Alert Section

Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Data

Beth yw’r Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Data?

Mae’n gosod map a fydd yn galluogi penderfyniadau ar sail data i gefnogi moderneiddio a gwella gwasanaethau.

Mae Rheoli Gwybodaeth a Data yn thema allweddol yn ein Strategaeth Ddigidol Sir y Fflint a bydd y strategaeth hon yn tanategu’r blaenoriaethau yno.

Pam ei fod yn bwysig? 

Gall trefniadau da o ran rheoli gwybodaeth a data roi mewnwelediad i ni a’n helpu i allu cynnig gwasanaethau gwell sy’n fwy ymatebol ac wedi’u teilwra tuag at anghenion unigol y cwsmeriaid ar draws Sir y Fflint.

Mae’r strategaeth yn benodol uchelgeisiol, ac rydym yn gwybod y bydd y gweithgareddau cysylltiedig yn cymryd amser ond yn cydnabod os yw gwybodaeth a data yn cael eu rheoli’n dda, gall arwain at amrywiaeth o fanteision i gwsmeriaid, gweithwyr a’r cyngor. 

Ein Nodau

  • Byddwn yn trin gwybodaeth a data fel ased corfforaethol allweddol i gefnogi gwneud penderfyniadau gwell a'r defnydd gorau o adnoddau.
  • Byddwn yn defnyddio gwybodaeth a data’n fwy effeithiol ac arloesol i gyflawni gwasanaeth gwell, di-dor gyda chanlyniadau gwell.
  • I bobl a sefydliadau gael hyder llwyr y bydd eu gwybodaeth a’u data'n cael eu trin yn gyfrifol, yn ddiogel ac yn foesegol, yn unol â deddfwriaeth briodol ac arfer gorau’r diwydiant
  • Gwella'r gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid drwy weithio gyda’n gilydd a sicrhau y defnyddir ein gwybodaeth a'n data’n effeithiol, mewn ffordd drefnus a diogel a'u bod yn cyrraedd y sawl sydd eu hangen

Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?

Cwsmeriaid

Byddwn yn gweithio gyda gwasanaethau i’w cynorthwyo i: 

  • barhau i ddatblygu gwasanaethau sy’n hygyrch yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • gweithio i sicrhau bod gwybodaeth a data yn gywir, dibynadwy a hygyrch.
  • sicrhau tryloywder ac atebolrwydd i gynyddu hyder cwsmeriaid bod eu gwybodaeth yn ddiogel ac yn cael ei ddefnyddio’r briodol.
  • parhau i gynyddu mynediad digidol i wasanaethau a chefnogaeth ar adeg sy’n gyfleus i’r cwsmer.
  • darparu gwasanaeth cyflym ac effeithiol i gwsmeriaid trwy wneud y defnydd gorau o wybodaeth a data a chydweithio pellach rhwng gwasanaethau. 

Gwasanaethau’r Cyngor

Byddwn yn helpu ein gwasanaethau i:

  • fod yn ymatebol i ddisgwyliadau cwsmeriaid sy’n newid
  • gwella rheolaeth data a gwybodaeth i ddylunio a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac sy’n rhoi gwerth am arian.
  • dangos bod gwybodaeth a data’n cael eu cadw’n ddiogel a’u defnyddio’n gyfrifol, yn unol â’r gyfraith, safonau diwydiant ac arfer gorau.
  • cynyddu tryloywder ac atebolrwydd yn y modd rydym yn dylunio a rhedeg gwasanaethau.
  • gweithio’n fwy effeithiol gyda’n partneriaid i ddarparu dull mwy cydlynol.

Gweithwyr

Byddwn yn parhau i weithio i:

  • cynorthwyo gweithwyr i wneud eu gwaith yn effeithiol trwy gynyddu mynediad at wybodaeth a data i gefnogi gwell canlyniadau i gwsmeriaid.
  • cefnogi gwasanaethau i weithio’n fwy effeithiol a hyderus mewn cydweithrediad â phartneriaid a gwasanaethau eraill.
  • sicrhau fod gwybodaeth a data’n cael eu hail-ddefnyddio a’u rhannu’n fwy effeithiol, gostwng dyblygu a hyrwyddo gwasanaethau’n fwy effeithlon.
  • sefydlu dealltwriaeth glir o’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud â chasglu, storio, rhannu, gwaredu a chadw data.
  • cynyddu hyder gwasanaethau o ran cydymffurfiaeth â chyfrifoldebau cyfreithiol.

Ein llwyddiant hyd yma:

  • Rydym wedi gweithredu proses ceisiadau a thaliadau digidol syml ar gyfer Talebau Gofal Plant. 
  • Bu i ni gefnogi ein cwsmeriaid mwy bregus yn ystod yr argyfwng COVID trwy ymuno data ar draws ein systemau digidol.
  • Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol i ddarparu data un ffynhonnell cyfeiriad safonedig, syml sy’n tanategu a hwyluso nifer o’n gwasanaethau.
  • Rydym wedi creu system ac adnoddau cysylltiedig eraill i’n galluogi ni i ymateb yn effeithiol i geisiadau hawl i wybodaeth.

Ein camau nesaf:

  • deall yn glir yr wybodaeth a’r data sydd gennym, eu gwerth a’r swyddogaethau a chyfrifoldebau corfforaethol sy’n gysylltiedig â’u rheolaeth.
  • sicrhau bod ein gwybodaeth a data yn cael eu safoni i hwyluso rhannu ac ailddefnyddio trwy ddylunio systemau diogel a hygyrch.
  • croesawu technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.
  • parhau i ddarparu hyfforddiant priodol i weithwyr.
  • gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau ‘o’r dechrau i’r diwedd’ sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • mabwysiadu egwyddorion ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ i gyfyngu ar sawl gwaith y bydd angen i gwsmeriaid roi’r un wybodaeth i ni.

Cefnogi Ein Cyfrifoldebau Cyfreithiol a Strategaethau Eraill

Mae’n hanfodol bod y gwaith rydym yn ei wneud a’r gwelliannau rydym yn eu cynllunio yn cyd-fynd yn briodol â’r cyfeiriad strategol sydd wedi cael ei osod yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Y Weledigaeth

Rydym eisiau newid canfyddiad a rôl gwybodaeth a data ar draws y sefydliad, gan eu cydnabod fel adnodd corfforaethol allweddol ac ased sy’n gallu ein cefnogi wrth wella gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer ein cwsmeriaid a’n gweithwyr.

Os fyddwn yn gwneud hyn yn iawn, sut fydd yn edrych?

Pan mae gwybodaeth a data’n cael eu rheoli’n dda ac yn cael eu cydnabod fel ased corfforaethol allweddol, gallant ddarparu ystod o fuddion i gwsmeriaid, gweithwyr a’r Cyngor a’i bartneriaid yn ehangach.

Cyflawni’r Strategaeth

Mae’r Strategaeth yn fwriadol uchelgeisiol, ac rydym yn cydnabod y bydd gweithgareddau cysylltiedig yn cymryd amser, rydym felly wedi gosod map ffordd realistig a chynyddol ar gyfer newid.

Cynllunio Adnoddau i Gefnogi Darpariaeth

Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu manwl i gyd-fynd â’r Strategaeth sy’n seiliedig ar 4 ffrwd waith.

Llywodraethu

Mae Rheoli Gwybodaeth a Data yn ffrwd waith allweddol yn Strategaeth Ddigidol y Cyngor ac felly bydd gofyniad i adrodd ar y cynnydd yn erbyn darpariaeth y Strategaeth hon i’r Bwrdd Strategaeth Digidol.

Lawrlwytho’r Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Data

Gallwch lawrlwytho’r Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Data yn llawn isod.

Lawrlwytho’r strategaeth
Digital Volunteers

Strategaeth Ddigidol Sir y Fflint

Mae Sir y Fflint Digidol yn gynllun uchelgeisiol sy’n nodi sut y byddwn yn gwella ac yn symleiddio ein gwasanaethau.

Nid cynnig mwy o wasanaethau ar-lein yn unig yw’r nod ond newid y ffordd y byddwn yn cyflenwi ein gwasanaethau i roi’r profiad gorau i bawb.

Mae’n dweud wrthych beth fyddwn ni’n ei wneud, a sut fyddwn ni’n gwneud hyn.

Digital Flintshire Consultation Response - Darganfod mwy
digital-phone-laptop