Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn nodi galw sylweddol ar wasanaethau cymorth tai a digartrefedd

Published: 12/07/2023

 

Mae Gwasanaeth Tai ac Atal Cyngor Sir y Fflint wedi nodi cynnydd sylweddol o ran nifer y bobl sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth am gymorth dros y 12 mis diwethaf wrth i fwy o bobl ddod yn ddigartref.

Mae’r argyfwng costau byw, amodau anodd y farchnad dai a diffyg tai fforddiadwy yn ffactorau sy’n rhoi galw digynsail ar wasanaethau ac yn creu heriau cyllidebol sylweddol.

Mae’r Gwasanaeth Tai ac Atal yn anelu i atal digartrefedd drwy ddarparu ymyriadau a chefnogaeth, gweithio’n rhagweithiol i ddarparu tai brys a chefnogaeth i bobl pan fo gwaith atal yn aflwyddiannus neu nid oes cyfle i atal rhywun rhag dod yn ddigartref.   

Er gwaethaf yr holl waith ardderchog a wnaed gan y Cyngor a’i bartneriaid i atal digartrefedd, mae’r galw am dai brys yn cynyddu gan roi pwysau mawr ar adnoddau.  Wrth drafod y galw sylweddol ar y Gwasanaeth Tai ac Atal, dywedodd Vicky Clark, y Prif Swyddog Tai a Chymunedau:

“Mae’r Cyngor a’i bartneriaid tai yn darparu tai cymdeithasol i bobl yn Sir y Fflint.  Mae cynnydd sylweddol mewn galw, ac nid oes gennym ddigon o dai i ddiwallu anghenion pobl yn ein cymunedau, a’r rhai hynny mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Bu i adroddiad cenedlaethol diweddar gan Sefydliad Bevan, yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd tai ledled Cymru, ganfod mai dim ond 59 o gartrefi rhent preifat oedd ar gael yn Sir y Fflint yn ystod mis Chwefror 2023, ac nid oedd yr un ohonynt yn codi rhent a fyddai’n fforddiadwy i bobl sy’n dibynnu ar gredyd cynhwysol neu fudd-daliadau tai.  

Er gwaethaf y galw sylweddol ar ein gwasanaethau, rydym wedi ymrwymo i gynyddu ein stoc o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion y rheini sy’n ddigartref ac i ddiwallu anghenion pawb sydd ag anawsterau o ran eu sefyllfa dai, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid tai ar gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu mwy o dai - ond mae hyn yn cymryd amser, wrth reswm.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio:

“Pan fo pobl yn ddigartref, neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, byddwn yn sicrhau bod cymorth tai yn cael ei gynnig yn ogystal ag unrhyw anghenion cefnogaeth eraill a nodir.  

Mae un unigolyn neu deulu yn profi digartrefedd yn un yn ormod, ac mae’n bryderus iawn bod nifer y bobl sy’n profi digartrefedd yn cynyddu.  Wedi dweud hynny, nid yw’r mater hwn yn unigryw i Sir y Fflint, mae’r DU yn wynebu argyfwng tai.  

Mae’r Gwasanaeth Tai ac Atal yn Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth 24/7 ardderchog i helpu pobl i osgoi dod yn ddigartref, ond mae’r her yn sylweddol ac yn aml nid oes fawr o siawns o atal digartrefedd i rai pobl, os o gwbl. 

Mae’n rôl heriol i swyddogion, mae’r adnoddau sydd ar gael i ni i atal digartrefedd yn eang ac yn cynnwys cyfryngu, cymorth i denantiaid, cyngor ar gyllidebu, pecynnau achub rhent, taliadau rhent ychwanegol, cefnogaeth i deuluoedd. 

Wrth gwrs mae hyn yn golygu cost sylweddol, ond dyma’r peth iawn i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd angen ein help.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y Gwasanaeth Tai ac Atal helpu, ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Housing/Housing-and-Prevention/Homelessness-or-At-Risk-of-Homelessness.aspx