Alert Section

Hafan BGA

Addewid #BodYnGaredigArLeinCSFf Sir Y Fflint

Gwneud yr addewid #ByddGaredigArLeinCSFf 

Gwnewch wahaniaeth cadarnhaol heddiw!  Gallwch wneud yr addewid drwy ddilyn un o’r dolenni isod:


Rydw i’n byw yn Sir y Fflint

Trigolion Sir y Fflint

Rydym ni'n ysgol yn Sir y Fflint

Ysgolion Sir y Fflint

Rydym ni’n fusnes yn Sir y Fflint

Busnesau Sir y Fflint

Rydym yn glwb / grŵp yn Sir y Fflint

Clwb /Grŵp yn Sir y Fflint


Mewn byd o dechnoleg a chyfryngau cymdeithasol sy’n esblygu, mae bod ar-lein yn dod yn fwy o ran o’n bywydau bob dydd. 

Mae cyfathrebu ar-lein wedi cynyddu yn ystod pandemig Covid-19, gan helpu teuluoedd, ffrindiau a chymdogion i gadw mewn cysylltiad a galluogi nifer o bobl i weithio o gartref. 

Er bod y rhyngrwyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’n bywydau, yn anffodus mae hefyd yn gallu cael ei gamddefnyddio gan bobl y tu ôl i sgriniau a bysellfyrddau.  


Beth yw Seiberfwlio?

Dyma ddiffiniad gan Unicef: seiberfwlio yw bwlio sy’n defnyddio technolegau digidol. Gall ddigwydd ar gyfryngau cymdeithasol, platfformau negeseuon, platfformau chwarae gemau a ffonau symudol.  Ymddygiad ailadroddus ydyw sydd â’r nod o ddychryn, gwylltio neu godi cywilydd ar y rhai sy’n cael eu targedu.  

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

• lledaenu celwydd neu rannu lluniau allai achosi embaras i rywun ar gyfryngau cymdeithasol. 

• anfon negeseuon cas neu fygythiadau trwy gyfrwng platfformau negeseuon.

• cymryd arnynt eu bod yn rhywun arall ac anfon negeseuon cas at bobl eraill ar eu rhan. 

Gall bwlio wyneb yn wyneb a seibrfwlio ddigwydd ar y cyd yn aml iawn.  Ond mae seiberfwlio yn gadael ôl-troed digidol - cofnod all fod yn ddefnyddiol a darparu tystiolaeth i roi stop ar y gamdriniaeth. 


Addewid #BodYnGaredigArLeinCSFf

Rhestr wirio syml ar-lein yw Addewid Bod yn Garedig Ar-lein Sir y Fflint sydd yn annog pobl i ymrwymo i bum addewid gyda’r nod o feddwl eto am ein hymddygiad ar-lein a chroesawu parch, empathi a charedigrwydd. 

Gallwch wneud addewid fel unigolyn, fel ysgol neu fel busnes.  

Gyda’ch cymorth chi, rydym eisiau codi ymwybyddiaeth ynghylch defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol a rhoi stop ar seiberfwlio yn ein cymunedau.  


Pa ddulliau eraill y gallaf i gymryd rhan?

Gallwch ddangos eich cefnogaeth drwy rannu addewid ar gyfryngau cymdeithasol - gallwch wneud hyn drwy: 

Lawrlwytho’r cerdyn addewid

• Ysgrifennu eich addewid eich hun ar y cerdyn 

• Tynnu hun-lun o’ch addewid - neu gofyn i rywun dynnu eich llun• Ei rannu ar eich cyfryngau cymdeithasol

• Defnyddio’r hashnod #BodYnGaredigArLeinCSFf


 Cliciwch ar y ddelwedd i chwarae’r fideo


Ffyrdd y gallwn ddangos caredigrwydd ar-lein

Beth am wneud rhywbeth caredig ar-lein ac annog pobl eraill i wneud yr un fath?

Fe allech chi…

• Hoffi negeseuon ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol i wneud iddynt deimlo’n dda

• Canmol rhywun

• Anfon sylwadau cefnogol at ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol os ydyw’n ymddangos eu bod yn teimlo’n isel

• Rhannu neges sy’n ysbrydoli 

• Hyrwyddo busnes bach / lleol drwy adael adolygiad cadarnhaol ar-lein

• Ticio’r blwch cymorth rhodd ar-lein pan fyddwch chi’n prynu tocyn neu’n rhoi arian i elusen

• Rhoi adolygiadau cadarnhaol i lyfrau / ffilmiau / albymau rydych chi’n eu hoffi

• Cefnogi prosiect codi arian ar-lein

• Cefnogi rhywun ar LinkedIn 

• Addysgu rhywun sut i wneud rhywbeth newydd ar y rhyngrwyd

#FCCBeKindOnline Logo (WELSH)