Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio strategaeth newydd i wella gwasanaethau'r Cyngor

Published: 11/12/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio strategaeth newydd a fydd yn defnyddio gwybodaeth a data i helpu i wella gwasanaethau i breswylwyr.

Bydd y Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Data’n galluogi’r Cyngor i wireddu potensial ei ddata’n llawn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr.  Bydd yn adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd drwy gydol y pandemig Covid-19 lle defnyddiwyd data i gyfuno ein systemau digidol i gefnogi cwsmeriaid diamddiffyn drwy’r cyfnod heriol hwnnw.

Drwy ei waith digidol, mae’r Cyngor wedi achub ar y cyfle i ddefnyddio data i ddarparu cyfres o fuddion i gwsmeriaid, gweithwyr a’r Cyngor.  Drwy ymdrin â data fel ased allweddol, gallwn gefnogi prosesau gwell ar gyfer gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau mwy effeithiol, arloesol a di-dor.

I’n cwsmeriaid, mae hyn yn golygu parhau i ddatblygu gwasanaethau syml a hygyrch drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynyddu mynediad digidol at wasanaethau a sicrhau tryloywder ac atebolrwydd er mwyn gwella hyder cwsmeriaid bod eu gwybodaeth yn ddiogel.

Bydd hefyd yn helpu gwasanaethau i ymateb i ddisgwyliadau newidiol cwsmeriaid, sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel a gwerth am arian, yn ogystal â gweithio’n fwy effeithiol gyda phartneriaid i ddarparu dull mwy cyfunol.

Mae’r strategaeth hon yn uchelgeisiol, ond mae’r Cyngor yn cydnabod, os caiff data ei reoli’n dda, y gallai arwain at ystod o fuddion i gwsmeriaid, gweithwyr a gwasanaethau’r Cyngor.

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, aelod cabinet Llywodraethu: “Gall trefniadau da o ran rheoli gwybodaeth a data roi mewnwelediad gwerthfawr i ni a’n helpu i fedru cynnig gwasanaethau gwell sy’n fwy ymatebol ac wedi’u teilwra tuag at anghenion unigol y cwsmeriaid a phreswylwyr ar draws Sir y Fflint.

“Caiff ein data ei gasglu, ei reoli a’i ddefnyddio mewn modd cyfreithlon, moesol a diogel. Mae’r strategaeth newydd yn amlinellu cynllun a fydd yn galluogi proses yn seiliedig ar ddata ar gyfer gwneud penderfyniadau er mwyn moderneiddio’r Cyngor.” 

Gellir gweld y Strategaeth ar-lein yma.