Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Diweddaraf!
Derbyniodd Sir y Fflint 90 o geisiadau Cam 1 yn gwneud cais am oddeutu £30 miliwn, sydd bron dair gwaith yn fwy na’r swm o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd wedi ei ddyrannu i Sir y Fflint. Yn anffodus mae hyn yn golygu nad all mwyafrif y prosiectau hyn gael eu cefnogi, sy’n newyddion siomedig iawn i nifer o sefydliadau.
Yn dilyn y broses werthuso Cam 1, mae cyfanswm o 31 prosiect sir ac aml awdurdod lleol/rhanbarthol wedi eu rhoi ar y rhestr fer. Mae’r prosiectau hyn bellach wedi cael eu gwahodd i symud ymlaen a chyflwyno cais Cam 2. Y prosiectau llwyddiannus yw:
Prosiectau Sir y Fflint yn Unig
• Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth
• ‘Minding the Gaps’ ar gyfer Pobl Ifanc yn Sir y Fflint
• Cysylltu i’r Arfordir a Chefn Gwlad• Cronfa Sir y Fflint
• Rhaglen Fuddsoddi Canol Dref - Sir y Fflint
• Cryfder mewn Rhifau - Sgiliau Maths am Oes
• Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint
• Y Maes - The Field
• Prosiect 11
• Dyfodol Cynaliadwy Di-garbon Sir y Fflint (FAST)
• LEAP (Dysgu, Archwilio, Cyflawni, Perfformio)
• Rhaglen Welliannau Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
• Estyniad Cegin Well-Fed
• Academi Digidol Gwyrdd Sir y Fflint
Prosiectau Aml Awdurdod Lleol/Rhanbarthol
• Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru
• Camau Cefnogol
• Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Rhanbarthol
• Garddwriaeth Cymru
• Caru Cymru
• Partneriaeth Datgarboneiddio BBaCh Gogledd Cymru
• Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
• Multiply
• Trawsnewid Meddyliau Ifanc
• Cyflymu Datgarboneiddio a Chynhyrchiant drwy Dechnoleg a Sgiliau (ADAPTS)
• Rhaglen Arweinyddiaeth Merched Gogledd Cymru
• Tyfu Pobl
• Cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd
• Rhaglen Cyfiawnder mewn Diwrnod
• Tanio Arloesedd
• Gogledd Cymru - Egnïol, Iach a Hapus
• Working Sense
Er bod y prosiectau hyn ar y rhestr fer gan Sir y Fflint, ni all brosiectau aml awdurdod lleol/ rhanbarthol symud ymlaen tan fydd penderfyniad gan yr holl awdurdodau lleol perthnasol ar draws Gogledd Cymru.
Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys dogfennau ymgeisio Cam 2 drafft yn: www.FfyniantGyffredinGogledd.cymru
Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion am y ffordd bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweithio. Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw cronfa newydd Llywodraeth y DU yn lle Cronfa Strwythurol yr UE a bydd yn darparu £2.6 biliwn o fuddsoddiad ar draws y DU tan fis Mawrth 2025.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn dyraniad o £13.1miliwn i’w fuddsoddi dros dair blynedd. Caiff hyn ei dorri lawr i ychydig o dan £11 miliwn o arian craidd a £2.2miliwn ar gyfer y rhaglen ‘Multiply’ cenedlaethol.
Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi amcanion Codi’r Gwastad y DU, sef:
- Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd lle maent ar ei hôl hi;
- Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent ar eu gwanaf;
- Adfer ymdeimlad o gymuned, perthyn a balchder lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny maent wedi’u colli; a
- Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig y rhai sydd â diffyg gweithrediad lleol
Er mwyn cyflawni hyn mae gan gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU dair blaenoriaeth fuddsoddi:
- Cymuned a Lle
- Cefnogi Busnesau Lleol
- Pobl a Sgiliau
Mae elfen ychwanegol ‘Multiply’ yn ceisio gwella sgiliau rhifedd oedolion.
Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ynghyd ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru, cyflwynodd Gyngor Sir y Fflint Gynllun Buddsoddi i Lywodraeth y DU ar 1 Awst 2022 yn amlinellu cyfleoedd, heriau a’r blaenoriaethau allweddol sy’n berthnasol ar draws Gogledd Cymru. Bydd y dull rhanbarthol yn rhoi cyfleoedd i rannu dysgu ac arfer orau ac adnabod meysydd i gydweithio lle gellir darparu mwy o fuddion yn fwy effeithiol ar draws ardal ehangach.
Safbwynt Sir y Fflint
Drwy gydol 2022 mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a budd-ddeiliaid allweddol eraill, ac mae pob un ohonynt wedi helpu i ddylanwadu a llywio’r Cynllun Buddsoddi ar lefel leol. Cynhaliwyd nifer o weithdai mewn cysylltiad â phob un o’r blaenoriaethau buddsoddi. Mae’r gweithdai a’r dialog parhaus wedi nodi anghenion lleol ac argymhellion o’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid:
- Cefnogaeth ar gyfer adfywio canol tref a marchnadoedd stryd
- Creu a gwella mannau gwyrdd ac isadeiledd gwyrdd
- Cefnogaeth i weithgareddau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol lleol
- Buddsoddi mewn cynyddu gallu a chefnogaeth isadeiledd ar gyfer grwpiau cymunedol a chymdeithas sifil lleol
- Cyfrannu tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw
- Gwella isadeiledd digidol
- Gwella cyfleusterau i dwristiaid
- Cefnogaeth ar gyfer datgarboneiddio, dysgu ac arloesi busnes
- Cefnogi busnesau cymdeithasol
- Darparu cymorth ar gyfer y rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur
- Bodloni anghenion sgiliau busnes lleol
- Cefnogi pobl ifanc ar ôl Covid
- Mynd i’r afael â salwch meddwl
Y Broses Ymgeisio
Bydd mwyafrif cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei ddosbarthu drwy brosesau ymgeisio tryloyw a chystadleuol, lle bydd gan noddwyr prosiect posibl gyfle i gyflwyno eu cynigion ar gyfer ystyriaeth drwy broses ymgeisio galwad agored.
Bydd y broses ymgeisio mewn 2 gam. Gofynnir i ymgeiswyr posibl gwblhau ffurflen gais Cam 1 yn y lle cyntaf. Yna bydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yng Ngham 1 yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais mwy manwl fel rhan o’r broses Cam 2.
Disgwylir prosiectau graddfa mawr, gydag isafswm gwerth o £250,000 a chyfartaledd o £1 miliwn. Anogir cynlluniau grant a fydd yn galluogi busnesau a grwpiau gwirfoddol llai wneud cais am gymorth drwy’r broses ymgeisio prosiect.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn bennaf yn rhaglen sy’n seiliedig ar refeniw. Gall wariant cyfalaf fel elfen lai o fewn prosiect refeniw ehangach gael eu lletya, yn ogystal â phrosiectau a all ddosbarthu gwaith neu grantiau cyfalaf bychain ar draws nifer o gymunedau neu fusnesau. Yn sgil graddfa fach y rhaglen yn Sir y Fflint, mae ceisiadau prosiect gwaith cyfalaf mawr yn annhebygol o dderbyn cymeradwyaeth.
Disgwylir y bydd prosiectau arfaethedig angen dangos:
- y gallu i fodloni meini prawf Llywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen a darparu canlyniadau ar gyfer y fframwaith rhaglen;
- yn gweddu ag anghenion lleol a sut fyddent yn cyd-fynd ac nid yn dyblygu darpariaeth leol bresennol;
- y cyfraniad i fodloni anghenion strategol yr ardal fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor, Cynllun Lles a strategaethau perthnasol eraill;
- ymgysylltiad lleol sylweddol gyda budd-ddeiliaid a buddiolwyr posibl;
- y gallu i ddarparu o fewn amserlen fer ar gyfer y rhaglen;
- profiad a gallu noddwr y prosiect;
- gallu nodi a rheoli risgiau yn effeithiol;
- gwerth am arian ac na all y prosiect gael ei gyllido drwy ffynhonnell arall;
- y gellir cydymffurfio â rheoliadau rheoli cymorthdaliadau Llywodraeth y DU; a
- bod y ddarpariaeth yn ystyried dyletswyddau cydraddoldeb, y Gymraeg ac arferion amgylcheddol da.
Bydd rhagor o fanylion o’r broses ymgeisio a’r dolenni perthnasol i’r dogfennau ymgeisio ar gael ar wefan y Cyngor Sir yn fuan.
Y Broses Gwneud Penderfyniadau
Bydd penderfyniad terfynol ar yr holl ddyraniadau prosiect yn cael ei wneud gan bob awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru. Bydd Grŵp Adferiad Economaidd Sir y Fflint yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau rhanbarthol a sirol strategol, yn arfarnu’r ceisiadau ac yn asesu sut fyddent yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a sut fyddent yn cefnogi’r ymyraethau blaenoriaeth.
Bydd y Grŵp hefyd yn ystyried sut fydd y prosiectau yn mynd i’r afael ag anghenion a heriau lleol a sut fyddent yn cyd-fynd â’r cyd-destun lleol.
Bydd y Grŵp yn argymell prosiectau ar gyfer cymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer uwch-gynrychiolwyr y Cyngor Sir a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar sut fydd y cyllid yn cael ei ddyrannu a pha brosiectau fydd yn cael eu cymeradwyo.
Canllawiau a gwybodaeth bellach
Mae nifer o ddogfennau a gwefannau ar gael i gynorthwyo ymgeiswyr gyda chanllawiau a gwybodaeth bellach.
Canllawiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU:
Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Du
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Ymyraethau, Amcanion, Canlyniadau, Allbynnau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-interventions-outputs-and-indicators/interventions-list-for-wales
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1068877/UKSPF_Wales_outputs_and_outcomes.pdf
Strategaethau Allweddol:
Fframwaith Economaidd Gogledd Cymru
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-12/fframwaith-economaidd-rhanbarthol-gogledd-cymru.pdf
Cynllun Twf Gogledd Cymru
https://uchelgaisgogledd.cymru/cynllun-twf/
RSP Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2023-25
Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru
Cynllun Cyngor Sir y Fflint
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Council-Democracy/Council-Plan-and-Well-Being-Objectives/Council-Plan-2022-23.pdf
Cynllun Lles Sir y Fflint
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Policy-and-Performance/PSB/A-Well-being-Plan-for-Flintshire-2021-22.pdf
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Diversity-and-Equality/Strategic-Equality-plan-2020-2024.pdf
Gellir anfon unrhyw ymholiadau i: Regeneration@flintshire.gov.uk