Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2024

Published: 09/01/2024

Gall preswylwyr adnewyddu eu tanysgrifiad ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd rwan, sy’n rhedeg eto o 1 Mawrth 2024 tan 14 Rhagfyr 2024.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog pobl i danysgrifio’n gynnar i sicrhau eu bod yn manteisio ar y gwasanaeth casglu llawn ar gyfer y tymor, yn ogystal â’r gyfradd danysgrifio arbennig, sydd ar gael cyn 28 Chwefror 2024.

Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn neu ar-lein trwy gydol y tymor yn £35 y bin. Ar ôl 1 Mawrth 2024 bydd y pris sylfaenol yn £38 y bin (os nad ydych yn talu ar-lein).  Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth unrhyw bryd, trwy fynd i wefan y Cyngor, ein ffonio ar 01352 701234 neu ymweld â’ch Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu leol.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: “Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu bin brown. Wrth i ni edrych ymlaen at dymor 2024, byddem yn annog preswylwyr i gofrestru’n fuan ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd iawn hwn fel eu bod yn cael budd o’r gwasanaeth casglu llawn a’r gyfradd ostyngol. 

“Rydym am sicrhau ein bod yn annog mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff gardd. Os oes gennych unrhyw laswellt, dail, tocion gwrychoedd, brigau, rhisgl a changhennau bach, gallwch roi’r rhain i gyd yn eich bin brown. Ni ellir defnyddio’r biniau ar gyfer gwastraff ffrwythau a llysiau, gwastraff bwyd, cardfwrdd, papur, pridd a rwbel na gwasarn anifeiliaid, gwellt anifeiliaid a gwastraff anifeiliaid.

“Mae’r holl wastraff gardd a gesglir yn cael ei gompostio mewn cyfleuster a weithredir gan y Cyngor ym Maes Glas. Yna gall preswylwyr Sir y Fflint gasglu’r compost a gynhyrchwyd am ddim o un o’n pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.

Os wnaethoch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd dros y blynyddoedd diwethaf (2022 neu 2023), byddwch wedi derbyn math newydd o sticer gyda sglodyn RFID wedi’i fewnosod. Golyga hyn na fyddwch chi’n derbyn sticer newydd eleni pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu, bydd yr un sydd eisoes wedi’i atodi i’ch bin yn gweithio unwaith eto. Rhowch eich bin brown allan i’w gasglu pan fydd y gwasanaeth yn ailddechrau a bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu. Os na wnaethoch chi gofrestru am y gwasanaeth yn 2022 neu 2023, anfonir pecyn sticer atoch unwaith y byddwch wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth.

I danysgrifio ar-lein, ac am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan: Gwastraff Gardd