Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i dylunio i gefnogi adfywio trefi ar draws Cymru. Mae menter Trawsnewid Trefi yn darparu cyfleoedd am fuddsoddiadau cyfalaf i gynlluniau sy’n cefnogi nodau ac amcanion y rhaglen.
Yn Sir y Fflint, mae cyllid ‘Grant Creu Lleoedd’ Trawsnewid Trefi a chyfleoedd buddsoddi ar ffurf benthyciad di-log ar gael ar hyn o bryd, i gefnogi darpariaeth amrywiaeth eang o brosiectau yng nghanol ein trefi. Gall prosiectau amrywio o ddatblygiadau isadeiledd gwyrdd i wella bioamrywiaeth a gwella mannau cyhoeddus; i welliannau masnachol a phreswyl mewnol ac allanol i berchnogion busnes.
Mae’r cyllid yn ceisio cefnogi creu canol trefi ffyniannus, sy’n cynnig mannau gweithio hyblyg a rhagor o fynediad i wasanaethau i breswylwyr lleol ac ymwelwyr â chanol ein prif drefi. Mae’r prosiect yn ceisio sicrhau bod ein trefi’n fwy gwyrdd a deniadol a’u bod yn lleoedd ffyniannus i ymweld â nhw – gan arddangos eu nodweddion gorau a sicrhau bod pawb sy’n byw neu’n gweithio yng nghanol y dref neu sy’n ymweld â hi, yn cael croeso.
Mae’r cynllun ar agor i fusnesau preifat, gan gynnwys datblygwyr, busnesau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Nid yw ar gael i unigolion preifat.
Dylai ymgeiswyr posibl ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin a chysylltu â Swyddogion Adfywio Cyngor Sir y Fflint i ddechrau er mwyn trafod unrhyw gynigion ac i weld a ydynt yn gymwys i gael y cyllid grant. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais, cysylltwch â regeneration@flintshire.gov.uk
