Dewch i siarad: Byw yn Sir y Fflint
Canlyniadau ar gael
Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod
Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol
Rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025, cymerodd y Cyngor ran yn yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol.
Wedi’i ddatblygu a’i gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Data Cymru gynt), cynigir yr arolwg ar-lein hwn a gynhelir bob dwy flynedd yn rhad ac am ddim i unrhyw Gyngor yng Nghymru sy’n dymuno cymryd rhan. Bwriad yr arolwg yw darparu trosolwg manwl o fodlonrwydd cyffredinol pobl â’u hardal leol (‘beth’ mae pobl yn feddwl). Nid yw’n casglu data manwl sy’n helpu i ddeall ‘pam’ fod pobl yn meddwl mewn ffordd arbennig.
Er gwaethaf ymdrechion gorau’r Cyngor i hyrwyddo’r arolwg drwy ystod o’r sianeli sydd ar gael:
- gwefan
- cyfryngau cymdeithasol
- cyfryngau lleol
- rhwydweithiau proffesiynol (h.y. pobl hŷn, pobl iau, ac ati)
- Cynghorwyr Sir
- Cynghorau Tref a Chymuned
- darparu cefnogaeth ddigidol drwy Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a Gwasanaeth Llyfrgell Symudol Gwella
roedd y gyfradd ymateb yn siomedig iawn gyda llai nag 1% o boblogaeth Sir y Fflint yn cymryd rhan, ac yn anffodus, ni ellir ystyried hyn fel cynrychiolaeth o farn poblogaeth ehangach Sir y Fflint.
Heb fynediad at wybodaeth fwy manwl yn egluro ‘pam’, mae’n amhosibl datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer gwelliant gydag unrhyw lefel o hyder neu sicrwydd, ac o ystyried y gyfradd ymateb siomedig, ynghyd â’r cyfyngiadau hyn, ni ystyriwyd ei bod yn gymesur dyrannu adnoddau pellach i ddadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd yn ddiweddar.
Er bod canlyniad yr arolwg hwn yn siomedig i’r Cyngor, hoffem sicrhau preswylwyr:
- bod gennym fynediad at adborth/data mwy manwl gan breswylwyr yn ymwneud â phynciau sydd wedi’u cynnwys yn yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol, a ddefnyddir ar gyfer cynllunio gwelliant cynhwysfawr.
- byddwn yn ystyried pa gamau sydd eu hangen i sicrhau rhagor o ymgysylltiad â phreswylwyr ar y materion pwysig hyn yn y dyfodol.