Alert Section

Cerddwyr Cŵn Gwyrdd

Mae Cerddwyr Cŵn Gwyrdd (Green Dog Walkers) yn ffordd gyfeillgar, di-wrthdaro i newid agweddau am faw cŵn yn eich ardal.

Beth yw Cerddwyr Cŵn Gwyrdd?

Cychwynnwyd y fenter gan Gyngor Falkirk yn yr Alban ac mae bellach wedi’i mabwysiadu gan sawl cyngor drwy’r DU. Mae gwirfoddolwyr yn cael bandana Cerddwyr Cŵn Gwyrdd i’w ci/cŵn ei wisgo i ddangos eu bod wedi “gwneud yr addewid” i:

  • Lanhau ar ôl eu ci
  • Cario bagiau baw cŵn ychwanegol
  • Bod yn fodlon i bobl sydd heb rai ddod atynt i ofyn am fag baw cŵn ‘ar fenthyg’
  • Bod yn batrwm i gerddwyr cŵn eraill lanhau ar ôl eu cŵn

Y Ffeithiau…

Mae 12 miliwn o berchnogion cŵn yn y DU!

Oeddech chi’n gwybod mai i blant ysgol gynradd a chwaraewyr pêl-droed mae’r risg fwyaf o afiechydon oherwydd baw cŵn? Ar ôl iddo fod ar y llawr am bythefnos, mae llyngyr yn datblygu ac mae’r afiechydon y gall y rhain ac eraill eu hachosi’n cynnwys: toxacara canis, llyngyr, salmonela, E-coli, sy’n arwain at niwmonia, asthma a dallineb.

Fodd bynnag, mae YN DDIOGEL ei lanhau “yn y fan a’r lle”!

Mae perchnogion cŵn a cherddwyr cŵn yn cefnogi’r cynllun drwy lofnodi addewid i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Maent yn cefnogi perchnogion eraill i wneud yr un peth drwy roi bagiau baw cŵn am ddim. Maen nhw’n berchnogion cŵn cyfrifol sy’n dangos pwysigrwydd glanhau baw cŵn. 

Eich Canllaw Cerddwyr Cŵn Gwyrdd

Elvis


Dod yn Gerddwr Ci Gwyrdd

I fod yn Gerddwr Ci Gwyrdd, gallwch wneud yr addewid ar-lein. Ar ôl i ni gael eich ffurflen, byddwn yn anfon eich bandana(s) Cerddwyr Cŵn Gwyrdd i’ch ci/cŵn.

Hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect?

Darllenwch yr Addewid a dychwelwch y Ffurflen Dderbyn wedi’i llofnodi. Fe wnawn ni anfon eich bandana(s) cŵn Cerddwyr Cŵn Gwyrdd atoch chi (un i bob ci, uchafswm o 3).

Addewid Cerddwyr Cŵn Gwyrdd

Rydw i drwy hyn yn gwirfoddoli i dderbyn eitem Cerddwyr Cŵn Gwyrdd ac yn gwneud addewid i fod yn rhan o’r ymgyrch fel a ganlyn:

1. Bydd fy nghi/nghŵn yn gwisgo bandana Cerddwyr Cŵn Gwyrdd mor aml â phosib pan mae allan yn cerdded.

2. Byddaf bob amser yn glanhau ar ôl fy nghi ac yn rhoi’r bag mewn bin.

3. Pan fydd pobl eraill yn cerdded fy nghi, byddaf yn eu hannog i lanhau ar ôl fy nghi.

4. Byddaf yn cario bagiau baw cŵn ychwanegol i’w rhannu â cherddwyr cŵn eraill os ydynt angen rhai.

5. Ni fyddaf yn troi ar gerddwyr cŵn eraill yn flin am faw cŵn. Rydw i’n deall yn iawn mai bwriad Cerddwyr Cŵn Gwyrdd yw bod yn ymgyrch gyfeillgar a di-wrthdaro i newid agweddau am faw cŵn.

6. Rwy’n derbyn y gall Cerddwyr Cŵn Gwyrdd gysylltu â mi i gymryd rhan mewn holiaduron neu arolygon ynglŷn â fy mhrofiad Cerddwyr Cŵn Gwyrdd, i helpu i bennu llwyddiant y prosiect.

Ffurflen Dderbyn: Addewid Cerddwyr Cŵn Gwyrdd

Rydw i wedi darllen Addewid Cerddwyr Cŵn Gwyrdd. Mae fy nghi a minnau’n cytuno i gymryd rhan yn ymgyrch Cerddwyr Cŵn Gwyrdd. Rydw i drwy hyn yn gwirfoddoli i dderbyn telerau’r Addewid, i gael bandana Cerddwyr Cŵn Gwyrdd i’m ci/cŵn ei wisgo ac i gario bagiau baw cŵn ychwanegol wrth gerdded fy nghi.


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: keepflintshiretidy@flintshire.gov.uk



Green Dog Walkers