Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant Hanfodion Ysgol - Blwyddyn Academaidd 23/24

Published: 04/07/2023

Eleni, rydym yn ceisio gwella’r drefn o wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol (y cyn Grant Gwisg Ysgol). Rydym yn gobeithio lleihau’r angen i lenwi ffurflenni a chyflymu’r broses o wneud taliadau, fel bod mwyafrif y rhieni a gwarcheidwaid yn gallu cael y grant cyn diwedd mis Gorffennaf.  

Bydd y taliadau hyn yn cael eu rhoi i blant y mae eu rhieni neu warcheidwaid yn gallu ateb YDYN/DO i BOB un o’r cwestiynau canlynol; 

• A yw eich plant yn cael Prydau Ysgol am Ddim?

• A yw eich plant ym Mlwyddyn 1 neu uwch?

• Ydych chi wedi bod yn cael taliadau yn lle Prydau Ysgol am Ddim yn ystod gwyliau’r ysgol?

• Gawsoch chi Grant Hanfodion Ysgol (y cyn Grant Gwisg Ysgol) rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023?

Os mai YDYN/DO yw’r ateb i BOB un o’r cwestiynau uchod, nid oes angen i chi ymgeisio am Grant Hanfodion Ysgol eleni, gan y bydd y taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig erbyn 30 Gorffennaf 2023. Os na fyddwch wedi cael y taliad erbyn 30 Gorffennaf 2023, anfonwch e-bost at freeschoolmeals@siryfflint.gov.uk i roi gwybod am hynny. 

Os yw eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn, yn symud o ysgol y tu allan i Sir y Fflint, neu os yw eich amgylchiadau wedi newid sy’n golygu eich bod bellach yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a Grant Hanfodion Ysgol, byddwch angen cwblhau cais. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Sir y Fflint drwy chwilio am ‘Prydau Ysgol am Ddim’ neu deipio’r URL byr www.flintshire.gov.uk/FSM