Sylwch: Ni ellir cael gwared ar wastraff gweddilliol bin du (gwastraff y cartref neu wastraff masnachol) fel rhan o danysgrifiad gwastraff masnachol, ac ni chaiff ei dderbyn yn y safle
 
Eitemau rhad ac am ddim
Gellir gwaredu rhai eitemau’n rhad ac am ddim:
- Metel sgrap
- Batris a Chronaduron cerbydau / ceir ail law
- Dodrefn i’w hailddefnyddio
Ffi tanysgrifio flynyddol
Ar ôl derbyn eich trwydded, gallwch dalu am danysgrifiad blynyddol o £120 i waredu eitemau y gellir eu hailgylchu:
Mae’r deunyddiau hyn i gyd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth ac mae’n rhaid eu hailgylchu.
- Papur a cherdyn
- Plastigion, metelau a chartonau cymysg
- Gwastraff bwyd
- Gwydr
Ffioedd talu wrth fynd
Ar ôl derbyn eich trwydded, gallwch dalu am yr eitemau hyn ar bob ymweliad.
Ffioedd talu wrth fynd
| Math o Wastraff | Cost | 
|---|
| CRT (offer arddangos gweledol) | £10 yr eitem | 
| Offer trydanol domestig mawr | £10 yr eitem | 
| Offer trydanol domestig bach | £10 yr eitem | 
| Oergelloedd, cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff | £10 yr eitem | 
| Matresi wedi eu defnyddio, i’w hailgylchu | £10 yr eitem | 
| Teiars | £10 y teiar | 
| Diffoddyddion tân | £10 yr eitem | 
| Poteli nwy | £10 yr eitem | 
| Cemegion cymysg | £10 yr eitem | 
| Dodrefn na ellir eu hailddefnyddio | £10 yr eitem | 
| Erosolau (WD40, chwistrellau glud, ac ati) | £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol | 
| Tiwbiau fflworoleuol | £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol | 
| Paent, inc, glud yn cynnwys sylweddau peryglus | £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol | 
| Paent, inc, glud NAD YDYNT yn cynnwys sylweddau peryglus | £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol | 
| Plastrfwrdd (un ffrwd) | £60 y llwyth | 
| Plastig (HP) (un ffrwd) | £30 y llwyth | 
| Pren nad yw’n cynnwys sylweddau peryglus (un ffrwd) | £30 y llwyth | 
| Pridd a rwbel (un ffrwd) | £30 y llwyth | 
| Gwastraff gardd bioddiraddadwy (un ffrwd) | £30 y llwyth | 
| Carpedi | £30 y llwyth | 
| Llwythi cymysg yn cynnwys plastrfwrdd | £60 y llwyth | 
| Llwythi cymysg NAD YDYNT yn cynnwys plastrfwrdd | £30 y llwyth | 
| Asbestos Rhaid i'r gwastraff bod mewn bagiau coch. Mae’n bosib casglu’r bagiau o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu trwy ddefnyddio eich cyfeirnod archebu. (mewn bagiau dwbl, 5 bag ar y mwyaf, gellir ei waredu yn ystod yr wythnos yn unig) | £25 y bag | 
 
 
Newydd Compost yn Fasnachol
Mae compost bellach ar gael i fusnesau ei brynu o safle compostio Cyngor Sir y Fflint ym Maes-glas. Gall cwmnïau eu prynu a’u casglu fel trefniant untro neu trwy drefniant casgliad rheolaidd.  Mae prisiau gostyngedig ar gael am symiau mwy.
Am fwy o wybodaeth neu i holi am brynu, cysylltwch â KerbsideRecycling@siryfflint.gov.uk
Os ydych chi’n gwmni sydd â diddordeb mewn prynu compost, gofalwch fod y manylion canlynol gennych chi gan y bydd angen y rhain cyn gallu prynu ymlaen llaw:
- Trwydded cario gwastraff
- Manylion y cerbyd