Alert Section

Digartref neu Mewn Perygl o Ddigartrefedd

Sut all Atebion Tai helpu

Bydd Atebion Tai yn ceisio atal digartrefedd trwy gynnig cyngor a chymorth i’ch galluogi i aros yn eich cartref, neu efallai y gallant eich helpu i ddod o hyd i lety arall trwy edrych ar yr holl ddewisiadau tai sydd ar gael, gan gynnwys sicrhau llety yn y sector preifat.

Edrychwch ar y ‘Cwestiynau Cyffredin’ isod a ddylai’ch helpu chi gyda’ch ymholiad cychwynnol.  

Peidiwch ag aros nes eich bod chi’n wirioneddol ddigartref, cysylltwch â’r tîm cyn gynted â phosib, ac mae’n bosibl y gallwn eich atal chi rhag mynd yn ddigartref.

Os na all Atebion Tai atal eich digartrefedd, byddant yn cynnal ymholiadau i gadarnhau’r canlynol:

- eich bod yn gymwys am ein gwasanaeth

- eich bod yn ddigartref

- eich bod mewn angen blaenoriaethol

- a ydych chi wedi gwneud eich hun yn fwriadol ddigartref

- pennu a oes gennych gysylltiad lleol â Sir y Fflint.

Os oes angen, gallai llety dros dro gael ei gynnig wrth i’r ymholiadau hyn gael eu cynnal. 

Cofiwch fod Atebion Tai yn ymateb i sefyllfa argyfyngus ac felly mae’n bosibl y bydd rhaid dibynnu ar lety dros dro nad ydyw o reidrwydd ar gael mewn ardal o’ch dewis.

Gallwch ffonio’r Tîm Digartrefedd ar 01352 703777

StreetLink

Ydych chi'n poeni am rywun sy’n cysgu allan?

Mae StreetLink yn wefan sy'n galluogi'r cyhoedd i rybuddio awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr am bobl sy’n cysgu allan yn eu hardal. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig dull i’r cyhoedd i weithredu pan fyddant yn gweld rhywun yn cysgu ar y stryd, ac mae'r cam cyntaf y gall rhywun ei gymryd i sicrhau bod y rhai sy'n cysgu allan yn cael eu cysylltu â'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael iddynt yn lleol.

Ewch i Streetlink i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu hysbysu ac yna’n cynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth.

Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai

 Mae’r Strategaeth hon yn darparu gweledigaeth glir i ddod â digartrefedd i ben a goresgyn materion tai, i holl bartneriaid sy’n gweithio i wella bywydau pobl yn Sir y Fflint.

Wrth i ni nawr ganolbwyntio ar adfer o’r pandemig, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy i fynd i’r afael ag achosion digartrefedd a dileu rhwystrau i bobl allu symud a setlo mewn tai diogel hirdymor ar adeg pan mae’r farchnad dai yn newid a’r galw am dai fforddiadwy yn cynyddu.

Agor y Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai

Cwestiynau Cyffredin

Rydw i wedi cael rhybudd gan fy landlord

Bydd y math o rybudd yn penderfynu ar y math o gytundeb sydd gennych. Os ydy’ch landlord am i chi adael, rhaid iddynt roi rhybudd i chi mewn ffordd arbennig.  Os oes gennych amheuaeth o ran eich hawliau, cysylltwch â’n Tîm Atebion Tai ar 01352 703777.

Mae fy landlord yn byw gyda mi ac wedi dweud wrthyf am adael

Mae gan bobl sy’n rhannu llety gyda’u landlord wahanol hawliau i bobl sy’n rhentu eiddo ar wahân. Golyga hyn eich bod yn debygol o fod yn breswylydd eithriedig os ydych chi mewn un o’r sefyllfaoedd canlynol:

  • os ydych yn rhannu llety â’ch landlord
  • os ydych yn byw yn eich llety am wyliau
  • os nad ydych yn talu rhent am eich llety. 

Os ydych chi’n breswylydd eithriedig, ychydig iawn o hawliau tenantiaeth fydd gennych.   Mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod eich landlord yn gallu gofyn i chi adael eich cartref, ac nid oes angenrhoi rhybudd a dilyn camau meddiant cyfreithiol. Byddem yn gofyn am roi rhybudd rhesymol, ond ni ellir gorfodi hyn.

Byddai’n rhesymol gofyn i’ch landlord am 28 diwrnod fel rhybudd rhesymol, ond, yn dibynnu ar y rheswm dros ofyn i chi adael, efallai na fydd hyn yn bosibl.

Mae fy landlord/asiant wedi rhoi gwybod i mi trwy neges destun/ar lafar eu bod yn mynd i roi rhybudd i mi

Os ydy’ch landlord / asiant wedi rhoi gwybod i chi wyneb yn wyneb neu drwy neges destun eu bod yn mynd i roi rhybudd i chi, golyga hyn nad ydych chi’n ddigartref na dan fygythiad o fod yn ddigartref ar hyn o bryd. Nid yw rhybudd ar lafar neu drwy neges destun gan landlord / asiant yn rhybudd dilys.

Rydw i wedi cael Rhybudd Adran 21 sy’n Gofyn am Feddiant

Mae mwyafrif y tenantiaethau rhent preifat yn Denantiaeth Fyrddaliol Sicr sy’n golygu y gallwch fyw yn yr eiddo am 6 mis o leiaf ac ni ellir eich troi allan heb Orchymyn Llys.  Ni all llys wneud gorchymyn am feddiant oni bai y rhoddwyd Rhybudd Adran 21 dilys i chi.  Ni ellir ôl-ddyddio’r rhybudd a rhaid iddo fod yn ddeufis calendr o leiaf. Er mwyn cyflwyno rhybudd dilys bydd angen i’r landlord gofrestru unrhyw flaendal arian a ddarparwyd o fewn 31 diwrnod, a bydd angen iddynt fod wedi cofrestru a’u trwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru.

O ble gallaf gael cyngor?

Fe’ch cynghorir yn gryf i gysylltu â’n Tîm Atebion Tai ar 01352 703777 yn ddi-oed er mwyn i ni weithio gyda chi, a’ch landlord, i’ch atal rhag mynd yn ddigartref. Dan rai amgylchiadau, gallwn ddirymu’ch rhybudd gyda rhywfaint o drafod gan ein tîm (e.e. os oes ôl-ddyledion, gallwn drefnu cynllun talu, neu drefnu i weithiwr cymorth gynorthwyo gydag unrhyw broblemau ariannol sydd wedi arwain at gyhoeddi’r rhybudd). Gallai ymyrraeth gynnar olygu hefyd na fyddai costau’r llys yn cael eu trosglwyddo ymlaen i chi gan eich landlord. Neu, gallwch gysylltu â Shelter Cymru neu Gyngor a Bopeth am gyngor annibynnol mewn perthynas â’ch sefyllfa tai.

Rwy’n cael trafferth talu fy rhent / morgais

Os na allwch dalu’ch rhent neu forgais, peidiwch ag anwybyddu’r broblem oherwydd ni fydd yn diflannu. Siaradwch gyda’ch landlord neu fenthyciwr morgais cyn gynted â phosibl. Os yw’r broblem yn sgil newid mewn amgylchiadau, problem gyllidebu, diswyddiad neu doriad mewn budd-daliadau, mae rhai camau syml isod y gallwch eu cymryd i’ch helpu chi gael rheolaeth ar bethau ac osgoi troi allan neu adfeddiannu.

Siaradwch gyda’ch Landlord neu Fenthyciwr Morgais

Er y gellir deall pam y gallai fod arnoch ofn dweud wrth eich landlord neu fenthyciwr morgais eich bod yn mynd i fod yn hwyr gyda’r rhent neu’r morgais, mae’n llawer gwell bod yn onest am y broblem cyn i chi fethu â thalu.

Pan fyddwch yn siarad gyda’ch landlord:

  • esboniwch pam rydych chi’n mynd i fod yn hwyr gyda’r rhent a gofynnwch am rywfaint o amser ychwanegol
  • byddwch yn glir am  yr hyn rydych chi’n ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem i helpu sicrhau na fydd yn digwydd eto

Pan fyddwch yn siarad gyda’ch benthyciwr morgais, byddant yn awyddus i helpu a byddant yn trafod trwy’ch dewisiadau. Rhaid iddynt wneud ymdrechion rhesymol i ddod i gytundeb gyda chi, gan gynnwys ystyried p’un ai i newid y ffordd rydych chi’n gwneud taliadau a phryd i’w gwneud nhw.

Os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion morgais, rhaid i’ch benthyciwr, ymhen 15 niwrnod:

  • restru’r holl daliadau rydych chi wedi’u colli 
  • roi gwybod cyfanswm eich ôl-ddyledion i chi
  • roi gwybod swm unrhyw ffioedd a achoswyd yn sgil colli unrhyw daliadau
  • rhoi gwybod i chi’r union swm sy’n weddill dan eich morgais
  • rhoi amser rhesymol i chi dalu am unrhyw brinder mewn taliadau
  • rhoi gwybod i chi’r ffioedd tebygol yn y dyfodol os na fydd yr ôlddyledion yn cael eu clirio

At hynny, rhaid i’ch benthyciwr beidio â mynd ati i adfeddiannu oni fod pob ymdrech resymol arall i ddatrys y sefyllfa wedi methu, a rhaid iddynt roi rhybudd rhesymol i chi cyn cymryd y cam hwnnw. Cynigiwch dalu’n ôl yr hyn y gallwch ei fforddio pan fyddwch yn trafod eich dewisiadau gyda’ch benthyciwr – mae parhau i dalu’n ôl rhywfaint o’r arian yn well na thalu dim byd a bydd yn helpu lleihau’ch ôl-ddyledion.

Adnabod y broblem a gwneud cynllun

Gallai bod yn hwyr yn talu’ch rhent neu forgais yn fynych arwain at eich troi allan ac at eirda gwael gan eich landlord os ydych chi’n rhentu, neu adfeddiant o’ch cartref os oes gennych forgais.

Eich cynllun dau gam:

  1. defnyddiwch ein Ffurflen Incwm a Gwariant i gyfrifo’r diffyg rhwng eich incwm misol a’ch treuliau
  2. ar ôl i chi wneud hyn, chwiliwch am fyrdd o dorri’n ôl neu roi hwb i’ch incwm misol i gau’r bwlch

Rhoi Hwb i’ch Incwm

If your circumstances have changed and your income has fallen as a result, you may be able to claim benefits to help you maximize your income. Benefits such as Housing Benefit or Council Tax Reduction may be able to help. If your benefits have been cut as a result of the benefit cap or because you are classed as ‘under-occupying’ your home – you can apply for Discretionary Housing Payments. Discretionary Housing Payments cannot assist home owners.

Os ydy’ch amgylchiadau wedi newid a bod eich incwm wedi gostwng, hwyrach y gallwch hawlio budd-daliadau i’ch helpu i roi hwb i’ch incwm. Gallai budd-daliadau megis Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth y Cyngor hefyd allu helpu. Os torrwyd eich budd-daliadau o ganlyniad i’r cap budd-daliadau neu oherwydd y dosbarthwyd eich bod yn ‘tanbreswylio’ch’ cartref - gallwch wneud cais am Daliadau Dewisol Tai. Ni all Taliadau Dewisol Tai gynorthwyo perchnogion cartrefi.

Ble i gael help a chyngor am ddim

If you want to talk to someone about how to deal with your landlord or after speaking to your mortgage lender, you can call Shelter Cymru or the Citizens Advice Bureau. They will also be able to talk to you about what entitlements you may be able to claim to help you meet your rent or mortgage payments if you are on a low income. Alternatively, you can contact Housing Solutions on 01352 703777 for assistance. 

Os hoffech siarad â rhywun am sut i ddelio â’ch landlord neu ar ôl siarad â’ch benthyciwr morgais, gallwch ffonio Shelter neu Cyngor ar Bopeth  Byddan nhw’n gallu siarad â chi hefyd am ba hawliau gallech eu hawlio i’ch helpu i dalu’ch rhent neu forgais os ydych chi ar incwm isel. Neu, gallwch gysylltu â’n Tîm Atebion Tai ar 01352 703777 i gael cymorth 

Mae fy merthynas wedi chwalu ac mae fy mhartner yn gofyn i mi adael

A all fy mhartner ofyn i mi adael ein cartref?

Fel rheol, bydd hyn yn dibynnu ar:

  • statws cyfreithiol eich perthynas
  • a oes gennych hawliau deiliadaeth

Rwy’n briod / Rydw i mewn partneriaeth sifil / Rwy’n denant / Rydw i’n byw gyda fy mhartner a rhoddwyd hawliau deiliadaeth i mi

Os oes unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, mae gennych hawliau cryf i aros yng nghartref y teulu a byddai’n rhaid i’ch partner gael gorchymyn llys (e.e. gorchymyn gwahardd) cyn y gallent wneud i chi adael eich cartref.  I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau i aros yn y cartref, darllen yr adran ar hawliau deiliadaeth.

Os ydy’ch partner yn ceisio’ch gorfodi chi allan, e.e. trwy newid y cloeon fel na allwch fynd nôl mewn i’r tŷ, mae hyn yn achos o droi allan anghyfreithlon.  Mae troi allan anghyfreithlon yn drosedd a gallwch roi gwybod i’r heddlu am eich partner.  Yn ogystal, gallech gymryd gwaharddeb, gorchymyn dim aflonyddu neu fath arall o orchymyn llys yn eu herbyn neu i’w hatal rhag ymddwyn fel hyn.

Rwy’n byw gyda fy mhartner ond ni roddwyd hawliau deiliadaeth 

Yn yr achos hwn, bydd eich partner yn gallu eich troi allan heb orchymyn llys os bydd yn rhoi rhybudd rhesymol i chi (byddem yn gofyn am 28 diwrnod). Ar ôl i’ch partner dynnu ei ganiatâd/chaniatâd i chi rannu’r cartref, ni fydd gennych hawl i aros yno mwyach a bydd eich partner yn gallu newid y cloeon os dymunant wneud hynny.

Os byddwch yn gwrthod gadael, gall eich partner ofyn i’r heddlu am help i’ch cael chi allan. 

Os nad ydych chi am adael, bydd angen i chi wneud cais i’r llys i roi hawliau deiliadaeth i chi.

Hwyrach y gallwch hefyd wneud cais am hawliau deiliadaeth ar ôl i chi adael yr eiddo.  


Symudais allan – ydy hyn yn golygu y gallaf symud nôl i mewn eto?

Rwy’n briod neu mewn partneriaeth sifil

Os gadawsoch gartref y teulu (e.e. os aethoch i aros mewn lloches neu gyda theulu neu ffrindiau), mae gennych hawl i symud nôl i mewn eto ynghyd ag unrhyw blant neu wyrion rydych ch’n gofalu amdanynt Os nad yw’ch partner eisiau i chi ddychwelyd, gallwch fynd i’r llys am orchymyn i orfodi’ch hawliau deiliadaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i symud nôl i mewn. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i orfodi’ch ffordd nôl mewn heb orchymyn llys.  Os oes angen i chi wneud hyn (e.e. os oes angen i chi gasglu celfi neu eiddo) y peth gorau yw gofyn i’r heddlu ddod gyda chi os ydych yn teimlo fod perygl wrth ddychwelyd.

Os symudoch chi allan ar 4 Mai 2006 neu wedi hynny, bydd eich hawl i ddychwelyd a byw yn y cartref ond yn para dwy flynedd.  Fodd bynnag, byddwch ond yn colli’ch hawliau os nad ydych wedi byw gyda’ch partner neu yng nghartref y teulu yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd.  

Byddwch yn colli’ch hawl i fyw yn y cartref hefyd os:

  • ydych chi’n rhoi’ch hawliau i fyw yno i fyny, neu
  • os ydych chi’n ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil

Os symudoch allan cyn 4 Mai 2006, byddwch yn cael yr hawl i symud nôl i mewn hyd nes i chi gael ysgariad neu ddiddymiad o bartneriaeth sifil neu’n ildio’ch hawliau.

Mae gennyf hawliau deiliadaeth

Os ydy’r llys wedi rhoi hawliau deiliadaeth i chi, gallwch ddychwelyd i gartref y teulu tra bydd yr hawliau hynny’n para. Bydd eich hawliau’n para cyhyd ag y bydd y gorchymyn llys yn ei nodi (hyd at chwe mis) neu hyd nes y cewch eich troi allan yn gyfreithiol o’ch cartref.  Gallwch wneud cais i’r llys adnewyddu’ch hawliau deiliadaeth ar ôl iddynt ddirwyn i ben.  Rhaid i chi gofio gwneud hyn oherwydd ni fyddwch chi’n cael eich atgoffa Os nad yw’ch partner am i chi ddychwelyd i gartref y teulu, gallwch ofyn i’r llys am orchymyn i orfodi’ch hawliau deiliadaeth a’ch caniatáu i symud nôl i mewn.

Rwy’n denant neu’n gyd-denant:

Yn yr achos hwn, byddwch yn cadw’r hawl i ddychwelyd i’ch cartref hyd nes i’ch tenantiaeth ddod i ben yn swyddogol.  Gallai’ch tenantiaeth ddod i ben oherwydd:

  • rydych chi’n dod â’r denantiaeth i ben eich hun
  • bod eich landlord yn cyflwyno rhybudd ac cymryd camau cymryd meddiant trwy’r llys

Rwyf eisiau gadael fy mhartner gan nad wyf yn teimlo’n ddiogel

RHOWCH EICH DIOGELWCH YN GYNTAF.

Gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun diogelwch ar waith hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gadael yn syth. Ceisiwch adael tra bydd y cyflawnwr oddi cartref fel na all ef/hi geisio’ch stopio. Os oes modd, trefnwch le i aros cyn i chi adael a chael cyngor am gystodaeth os oes gennych unrhyw blant. Os oes rhaid i chi adael mewn brys oherwydd bod eich partner wedi ymosod arnoch chi, ffoniwch yr heddlu. Efallai y gallant ei arestio/harestio, a fydd yn rhoi rhywfaint o amser i chi adael.

Llinell gymorth trais domestig i ferched a ddynion

Gallwch gysylltu â Byw Heb Ofn, sydd ar agor 24 awr / saith diwrnod yr wythnos ar 0808 8010 800

Aros yn eich cartref

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin neu drais domestig, efallai yr hoffech aros yn eich cartref, cael y cyflawnwr allan a gwneud eich cartref yn lle diogelach i fyw ynddo, yn enwedig os oes gennych gysylltiadau teuluol cryf neu addysg y plant yn yr ardal.

Ffoniwch yr Heddlu

Mewn rhai achosion, y ffordd orau o gael y cyflawnwr i adael yw iddynt gael eu harestio.   Efallai mai dim ond am gyfnod byr y bydd hyn yn eu symud o’r sefyllfa, fodd bynnag os ydynt yn cael eu cyhuddo, yna byddant un ai’n cael eu cadw yn y ddalfa neu gael mechnïaeth, gydag amodau, a ddylai gynnwys nad ydynt yn mynd i’r eiddo na’n cysylltu â chi. Os cyflawnwyd trosedd, gallant gael eu herlyn, a allai olygu dedfryd o garchar.

Newidiwch y Cloeon

Hwyrach yr hoffech newid y cloeon i atal y cyflawnwr  rhag mynd i mewn i’ch cartref.  Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o ddau beth:

  • mae newid y cloeon yn annhebygol o atal ymosodwr penderfynol, ac eithrio pan gânt eu cyfuno â mesurau diogelwch eraill
  • os oes gan y cyflawnwr hawliau i fyw yn y cartref (er enghraifft, os oes gennych denantiaeth ar y cyd), gallech fod yn ei droi/ei throi allan yn anghyfreithlon.

Gwnewch eich cartref yn fwy diogel

Mae sawl mesur y gallwch chi eu cymryd i’ch gwneud chi’n fwy diogel yn eich cartref, er enghraifft trwy:

  • ffitio cloeon mwy diogel, cadwyni drws, a thyllau sbïo ar gyfer y drysau ffrynt
  • atgyfnerthu drysau a fframiau drysau
  • gosod cloeon, barrau a griliau ar y ffenestri
  • gosod larymau, teledu cylch caeedig a goleuadau diogelwch
  • gwella mesurau diogelwch tân
  • cael ystafell ddiogel wedi’i hatgyfnerthu ac y mae modd ei chloi yn y tŷ y gellir ffonio’r heddlu ohoni
  • rhoi gwybod i’r cymdogion nad yw’r cyflawnwr yn byw gyda chi mwyach a gofyn iddynt roi gwybod i chi os byddant yn ei (g)weld yn loetran o gwmpas
  • newid rhifau ffôn a sgrinio galwadau.

Gellir defnyddio’r mesurau hyn ochr yn ochr â mesurau cyfreithiol eraill i gadw’r cyflawnwr allan (e.e. Gorchymyn Deiliadaeth neu Orchymyn Peidio ag Ymyrryd neu waharddeb). Byddant ond yn eich diogelu tra byddwch y tu mewn i’ch cartref, felly mae’n bosibl yr hoffech ystyried mesurau diogelwch eraill tra byddwch chi allan (e.e. larymau personol, ffôn symudol, dosbarthiadau hunan amddiffyn).

Gall yr heddlu roi rhagor o gyngor i chi ar fesurau diogelwch. Gwnewch yn siŵr fod eich gorsaf heddlu leol yn gwybod eich bod chi wedi dioddef cam-drin domestig  Dylech hefyd roi copi iddynt o unrhyw waharddeb berthnasol, yn enwedig os oes grym arestiad ynghlwm, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt ymateb yn gyflym i unrhyw alwad gennych chi.

Gorchmynion Meddiannaeth

Gorchmynion llys yw Gorchmynion Deiliadaeth sy’n ymestyn neu’n cyfyngu ar hawl rhywun i breswylio mewn cartref.  Er enghraifft, gallant roi’r hawl i chi aros yng nghartref y teulu lle nad oedd gennych yr hawl honno’n flaenorol (er enghraifft, lle mae’r denantiaeth yn unig denantiaeth yn enw’r cyflawnwr), neu wahardd y cyflawnwr o’r cartref.  

Gellir gwneud cais am Orchymyn Deiliadaeth ar wahân neu fel rhan o drefniadau cyfraith deuluol arall (trefniadau ysgariad neu gystodaeth, er enghraifft).  Bydd manylion y gorchymyn y gallwch wneud cais amdano’n dibynnu ar eich perthynas â’r cyflawnwr a’r math o lety rydych chi’n byw ynddo.

Gall Gorchmynion Deiliadaeth feddu ar bŵer i arestio, felly, er enghraifft, os ydy’r cyflawnwr wedi’i wahardd o’r cartref, gellir eu harestio os bydd yn ceisio torri i mewn.   Gellir rhoi dedfryd o garchar neu ddirwy i gyflawnwr am dorri’r gorchymyn.

Bydd angen i chi ofyn am gyngor cyfreithiwr i gael Gorchymyn Deiliadaeth. Ni allant sicrhau eich diogelwch, a bydd ond yn para am amser cyfyngedig, felly bydd angen i chi gymryd camau pellach i ddatrys pwy sy’n aros yn yr eiddo yn y tymor hir.

Cael gorchymyn neu waharddeb

Bydd angen i chi gael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu. Bydd y cyfreithiwr yn eich helpu chi i wneud cais i’r llys am waharddeb.  Weithiau, gellir ceisio gwaharddebau fel rhan o drefniadau cyfraith teulu (ysgariad neu gystodaeth).  Bydd y barnwr yn ystyried tystiolaeth y trais yn eich erbyn chi ac a:-

  • yw’r ymddygiad rydych chi eisiau ei stopio’n anghyfreithlon
  • yw’r cyflawnwr yn debygol o roi’r camau ar waith
  • oes tebygolrwydd o niwed i chi
  • a ellir esbonio’r ymddygiad yn glir er mwyn i’r cyflawnwr ddeall beth mae’n cael ei wahardd rhag gwneud
  • ydy’r gorchymyn neu’r waharddeb yn angenrheidiol ar gyfer eich diogelwch.

Yn wahanol i’r llysoedd troseddol, nid oes rhaid profi’r trais ‘y tu hwnt i bob amheuaeth resymol’; bydd rhaid i’r barnwr fod yn fodlon ei fod yn ‘fwy tebygol na pheidio’ bod y trais wedi digwydd. Wedyn, bydd y barnwr yn penderfynu a fydd yn gwneud gorchymyn neu waharddeb ac, os felly, pa amodau i glymu wrtho.

Cael help gan y Tîm Atebion Tai

Gallwch gysylltu â’r tîm am help os nad ydych yn dymuno aros yn y cartref, yn enwedig os na fyddwch yn teimlo’n ddiogel.    

Gallant gynnig y canlynol:

  • cyngor a chymorth ar ddigartrefedd
  • trefnu llety neu loches brys
  • cyngor ar wahardd y cyflawnwr o’ch cartref
  • gwelliannau yn niogelwch eich cartref (e.e. caledu targedau – larymau, cloeon ac ati)
  • cysylltiadau brys a chefnogaeth barhaus

Cysylltwch â’n tîm ar 01352 703777

Rwyf eisiau gadael y cartref neu mae fy nheulu/perthnasau wedi gofyn i mi adael

Os credwch fod angen i chi adael eich cartref oherwydd dadleuon neu anghytundeb teuluol, nid symud allan yw’ch unig ddewis. Gallai fod yn well i chi aros gartref gyda’ch teulu a cheisio datrys eich trafferthion.   

Os ydych yn cael problemau wrth gyfathrebu gyda’ch rhieni, gallai helpu wrth siarad gyda rhywun arall. Gallai fod yn frawd neu’n chwaer hŷn, eich nain a’ch taid, modryb neu ewythr, ffrind neu athro/athrawes.  Efallai y gallen nhw gyfryngu rhyngoch chi, er mwyn helpu gwella pethau gyda’ch rhieni.

Cyfryngu

Os teimlwch fod arnoch angen rhywfaint o help ‘uniongyrchol’ i ddatrys pethau gyda’ch teulu, gall Atebion Tai drefnu cynnal sesiwn cyfryngu.   Mae cyfryngwr yn rhyw fath o ganolwr niwtral a all eich helpu chi a’ch teulu i ddatrys eich problemau. Nid ydynt yn cymryd ochrau, nid ydynt yn penderfynu ‘pwy sy’n iawn’ ac nid ydynt yn dweud wrthych beth i’w wneud.  Yn hytrach, byddant yn eich helpu i ddatrys pethau eich hunain.  Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gyfryngdod, cysylltwch â’n tîm ar 01352 703777.

A all fy rhieni/perthnasau ofyn i mi adael?

Gellir datrys y rhan fwyaf o anghytundebau teuluol trwy gyfathrebu ac, mewn rhai achosion, cyfryngu.   Fodd bynnag, weithiau nid yw hi’n bosibl aros adref oherwydd nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel neu efallai bod eich rhieni wedi dweud bod rhaid i chi adael. Tra bydd Atebion Tai yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i aros yn eich cartref, ble mae’n ddiogel gwneud hynny, ac os oes angen darparu cefnogaeth i’ch helpu chi a’ch teulu wrth i ni gynorthwyo i symud, nid yw hyn bob amser yn bosib. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud atgyfeiriad at brosiectau Llety â Chymorth yn Sir y Fflint ond mae’r lleoedd hyn yn gyfyngedig, felly edrychir ar ddewisiadau gydag aelodau eraill o’r teulu/ffrindiau, yn ogystal â’r sector preifat.

Os ydych chi’n 16 neu’n 17 mlwydd oed 

Os yw eich teulu wedi gofyn i chi adael a’ch bod chi’n 16 neu’n 17 oed, gallwch gysylltu ag Atebion Tai am rywfaint o help.   Daeth rheolau newydd i rym i helpu pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd a byddent yn cynnal asesiad ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Plant. Cwblheir yr asesiad i sicrhau yr eir i’r afael â’ch holl anghenion a’ch bod yn cael y gwasanaeth iawn i chi.

Os dymunwch siarad ag aelod o Dîm Integredig Pobl Ifanc, ffoniwch 01352 703163

Rwy’n cael fy aflonyddu gan fy nghymydog / landlord

Mae’r gyfraith yn diogelu pobl sy’n byw mewn eiddo preswyl yn erbyn aflonyddwch a throi allan anghyfreithlon.  Gwna hyn mewn dwy ffordd: trwy wneud aflonyddwch a throi allan anghyfreithlon yn drosedd, a thrwy alluogi rhywun sy’n cael ei aflonyddu neu ei droi allan yn anghyfreithlon i hawlio iawndal trwy’r llys sifil.

Beth yw aflonyddwch?

Gall aflonyddwch ddigwydd mewn sawl ffordd. Disgrifir ei fod yn ‘achosi braw neu drallod’ a hefyd fel ‘rhoi pobl mewn ofn o drais’. Gall gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r mathau o ymddygiad canlynol:  

  • Bygythiadau o drais yn eich erbyn neu gyflawni gweithred o drais gwirioneddol arnoch chi
  • Ymddygiad neu eiriau ymosodol ac/neu sarhaus
  • Bygythiadau o ddifrod i’ch eiddo a’ch pethau neu ddifrod gwirioneddol iddynt
  • Unrhyw gamdriniaeth neu fygythiad ysgrifenedig a wnaed yn eich erbyn, gan gynnwys llythyrau, graffiti neu unrhyw fath arall o ddeunydd ysgrifenedig fel posteri’n cael eu rhoi i fyny sy’n eich difrïo.

Yn ei hanfod, gall aflonyddwch fod yn unrhyw fath o ymddygiad neu weithred a gymerir yn eich erbyn sy’n bygwth eich ymdeimlad o ddiogelwch a heddwch neu sy’n achosi anghyfleustod diangen i chi.

Beth allwch chi ei wneud os ydych chi wedi dioddef aflonyddwch?

Os teimlwch eich bod yn cael eich aflonyddu, dylech roi gwybod i’r heddlu’n syth. Mae’n ddefnyddiol hefyd os ydych chi wedi cadw cofnod ysgrifenedig o’r holl achlysuron pan ddigwyddodd unrhyw aflonyddwch, gan gynnwys pa fath o aflonyddwch a ddioddefoch, y dyddiad a’r amser y digwyddodd, ac enw neu ddisgrifiad o’r cyflawnwr/cyflawnwyr. Hyd yn oed os nad ydych chi wedi casglu’r holl wybodaeth hon neu os nad ydych yn gwybod pwy allai fod yn gyfrifol, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch i’r heddlu.

Mwya’i gyd y gallwch chi ddweud wrthynt, cyflymaf i gyd a hawsaf i gyd y bydd hi i gael yr aflonyddwch i stopio a chychwyn unrhyw drefniadau cyfreithiol angenrheidiol.  Ar ôl i chi gael eich cyfweld gan yr heddlu, byddant wrth law i gynnig unrhyw gyngor i chi wrth iddynt gynnal eu hymchwiliadau.

Beth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Os ydych chi’n byw mewn llety rhent, dylech roi gwybod i’ch Landlord, eich Swyddog Tai Cymdogaeth neu Gymdeithas Tai hefyd Gallant gynnig cefnogaeth ychwanegol a allai gynnwys ffitio cloeon, diogelu blychau post rhag fandaliaeth, ffensys a goleuo, a gosod larymau a allai hyd yn oed cael eu cysylltu â’r orsaf heddlu leol. Os ydy’ch cyflawnwr yn byw yn yr un adeilad â chi, gallan nhw hefyd eu hwynebu a’u rhybuddio ynghylch toriadau posibl i’r cytundeb tenantiaeth, a’r posibilrwydd o gael eu troi allan.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwneud popeth o fewn ei allu i’ch helpu i aros yn eich cartref ac ni ddylech deimlo dan unrhyw bwysau i orfod symud. Ni ddylai neb fyth deimlo rheidrwydd i gael eu gyrru allan o’u cartref a’ cymdogaeth yn erbyn eu dymuniadau yn sgil aflonyddwch.  Fodd bynnag, os teimlwch mai ailgartrefu yw’r unig ddewis, siaradwch gyda’ch Swyddog Tai Cymdogaeth, Cymdeithas Tai neu Landlord/Asiant.

Deddf Diogelwch rhag Dadfeddiannu 1977

Os ydych chi’n denant ac yn rhentu’ch eiddo’n breifat, mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n drosedd i:

  • Gwneud gweithredoedd sy’n debygol o ymyrryd ar heddwch neu gysur tenant neu unrhyw un sy’n byw gydag ef neu hi; neu
  • Atal neu rwystro gwasanaethau y mae’r tenant eu hangen i fyw yn yr eiddo fel cartref.

Mae’n drosedd gwneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir uchod yn fwriadol, yn ymwybodol neu ble credant yn rhesymol y byddan nhw’n achosi i’r tenant adael eu cartref, neu stopio defnyddio rhan ohono, neu stopio gwneud y pethau y dylai tenant ddisgwyl gallu ei wneud fel rheol.  Mae’n drosedd hefyd i gymryd cartref rhywun i ffwrdd oddi wrtho/i yn anghyfreithlon.

Caiff yr union droseddau eu gosod yn y Ddeddf Diogelwch rhag Dadfeddiannu 1977, a wnaed yn gryfach gan Ddeddf Tai 1988.

Gallai fod rhaid i rywun a geir yn euog gan ynadon o drosedd dan y Ddeddf Diogelwch rhag Dadfeddiannu orfod talu uchafswm dirwy o £5,000, neu gael ei anfon i’r carchar am chwe mis, neu’r ddau. Os bydd yr achos yn mynd i Lys y Goron, gallai’r gosb fod yn garchar am hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau. 



Dyletswyddau’r Adran

Deddf Tai (Cymru) 2014:

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd yw:

  • Help i bawb sydd mewn perygl o ddigartrefedd
  • Ymyrraeth gynnar i atal argyfyngau
  • Llai o bwyslais ar angen blaenoriaethol
  • Gwneud y defnydd gorau o holl adnoddau, gan gynnwys y sector preifat
  • Gweithio gyda phobl i’w helpu i ganfod yr atebion tai gorau
  • Gweithio mewn partneriaeth ar draws sefydliadau a gwasanaethau i gyflawni ateb cynaliadwy

Asesiad Adran 62

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i asesu achos unigolyn os:

  • Yw’r unigolyn wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol am lety neu gymorth wrth gadw eu llety
  • Ymddengys i’r awdurdod y gallai’r unigolyn fod yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

Rhaid i’r asesiad gynnwys: 

  • Yr amgylchiadau sydd wedi achosi i’r ymgeisydd fod yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.
  • Anghenion o ran tai yr ymgeisydd ac unrhyw unigolyn y mae’r ymgeisydd yn byw gyda nhw neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt fyw gyda nhw
  • Y gefnogaeth sydd ei hangen i’r ymgeisydd ac unrhyw un y mae’r ymgeisydd yn byw gyda nhw neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt fyw gyda nhw i aros yn y llety sydd yn, neu a allai ddod ar gael 
  • Os oes gan yr awdurdod ddyletswydd ai peidio i’r ymgeisydd
  • Ceisio canfod y canlyniad y mae’r ymgeisydd yn dymuno ei gyflawni gyda chymorth yr awdurdod
  • Asesu a fyddai cyflawni unrhyw swyddogaeth yn gallu cyfrannu at gyflawni’r canlyniad hwnnw

Os, yn dilyn yr asesiad, mae’r ymgeisydd dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn 56 diwrnod, bydd gan yr awdurdod ddyletswydd o dan Adran 66 i helpu i atal digartrefedd.  (Atal Digartrefedd)

Os yw’r ymgeisydd yn ddigartref, bydd gan yr awdurdod ddyletswydd o dan Adran 73 i helpu i sicrhau llety. (Rhyddhad Digartrefedd)

Dylid hysbysu’r ymgeisydd, yn ysgrifenedig, ynghylch canlyniad yr asesiad Adran 62, os nad ydynt yn cytuno â’r ddyletswydd a dderbyniwyd, neu os na dderbynnir unrhyw ddyletswydd, mae gan yr ymgeisydd hawl i apelio’r penderfyniad hwn.

Angen Blaenoriaethol / Llety Interim Adran 68

Mae llai o bwyslais ar angen blaenoriaethol gan y darperir yr un gwasanaeth ar gyfer atal a lleddfu digartrefedd i bob ymgeisydd o dan Adran 66 ac Adran 73.  Fodd bynnag mae angen blaenoriaethol yn parhau i gael ei ystyried ar gyfer darparu llety dros dro, o dan Adran 68, os yw ymgeisydd yn ddigartref ac yn cael ei gynorthwyo o dan Adran 73.

Categorïau Angen Blaenoriaethol yw:

  • Merched Beichiog
  • Rhywun sydd â phlant sy’n ddibynnol
  • Diamddiffyn am reswm arbennig
  • Argyfwng: tân neu lifogydd
  • Cam-drin Domestig
  • 16 / 17 oed
  • 18-21 oed mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol neu ariannol
  • 18-21 oed, yn Blentyn dan Ofal yn flaenorol
  • Digartref ar ôl gadael y Lluoedd Arfog
  • Diamddiffyn o ganlyniad i ddalfa
  • Person sy'n ddigartref ar y stryd

Os nodir bod gan ymgeisydd statws nad yw’n flaenoriaeth, ac nad ydynt yn cael llety interim, dylent gael hysbysiad o’r penderfyniad hwn, gyda gwybodaeth yn nodi eu hawl i ofyn am adolygiad.

Adran 66

Nid oes cyfyngiad amser ar ddyletswydd Adran 66, dylai’r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i atal digartrefedd, os yw hyn yn llwyddiannus hysbysir yr ymgeisydd fod y ddyletswydd wedi dod i ben, a pham.

Os yw’r gwaith atal yn aflwyddiannus ac mae’r ymgeisydd yn dod yn ddigartref, yna byddai’r awdurdod yn derbyn dyletswydd Adran 73 i helpu i sicrhau llety, a darparu llety argyfwng o dan A68 os oes gan yr ymgeisydd angen blaenoriaethol amlwg. 

Adran 73

Mae gan yr awdurdod 56 diwrnod i sicrhau llety i ymgeisydd sy’n cael ei gynorthwyo o dan Adran 73.  Os ydynt yn llwyddiannus gall y ddyletswydd ddod i ben cyn y 56 diwrnod, os yn aflwyddiannus, yna bydd yr awdurdod yn edrych ar - angen blaenoriaethol / bwriadoldeb.  Os oes gan yr ymgeisydd angen blaenoriaethol, ac ni ystyrir eu bod yn fwriadol ddigartref, yna byddai angen hysbysu’r ymgeisydd y byddant yn cael eu cynorthwyo o dan Adran 75, sy’n ddyletswydd i sicrhau llety.   Gall y ddyletswydd ddod i ben ar ôl 56 diwrnod ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Os canfyddir fod yr ymgeisydd yn fwriadol ddigartref, gall y Ddyletswydd A73 ddod i ben ar ôl 56 diwrnod, ond mae ganddynt hawl i apelio.

Adran 75

Dyma’r ddyletswydd derfynol i sicrhau llety os yw’r ymgeisydd yn ddigartref, mewn angen blaenoriaethol ac yn anfwriadol ddigartref.  Dylai ymgeiswyr sydd wedi colli/gwrthod llety interim o dan A68, ac nid oes ganddynt lety ar hyn o bryd, gael cynnig llety interim pellach o dan y Ddyletswydd Adran 75.

Adran 80

Pan fo’r awdurdod lleol wedi sefydlu digartrefedd, ond hefyd wedi sefydlu nad oes gan yr ymgeisydd gysylltiad lleol ag ardal Sir y Fflint, gellir atgyfeirio o dan Adran 80 at yr awdurdod ble mae’r ymgeisydd wedi dod yn ddigartref / ble mae ganddynt gysylltiad lleol ag o.

Os ydych yn rheoli y tu allan i oriau swyddfa a bod angen cymorth system, eich ffôn rhif y Tu Allan i Oriau ar:

01267 224911

Nid yw'r rhif hwn ar gyfer cyngor cyffredinol ond ar gyfer pobl sydd angen cymorth brys y tu allan i oriau swyddfa