Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 2


Cyflwyno Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan

Beth yw ceir Trydan/Hybrid?

Mae gan geir trydan fatris y tu mewn iddyn nhw sy’n storio llawer iawn o ynni, sy’n eich galluogi i wefru’r car a’i ddefnyddio am gyfnod hir cyn bod angen ei wefru eto. Nid yw’r ceir hyn yn cynhyrchu allyriadau carbon deuocsid wrth eu gyrru, sy’n golygu llawer llai o lygredd yn yr aer. Mae gan geir hybrid injan sy’n cael ei phweru gan betrol, gyda motor trydan ychwanegol. Mae hyn yn eich galluogi i wneud teithiau rheolaidd yn defnyddio trydan, ond gydag injan betrol wrth gefn ar gyfer teithiau hirach.

Pam ein bod ni’n gosod mannau gwefru Cerbydau Trydan?

Fel rhan o’n huchelgais i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030, rydym wedi ymrwymo i’w gwneud yn haws datgarboneiddio cludiant ar draws y sir. Mae helpu pobl i drosglwyddo i gerbydau carbon isel, fel rhai trydan, yn rhan allweddol o hyn. Mae yna darged i roi’r gorau i werthu ceir diesel a phetrol erbyn 2030, felly rydym yn buddsoddi mewn gwelliannau i seilwaith gwefru cerbydau trydan y sir er mwyn cynnig man gwefru dibynadwy i drigolion wefru eu car os nad oes ganddyn nhw gyfleuster gwefru gartref. SWARCO fydd gweithredwr y mannau gwefru a nhw fydd yn delio â phob agwedd ar wefru cyhoeddus a chynnal a chadw’r mannau gwefru.

Sawl man gwefru Cerbydau Trydan sydd yna, a lle maen nhw?

Mae cyfanswm o 15 man gwefru wedi cael eu gosod ledled Sir y Fflint fel rhan o Gam Un y gwaith. Yn dibynnu ar lwyddiant cam un, gellir rhoi ail gam ar waith, gan ehangu’r rhwydwaith gwefru. 

  • 5 yn Y Fflint – 2 yn Allt Goch, 1 yn Richard Heights a 2 yn Castle Street.
  • 2 yn Queensferry – Pierce Street.
  • 4 yn Yr Wyddgrug – 2 yn Stryd Newydd a 2 yn Griffiths Square.
  • 2 ym Mwcle – Precinct Way.
  • 2 yn Nhreffynnon – 2 ym maes parcio Plas yn Dre.

EV Charging Points - Flint - Allt GochMannau Gwefru Cerbydau Trydan - Fflint - Allt Goch

EV Charging points - Buckley - Precinct WayMannau Gwefru Cerbydau Trydan - Bwcle - Precinct Way

Wyddech chi?

Mae cael gwared â batris drwy eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol yn beryglus ac yn gwneud difrod i’r amgylchedd.  Y ffordd orau o gael gwared â batris yw eu rhoi mewn bag clir a’u rhoi allan gyda’ch gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu.  Neu fe allwch chi fynd â nhw i’ch siop leol sy’n eu cymryd am ddim. Mae ein gwefan yn rhoi gwybod i chi am yr hyn y gallwch ac na allwch chi ei ailgylchu, os nad ydych chi’n siŵr beth y mae posib ei ailgylchu.

Batteries

I ble mae’ch gwastraff cyffredinol yn mynd?

Mae’n gamsyniad cyffredin bod y gwastraff sy’n cael ei gasglu o ymyl y palmant yn cael ei anfon naill ai i safleoedd tirlenwi neu dramor.

Mae Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy yn gyfleuster creu ynni o wastraff, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Caiff gwastraff cyffredinol ymyl palmant y 5 awdurdod lleol hyn ei gasglu, ei losgi a’i ddefnyddio i greu ynni a deunyddiau ailgylchadwy.

Mae’r safle’n prosesu tua 2,000 o dunelli o wastraff yr wythnos o’r 5 sir, gyda chyfran ohono’n wastraff masnachol. Mae’r ynni a gynhyrchir o’r gwastraff yn pweru Parc Adfer ac mae’r gweddill yn mynd yn syth i’r grid i gyflenwi trydan i hyd at 45,000 o gartrefi.

Defnyddir y gwres o’r broses losgi i droi dŵr yn stêm, sy’n pweru 4 tyrbin gwynt, gan gynhyrchu trydan ychwanegol ar gyfer y grid cenedlaethol. Caiff y gwastraff o’r broses ymlosgi ei ailddefnyddio hefyd, gyda’r lludw’n cael ei ddefnyddio fel graean i adeiladu, a’r metelau’n cael eu hadfer a’u hailgylchu.  Gall y broses losgi fod yn niweidiol i’r amgylchedd, ond mae’r nwyon a ollyngir yn cael eu hidlo a’u glanhau cyn cael eu rhyddhau i’r atmosffer.

Yn yr wythnosau i ddod!

Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yn cael ei gynnal rhwng 27 a 29 Ionawr. Gwyliwch a chofnodwch y gwahanol rywogaethau adar o’ch amgylch am awr, naill ai yn eich gardd, ar eich balconi neu yn eich parc lleol. Yna gallwch fynd i wefan RSPB i roi gwybod beth welsoch chi. Defnyddir y wybodaeth hon i helpu monitro rhywogaethau adar ledled y DU, ac i ganfod unrhyw rywogaethau sy’n dirywio. Mae pecynnau gwybodaeth ar gael o wefan RSPB.

Bydd Sir y Fflint yn cynnal sesiwn creu teclynnau bwydo adar am ddim ddydd Sadwrn 21 Ionawr rhwng 10:00am a 12.30pm yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra. Ymunwch â’r tîm i ddysgu mwy am y digwyddiad Gwylio Adar yn yr Ardd, am yr adar a welwn ni yn y gaeaf ac am eu hanghenion.  Gallwch gadw eich lle drwy Eventbrite neu alw heibio canolfan ymwelwyr Parc Gwepra. Beth am alw draw a chymryd rhan?

Wythnos Hinsawdd Cymru

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru ym mis Tachwedd, roedd y tîm newid hinsawdd allan yn y gymuned leol yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio i helpu’r trigolion gyfrifo eu hôl troed carbon, ac i ddysgu sut y gallen nhw ddechrau lleihau eu heffaith o ran carbon. Ochr yn ochr â hyn, roedd y tîm ynni’n cynnig cyngor am ynni i’r trigolion. Bu i ni hefyd lansio ein tudalennau Newid Hinsawdd ar y we, lle gallwch chi ddysgu pa gamau gweithredu ar hinsawdd y mae’r Cyngor wedi ymrwymo iddyn nhw a sut y gallwch chi gymryd rhan. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth