Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymestyn oriau agor Canolfan Gyswllt Bwcle

Published: 28/09/2023

Gyda hyn bydd modd i breswylwyr Bwcle gael cymorth a chefnogaeth dri diwrnod yr wythnos yng Nghanolfan Gyswllt Bwcle.

Ym mis Mehefin cafodd y Cyng. Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn oriau agor y ganolfan ac ar 2 Hydref bydd y ganolfan yn Llyfrgell Bwcle ar agor bob dydd Mercher, yn ogystal â dydd Mawrth a dydd Iau.

Mae canolfannau cyswllt yn helpu pobl ac unigolion diamddiffyn sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn. Gall preswylwyr siarad efo ymgynghorwyr cymwys a chael cymorth gydag amrywiaeth o wasanaethau’r Cyngor, yn cynnwys Treth y Cyngor, Credyd Cynhwysol, Priffyrdd, Cynllunio, cymorth digidol a llawer mwy.

Meddai’r Cyng. Mullin: “Mae canolfannau cyswllt yn werthfawr iawn felly dw i’n falch iawn bod y ganolfan ym Mwcle yn estyn ei horiau agor ar 2 Hydref. Fel Cyngor rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n preswylwyr ac mae’r canolfannau cyswllt yn ein helpu ni i wneud hynny.”

Yr oriau agor o 2 Hydref 2023 ymlaen yw:

Dydd Llun: Ar gau

Dydd Mawrth: 9.00am - 4.30pm

Dydd Mercher: 9.00am - 4.30pm

Dydd Iau: 9.00am - 4.30pm

Dydd Gwener: Ar gau

Am fwy o wybodaeth am Sir y Fflint yn Cysylltu ac i ddod o hyd i’ch swyddfa agosaf, ewch i’n gwefan.