Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


20 mya: Cyfle i breswylwyr Sir y Fflint gynnig eithriadau

Published: 22/11/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau y bydd preswylwyr yn parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf, a chyfleoedd i nodi ffyrdd y gellir eu hystyried ar gyfer eithriadau i’r rheol 20mya, cam wrth gam. 

Mae’r Cyngor wedi gweithio mewn dull cam wrth gam o ran asesu ffyrdd cyfyngedig yn y sir, a oedd yn cynnwys Cynghorwyr Sir lleol yn enwebu ffyrdd i’w hasesu i gychwyn. O ganlyniad, mae 12 ffordd nawr yn y broses o ddychwelyd i fod yn 30mya, yn dilyn ymgynghoriad yn ystod yr haf, a gellir canfod manylion ar Wefan y Cyngor.

Bydd Cam 2, sy’n cychwyn heddiw, yn rhoi cyfle i breswylwyr gynnig ffyrdd i’w heithrio. I awgrymu ffordd i’w heithrio, llenwch ffurflen ar-lein yma.

Fel yr amlinellwyd o fewn y canllawiau Llywodraeth Cymru, ni fydd pob ffordd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer gwneud cais am eithriad ac wrth ystyried gwneud eithriadau, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddangos bod ‘tystiolaeth gref’ yn bodoli o ran diogelwch cyflymder uwch ac mae angen iddynt ddangos achos clir a rhesymegol.

Mae’r Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu effaith y terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd ac yn sicrhau bod dull cyson i eithriadau ar draws Cymru yn cael ei gymryd.   Rydym yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd gydag awdurdodau priffordd i adlewyrchu ar gymhwysiad y canllawiau mewn gwahanol rannau o Gymru.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol: “Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol a negyddol gan nifer o drigolion ar y terfynau cyflymder 20mya, ac fel bob amser, byddwn yn ystyried adborth yn ein gwaith ehangach a pharhaus i adolygu ceisiadau am eithriadau ac effeithiau’r terfynau cyflymder 20mya diofyn newydd”.