Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pobl yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid grant er budd canol trefi

Published: 19/12/2023

Mae pobl a sefydliadau lleol yn cael eu hannog i wneud cais am grant i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau i wella canol trefi Sir y Fflint.

Lansiwyd y cynllun grant ar ôl i fwy nag £1.1 miliwn gael ei ddyfarnu i dîm adfywio’r Cyngor o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Caiff yr arian ei wario ar 7 prosiect sy’n anelu at wella canol trefi Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn o leiaf £500 ac uchafswm o £10,000 tuag at ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn gwneud canol eu trefi’n fwy bywiog. Disgwylir i ymgeiswyr ddod o hyd i o leiaf 20 y cant o’r gost gyffredinol a bydd 80 y cant o gyfanswm y gost ar gael o’r cyllid grant.

Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Os ydych yn angerddol am ganol eich tref neu gymuned, byddwn yn eich annog i wneud cais. Bydd y gweithgareddau a’r digwyddiadau hyn o fudd mawr i ganol ein trefi ac yn dod â phobl at ei gilydd.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae canol trefi wedi gweld gostyngiad yn nifer eu hymwelwyr a bydd y cyllid hwn yn helpu i fywiocau ein cymunedau eto.”

Bydd y ceisiadau yn cael eu cyflwyno i baneli misol a fydd yn eu hasesu a’u hystyried, fodd bynnag, mae’r cyllid yn gyfyngedig felly fe’ch cynghorir i wneud cais yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Un o’r buddiolwyr a dderbyniodd gyllid ar gyfer gweithgareddau yn yr Wyddgrug yw Outside Lives, a ddechreuodd gyda digwyddiad Nadoligaidd llwyddiannus a ddenodd dros 1,000 o bobl. Roedd amryw o weithgareddau’n cael eu cynnig i’r holl deuluoedd, gan gynnwys sinema dros dro yng Nghanolfan Daniel Owen.

Dywedodd Lucy Powell o Outside Lives: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi’r fenter gyffrous hon sydd â’r nod o fywiocau canol tref yr Wyddgrug gyda chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltiol o dan y thema ‘Nid oes raid iddo gostio’r Ddaear’. Mae’r prosiect cyffrous hwn yn ymateb i ddymuniad y gymuned i gael gweithgareddau mwy fforddiadwy, cynaliadwy ac ecogyfeillgar i wella lles cyffredinol y gymuned.

“Diolch i gyllid gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint, bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar gyfer pobl o bob oedran a gallu. Gallwn eich sicrhau y bydd tîm Outside Lives yn mynd ati i wneud y digwyddiadau yn rhai bythgofiadwy.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y cynllun grant neu e-bostiwch regeneration@flintshire.gov.uk

Am fwy o wybodaeth gyffredinol am y Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi, cliciwch yma.