Coed

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am reoli miloedd o goed sy'n rhan o gylch gwaith nifer o wasanaethau. Os oes gennych ymholiad am goeden ar dir y cyngor, byddech yn ein helpu pe baich yn ei chyflwyno’n uniongyrchol i’r adran berthnasol drwy ddefnyddio’r rhif cyswllt neu drwy e-bost.  Yn ogystal â bod yn berchennog coed o bwys, mae gan y cyngor bwerau i warchod a delio â choed peryglus ar dir preifat. 

 

CYSYLLTIADAU

Strydwedd

Strydwedd Coed ar ymyl priffyrdd a strydoedd a choed mewn parciau, mannau chwarae a mannau agored ffurfiol.  Mae’r A55 a’r A494 yn gefnffyrdd a gynhelir gan ACGCC NMWTRA (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru) a dylid gwneud unrhyw ymholiadau am goed ar eu tir yn uniongyrchol i'r asiantaeth. 

E-bost: streetscene@flintshire.gov.uk      Rhif ffôn: 01352 701234     

Gwasanaeth Cefn GwladSafleoedd Gwasanaeth Cefn Gwlad (e.e. Parc Gwepra, Llwyni, Tir Comin Bwcle, Coed Carmel a Choed Penymaes) ac eithrio

Dyffryn Maes Glas.E-bost:  countryside@flintshire.gov.uk       Rhif ffôn: 01352 703900Dyffryn Maes Glas E-bost: info@greenfieldvalley.com  Rhif ffôn: 01352714172

Ysgolion

Siaradwch yn uniongyrchol â phennaeth neu ysgrifennydd yr ysgol. Fy Ysgol Leol My Local School 

Os oes argyfwng yn digwydd y tu allan i oriau, cysylltwch â Strydwedd.

Tai

Coed yng ngerddi eiddo’r cyngor neu fannau agored ar ystadau’r cyngor. 

E-bost: housingservices@flintshire.gov.uk   Rhif ffôn: 01352 701500      

Tir arall

Nid yw Cyngor Sir y Fflint yn cadw cofnodion o dir sy'n eiddo i rywun arall.   Os oes gennych ymholiad am goeden ar dir nad yw’n cael ei gynnal gan y cyngor, bydd angen i chi wneud eich ymholiadau eich hun i ganfod pwy yw’r perchennog.

Gall y Gofrestrfa Tir ddarparu gwybodaeth ynglŷn â phwy sy’n berchen ar eiddo neu dir cofrestredig yng Nghymru. Mae ffi yn daladwy ar gyfer chwiliad.

 

RHEOLI COED

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cymru ac mae’n rhaid i reoli coed a choetir trefol yn gynaliadwy fod yn amcan gyffredinol i’r Cyngor.

Fel perchennog tir sylweddol, mae'r Cyngor yn derbyn nifer o geisiadau a chwynion ynglŷn â choed ac mae'n bwysig ymdrin â nhw'n gyson ac yn gymesur. Oni bai fod rhesymau eithriadol pwysicach, ni fydd coed sy’n cael eu rheoli gan goedwyr y Cyngor yn cael eu tocio na’u torri, am gost i’r Cyngor, o ganlyniad i’r canlynol:-

•             Honiadau eu bod yn rhy dal

•             Cysgod (oni bai ei fod yn llethol)

•             Colli golygfa

•             Gollwng melwlith / sug llysleuol

•             Gollwng dail neu weddillion tymhorol eraill

•             Ymyrryd ar dderbyniad teledu

•             Effeithio ar effeithlonrwydd paneli solar

•             Cyffwrdd â gwifrau telegyfathrebu uwch ben

•             Canghennau sy’n hongian uwch benMae’r polisi hwn yn unol â'r hawliau cyfraith gyffredin sy'n bodoli rhwng perchennog coeden a pherson sy'n gwneud cwyn.

Cynghorir cymdogion sy’n dymuno arfer hawl dan y gyfraith gyffredin i dorri canghennau sy'n hongian uwch ben o goed ar dir y Cyngor i gysylltu â’r Cyngor o flaen llaw i drafod y gwaith arfaethedig. 

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i nodi, gwerthuso a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â methiant coed yn effeithiol ac mae’n defnyddio dulliau Asesu Risg Coed i sicrhau bod coed yn cael eu harchwilio a’u rheoli i adlewyrchu lefel y risg y maent yn ei greu. 

Mae’r dull hwn yn sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau’n effeithiol. Mae coed mawr sydd wrth ochr cefnffyrdd mawr yn cael eu harchwilio bob blwyddyn ac nid oes archwiliadau'n cael eu cynnal ar rai coed gan na fyddent yn achosi difrod na niwed hyd yn oed pe baent yn methu.

COED A WARCHODIR

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw’r rhan o’r Cyngor sy’n penderfynu ar geisiadau datblygu ac sy'n gweinyddu'r polisïau a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gwarchod coed. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau sy’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am weithdrefnau gwarchod coed.

Gwarchod Coed: Canllawiau Gweithdrefnau Gwarchod Coed  

Gorchmynion Diogelu Coed

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweinyddu oddeutu 380 o Orchmynion Diogelu Coed (GDC), ffigwr 2018. Gall un GDC warchod un goeden neu nifer o goed yn dibynnu ar y dynodiadau a ddefnyddir. Gall y dynodiadau hyn nodi coed unigol, mewn grŵp, ardaloedd neu goetiroedd.Oni bai fod eithriadau, mae Gorchymyn Diogelu Coed yn gwahardd torri, dadwreiddio, torri brig, torri canghennau, difrodi bwriadol neu ddinistrio coeden heb ganiatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol.  Fel arfer, coed yn yr amgylchedd adeiledig sydd fwyaf mewn perygl o gael eu torri ac felly mae'r rhan fwyaf o Orchmynion Diogelu Coed yn cael eu gwneud mewn ardaloedd trefol. 

Ardaloedd CadwraethYn Sir y Fflint, mae 32 o ardaloedd cadwraeth sydd yn bennaf yng nghanol trefi neu bentrefi hanesyddol.Yn ogystal â gosod rheolau sy’n rhwystro datblygiadau mae ardaloedd cadwraeth  hefyd yn gwarchod coed ac, er bod rhai eithriadau, mae’n drosedd torri coeden i lawr, torri ei brig, torri ei changhennau, ei dadwreiddio, ei difrodi’n fwriadol neu ei dinistrio heb roi chwe wythnos o rybudd  ysgrifenedig i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Mae’r cyfnod hysbysu o chwe wythnos yn rhoi cyfle i’r Awdurdod Cynllunio Lleol lunio Gorchymyn Diogelu Coed lle mae angen un i ddiogelu'r amwynder mae coeden yn ei greu mewn ardal. Pan fo Gorchymyn wedi’i lunio, ei effaith yw atal y gwaith sydd wedi’i ddisgrifio yn yr hysbysiad rhag parhau.  I ganfod a yw eiddo mewn Ardal Gadwraeth ddynodedig, ddilynwch y ddolen i the Dudalen Fapio’r System Gwybodaeth Ddaearyddol, cliciwch ar yr eicon haenau yng nghornel dde uchaf y sgrin i ddatgelu’r haenau a chliciwch ar y bocs sgwâr i ddangos yr Ardaloedd Cadwraeth ar y map.  

Gan fod Gorchmynion Diogelu Coed ac ardaloedd cadwraeth yn gwarchod coed er mwyn amwynder y cyhoedd, bydd y Cyngor, yn unol ag arfer orau, fel arfer yn cyhoeddi gwaith coed sy’n cynnwys torri coeden i lawr. Wrth benderfynu ar geisiadau Gorchymyn Diogelu Coed a hysbysiadau ardal gadwraeth, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y canllawiau cenedlaethol perthnasol a pholisïau cynllunio’r Cyngor ei hun.

Gallwch wneud cais ar-lein ar Borth Cynllunio Cymru neu gallwch lawrlwytho ffurflen a nodiadau cyfarwyddyd

 

Sut allaf ganfod a oes Gorchymyn Diogelu Coed ar goeden?

Mae’r cyngor yn gweithio ar greu haen ar ei system gwybodaeth ddaearyddol o'i Orchmynion Diogelu Coed a fydd ar gael ar-lein i'r cyhoedd eu gweld. Yn y cyfamser dylid gwneud unrhyw ymholiadau am Orchmynion Diogelu Coed yn uniongyrchol i Swyddog Coedwigaeth y Cyngor.

E-bost:  stuart.body@flintshire.go.uk   Rhif ffôn 01352 703264

 

Amodau cynllunio

Mae amodau cynllunio yn amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio ac sy’n rheoli neu’n rhagnodi agweddau ar ddatblygiad a wneir yn unol â gofynion yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, ni fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel arfer yn dibynnu ar amodau cynllunio i warchod coed yn y tymor hir sy'n deilwng o gael eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed. Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gorfodi diogelu coed yn y tymor byr trwy amodau cynllunio sydd mewn bodolaeth ac felly dylai unrhyw un sy’n bwriadu gwneud gwaith ar goeden mewn datblygiad a gwblhawyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf gysylltu â Swyddog Coedwigaeth y Cyngor o flaen llaw.E-bost:  stuart.body@flintshire.go.uk   Rhif ffôn 01352 703264

E-bost:  stuart.body@flintshire.go.uk   Rhif ffôn 01352 703264

 

Rheolaethau Eraill Dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 (fel y’i diwygiwyd) mae cyfyngiad ar faint o bren sy’n tyfu y gellir ei dorri ym mhob chwarter blwyddyn heb drwydded torri coed. Gweinyddir y rheolaethau gan  Gyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae rhai tiroedd yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru oherwydd eu pwysigrwydd naturiol neu ddiwylliannol hefyd (e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig) ac mae’n bosibl y bydd angen i’r corff hwn asesu gweithrediadau gwaith coed arfaethedig a allai effeithio ar y safleoedd hyn.

Hefyd wrth wneud gwaith coed dylid cymryd camau rhesymol i wirio a oes unrhyw rywogaethau a warchodir (e.e. adar, ystlumod, moch daear).

COED PERYGLUS

Priffyrdd Fel yr Awdurdod Priffyrdd, gall y Cyngor, drwy rybudd ffurfiol, ei gwneud yn ofynnol i berchennog coeden (neu lystyfiant o unrhyw fath) ei thorri neu ei thocio os yw'n peri perygl neu rwystr the highway ar briffordd.    

Dylid rhoi gwybod am honiadau o goed peryglus wrth ochr y briffordd i'r tîm Strydwedd a byddant yn cael eu hasesu gan ddefnyddio dull Asesu Risg Coed i bennu a oes angen camau adferol. Os na roddir rhybudd ffurfiol, gall y Cyngor neu gontractwyr ar ran y Cyngor fynd ar y tir a gwneud y gwaith a nodir yn y rhybudd.

Strydwedd neu E-bost.  streetscene@flintshire.gov.uk   Rhif ffôn: 01352 701234 

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r Cyngor ddelio â choed ar dir sy’n berygl i berchennog neu feddiannwr tir cyfagos. Dylid rhoi gwybod am honiadau o goed peryglus i'r Cyngor yn ysgrifenedig a, lle bo hynny'n briodol, cynnwys ffotograffau o'r goeden ac adroddiad coedyddiaeth.  Bydd coedwyr y Cyngor yn defnyddio dull Asesu Risg Coed i bennu graddau’r perygl ac a ddylid defnyddio pwerau’r Cyngor.

 E-bost:  stuart.body@flintshire.go.uk   Rhif ffôn 01352 703264

RHEOLI RISGIAU SY'N GYSYLLTIEDIG Â CHOED

Mae’r dull hwn yn sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau’n effeithiol. Mae coed mawr sydd wrth ochr cefnffyrdd mawr yn cael eu harchwilio bob blwyddyn ac nid oes archwiliadau'n cael eu cynnal ar rai coed gan na fyddent yn achosi difrod na niwed hyd yn oed pe baent yn methu.

I gynorthwyo’r dull hwn sy’n ystyried y risg, mae’r Cyngor yn defnyddio system reoli coed gyfrifiadurol sy’n defnyddio system gwybodaeth ddaearyddol. Mae'r system gyfrifiadurol yn ein galluogi i drefnu i ail-archwilio ar gyfnodau penodol yn seiliedig ar risg y goeden.Mae’r Cyngor, fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, hefyd yn defnyddio dulliau Asesu Risg Coed i asesu cynigion i wneud gwaith ar goed gwarchodedig yr honnir nad ydynt yn ddiogel.

Mae’r Grŵp Diogelwch Coed Cenedlaethol wedi cynhyrchu llyfryn synnwyr cyffredin wrth reoli risgiau coed sydd ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth.  https://www.forestry.gov.uk/safetreemanagement

Dogfennau perthnasol

Gwefannau Defnyddiol