Alert Section

Gwirio'ch diwrnod biniau


Casgliadau Brown Bin
Gan nad oes llawer o breswylwyr yn defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff yr ardd yn ystod misoedd y gaeaf, ni fydd biniau brown yn cael eu casglu yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror yn y dyfodol.

Ble dylwn osod fy miniau er mwyn iddynt gael eu casglu?

Dylech sicrhau fod eich biniau/cynwysyddion yn cael eu gosod ar garreg y drws erbyn 7am heb achosi rhwystr.  Os oes angen ac os yw’n ddiogel gwneud hynny, gallwch osod eich biniau allan i gael eu casglu’r noson gynt.  Carreg y drws yw lle mae eich eiddo yn cwrdd â’r palmant/ffordd.  Man casglu eiddo sydd â dreif hir preifat yw’r man lle mae’r dreif yn cwrdd â’r ffordd/priffordd. Lle mae angen, byddwn yn gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer mannau casglu penodol i fflatiau, eiddo â mynedfeydd cul neu eiddo sy’n anodd ei gyrraedd. Bydd y Tîm Ailgylchu’n hysbysu perchennog yr eiddo o’r rhain.

Calendr a chwilio am ddiwrnod casglu gwastraff

Byddwn yn casglu gwastraff fel arfer ar wyliau banc, ac eithrio diwrnod Nadolig a  Gŵyl  san steffan. Cewch wybodaeth am ddigwyddiadau a fydd yn tarfu ar y gwasanaeth e.e. tywydd gwael/prinder tanwydd, ar eich prif dudalen ar y we, www.siryfflint.gov.uk

Gwiriwch eich diwrnod bin yma