Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn elwa o fuddsoddiad cyllid Llywodraeth y DU

Published: 02/11/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod 23 o brosiectau wedi derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn derbyn ychydig dros £11 miliwn.

Gwahoddodd y Cyngor, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru, ymgeiswyr i gyflwyno cynigion prosiect yn ôl ym mis Chwefror. Derbyniwyd gormodiaeth o ymgeiswyr, gyda 90 o geisiadau yn gwneud cais am bron i deirgwaith y dyraniad ar gyfer Sir y Fflint.

Yn dilyn cyfres o ymarferion gwerthuso ac asesu llym, mae’r rhestr fer derfynol wedi cael ei chymeradwyo ac mae’r prosiectau wedi cael caniatâd i symud ymlaen.

Bydd amrywiaeth eang o brosiectau yn cael eu darparu dros y 14 mis nesaf sy’n cyd-fynd â phrif flaenoriaethau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin sef Cymunedau a Lle, Cefnogi Busnesau Lleol, Pobl a Sgiliau yn ogystal â gwella rhifedd oedolion trwy’r rhaglen Lluosi. 

Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau a fydd yn:

·       Gwella isadeiledd ac amgylchedd canol trefi, cymunedau gwledig a chyrchfannau arfordirol Sir y Fflint.

·         Gwella sgiliau pobl, iechyd meddwl a lles a lleihau rhwystrau tuag at gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

·         Galluogi ymchwil a buddsoddiad busnes mewn meysydd megis digideiddio, cysylltedd, arloesedd, datgarboneiddio a throsglwyddo gwybodaeth.

·         Cefnogi twf y sector twristiaeth a gwella cyfleusterau ac atyniadau i dwristiaid.

·         Adeiladu cadernid cymunedol, cynyddu cyfranogiad cymunedol a meithrin synnwyr o falchder yn lleol.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, y Cynghorydd David Healey: “Gan ddefnyddio Cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydw i’n falch bod gan y prosiectau hyn y potensial i wneud cyfraniad cadarnhaol sylweddol i gymunedau ac economi Sir y Fflint a helpu’r sir i ddod yn fwy ffyniannus ac yn lleoliad bywiog i bobl fyw, astudio, gweithio ac ymweld.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir y Fflint a manylion y 23 o brosiectau sydd wedi eu cymeradwyo yma.

 

 Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.  Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy