Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwiriwch eich casgliadau bin cyn y Nadolig

Published: 20/12/2023

Peidiwch â cholli’ch casgliadau bin dros y Nadolig – gwiriwch y dyddiadau rwan!

Bydd casgliadau rhai aelwydydd yn wahanol dros y Nadolig, felly cofiwch wirio pryd sydd arnoch chi angen rhoi’ch biniau allan.

Y ffordd orau i wneud hyn ydi mynd ar-lein yma, ond daliwch ati i ddarllen gan fod yna newidiadau pwysig eraill i’w nodi.Streetscene vehicle 2.jpg

Bydd ein criwiau yn gweithio oriau hirach dros y Nadolig i sicrhau bod gwastraff pawb yn cael ei gasglu, felly efallai y bydd eich amser casglu yn hwyrach na’r arfer. Ar 27, 28 a 30 Rhagfyr bydd y criwiau casglu allan tan 5.30pm. Ar 2, 3, 4, 5, 6 a 7 Ionawr bydd y criwiau allan tan 5.15pm. Peidiwch â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl yr amseroedd yma.

Mi fydd yna gerbydau ychwanegol yn helpu ar bob rownd felly efallai y gwelwch chi rai deunyddiau ailgylchu yn cael eu casglu ac eraill yn cael eu gadael – peidiwch â phoeni, bydd yr ail gerbyd yn dod rownd i gasglu’r deunyddiau sydd ar ôl.

Rhagor o wybodaeth

·         Bydd casgliadau dydd Llun 25 Rhagfyr yn cael eu gwneud ddydd Mercher 27 Rhagfyr (bin du a gwastraff bwyd).

·         Bydd casgliadau dydd Mawrth 26 Rhagfyr yn cael eu gwneud ddydd Iau 28 Rhagfyr (bin du a gwastraff bwyd).

·         Os nad ydi’ch bin du i fod i gael ei wagio ddydd Llun 25 neu ddydd Mawrth 26, bydd gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ddydd Mercher neu ddydd Iau a bydd eich cynwysyddion ailgylchu yn cael eu gwagio’r wythnos ganlynol gyda’ch bin du.

·         Bydd yr holl gasgliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 1 Ionawr yn cael eu symud ymlaen un diwrnod, e.e. bydd casgliadau dydd Llun yn cael eu gwneud ddydd Mawrth.

·         Byddwn yn dychwelyd i’r diwrnodau casglu arferol ddydd Llun 8 Ionawr.

Bydd ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor pob dydd yn ystod y gwyliau ac eithrio Dydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan.