawb dros 3+

146,940

-

-

Yn gwybod dim Cymraeg

116,670

79.4%

78.6%

Yn deall Cymraeg llafar yn unig

6,465

4.4%

5.3%

Yr holl siaradwyr Cymraeg

21,159

14.4%

19.0%

Siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg

16,016

10.9%

14.6%

 

 

Sir y Fflint

Cymru

2021 Cyfrifiad

2021 Cyfrifiad

      No.      

%

%

Pawb dros 3+

155,000

-

-

Yn gwybod dim Cymraeg

126,015

81.3%

74.8%

Yn deall Cymraeg llafar yn unig

7,750

5%

5.2%

Yr holl siaradwyr Cymraeg

17,980

11.6%

17.8%

Siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg

21,235

13.7%

20%

Mae gwybodaeth fanylach ar broffil y siaradwyr Cymraeg yn y sir ar gael yn Stats Cymru.