Alert Section

Rheoli Dolydd

Darganfyddwch fwy am ein cynllun rheoli dolydd drwy'r flwyddyn mewn ardaloedd glaswelltir a blodau gwyllt.

  • Chwefror - Mawrth

    Yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn mae’n bwysig torri’r gwair a chasglu’r toriadau ar y safleoedd sydd wedi gweld tyfiant mawr. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i’n blodau gwyllt dyfu a chystadlu’n llwyddiannus yn erbyn y glaswellt. 

    Cut grass in Bagillt
    Gwair wedi’i dorri ym Magillt

  • Ebrill - Gorffennaf

    Yn ystod misoedd cynhesach y flwyddyn, rydym ni’n gadael i’n glaswelltiroedd dyfu. Drwy wneud hyn rydym ni’n caniatáu i’r blodau flodeuo ac ail hadu eu hunain.

    Wildflowers at Broughton Roundabout
    Blodau gwyllt ar gylchfan Brychdyn

  • Awst - Hydref

    Unwaith mae’r blodau wedi hadu, mae’n bwysig torri a chasglu’r toriadau gwair. Mae hynny’n tynnu’r maetholion o’r pridd ac yn helpu i greu’r amgylchedd perffaith i’r blodau gwyllt. 

    Reduced mow in Drury
    Llai o dorri gwair yn Drury 

  • Tachwedd - Ionawr

    Yn ystod misoedd y gaeaf, rydym ni’n gadael ein safleoedd heb eu torri oni bai bod y glaswellt wedi tyfu gormod ac yn mynd i gystadlu yn erbyn ein blodau gwyllt yn y gwanwyn.

    Winter in Flint
    Gaeaf yn y Fflint

Lawrlwythwch 'Ein gwaith rheoli dolydd drwy'r flwyddyn'