Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Annog pleidleiswyr Sir y Fflint i wirio rheolau etholiadau newydd

Published: 11/10/2023

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau fod gan bleidleiswyr Sir y Fflint gerdyn adnabod â llun, cyn yr etholiad nesaf.

Mae Deddf Etholiadau 2022 nawr yn gofyn bod pob un sy’n pleidleisio yn etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd y DU yn dangos cerdyn adnabod â llun wedi’i gymeradwyo yn yr orsaf bleidleisio.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, a’r Swyddog Canlyniadau, Neal Cockerton yn annog preswylwyr i fod yn ymwybodol o’r newidiadau a pharatoi cyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd: Mae cerdyn adnabod â llun nawr yn ofyniad er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, felly mae’n hollbwysig bod preswylwyr yn paratoi. Os nad oes gennych gerdyn adnabod derbyniol, dylech wneud cais am Dystysgrif Awdurdod i Bleidleisio am ddim.

“Mae cael ffurf o hunaniaeth yn hollbwysig i sicrhau bod etholiadau yn hygyrch i bob pleidleisiwr cymwys. Os oes angen cymorth arnoch gyda hyn, gallwch ymweld ag un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu. Peidiwch â cholli cyfle i leisio barn ar bwy sy’n eich cynrychioli.”

Bydd aelodau’r Cabinet yn nodi’r newidiadau mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 17 Hydref ac yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith sy’n cael ei gynnal gan y Cyngor i hyrwyddo Cerdyn Adnabod Pleidleisiwr.

Ers 16 Ionawr, 2023, mae etholwyr sydd wedi cofrestru wedi gallu gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod i Bleidleisio am ddim, i’w ddefnyddio yn lle cerdyn adnabod â llun. Gallwch wneud cais ar-lein yma.

Gallwch chi gael cymorth i dynnu’ch llun a’i uwchlwytho yn un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu hefyd. Mae staff wedi derbyn gwybodaeth ar y gofyniad newydd. Dewch o hyd i’ch swyddfa agosaf yma.

Mae adroddiad i aelodau Cabinet yn nodi’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei gynnal i hysbysu preswylwyr. Hyd yma, mae mwy na 71,000 o aelwydydd yn Sir y Fflint wedi derbyn gwybodaeth uniongyrchol am Brawf Adnabod i Bleidleisio, dros e-bost neu drwy’r post.   Mae’n dangos hefyd, o’r wythnos yn gorffen 28 Gorffennaf, mai dim ond 99 cais am Brawf Adnabod i Bleidleisiwyd a gafodd Cyngor Sir y Fflint.

Dros y misoedd nesaf, bydd rhagor o hyrwyddo yn digwydd, gyda’r bwriad o gynnwys taflen wybodaeth gyda biliau Treth y Cyngor ym mis Mawrth 2024. Bydd etholwyr yn derbyn cerdyn pleidleisio hefyd cyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y flwyddyn nesaf, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am y gofynion Prawf Adnabod i Bleidleisio newydd.