Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerddwyr Cwn Gwyrdd

Published: 23/06/2023

Shelby.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi lansiad ymgyrch o’r enw ‘Cerddwyr Cwn Gwyrdd’.  

Mae Cerddwyr Cwn Gwyrdd yn ffordd gyfeillgar, di-wrthdaro i helpu i newid agweddau am faw cwn ar draws Sir y Fflint.  Mae perchnogion cwn a cherddwyr cwn yn cefnogi’r cynllun drwy lofnodi addewid i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.  Maent yn cefnogi perchnogion eraill i wneud yr un fath a byddant yn gwneud eu hunain yn weledol trwy roi Bandana Cerddwyr Cwn Gwyrdd ar eu ci.    

Bydd pob Cerddwr Cwn Gwyrdd yn addo gwneud y canlynol bob tro:

  • Lanhau ar ôl eu ci
  • Cario bagiau baw cwn ychwanegol
  • Bod yn fodlon i bobl sydd heb rai ddod atynt i ofyn am fag baw cwn ar fenthyg
  • Atgoffa cerddwyr cwn eraill yn gyfeillgar i lanhau ar ôl eu cwn

Llofnodwch yr addewid ar eich cyfer chi a’ch ci!

https://flintshire.gov.uk/cerddwyrcwngwyrdd

Ar ôl i ni gael eich ffurflen, byddwn yn anfon eich bandana Cerddwyr Cwn Gwyrdd i’ch ci. Os nad yw eich ci yn awyddus i’w wisgo, mae sawl ffordd y gall perchnogion ei wisgo i wneud eu hunain yn weledol.  

Y gyfrinach i ymgyrch Cerddwyr Cwn Gwyrdd yw’r grwpiau gwirfoddolwyr a pherchnogion cwn sy’n rhedeg y stondinau addewid a chasglu addewidion.  Felly, hoffem wahodd unigolion, ysgolion, grwpiau cymunedol, sgowtiaid, milfeddygon a busnesau i hyrwyddo’r ymgyrch Cerddwyr Cwn Gwyrdd.

Os hoffech redeg eich grwp Cerddwyr Cwn Gwyrdd yn eich ardal neu yn eich ysgol, clicliwch ar y ddolen isod i wybod mwy https://flintshire.gov.uk/cerddwyrcwngwyrdd

I gael mwy o wybodaeth ac i gael taflenni Cerddwyr Cwn Gwyrdd cysylltwch â keepflintshiretidgreey@flintshire.gov.uk