Gwastraff gardd
Prisiau 2021
Gan fod y casgliadau gwastraff gardd wedi eu gohirio yn 2020 mae dau ffi ar gyfer tymor 2021, er mwyn cyfrif am y rhai a dalodd yn llawn ond na dderbyniodd y gwasanaeth llawn pan oedd wedi ei ohirio (rhwng canol Mawrth a chanol Mehefin 2020). Mae manylion y ffioedd newydd isod.
Y ffioedd ar gyfer 2021 yw:
Eiddo a dalodd yn llawn cyn 1 Mehefin 2020:
• £24.00 ar gyfer POB taliad ar-lein
• £24.00 ar gyfer taliadau a wneir ar neu cyn 28 Chwefror 2021
• £27.00 ar gyfer taliadau a wneir ar neu ar ôl 1 Mawrth 2021*
Eiddo a dalodd, ar y raddfa is, ar ôl 1 Mehefin 2020:
• £32.00 ar gyfer POB taliad ar-lein
• £32.00 ar gyfer taliadau a wnaed ar neu cyn 29 Chwefror 2020
• £35.00 ar gyfer taliadau a wnaed ar neu ar ôl 1 Mawrth 2020*
*Mae’r ffi yn berthnasol i drigolion sy’n talu dros y ffôn ac yn defnyddio ciosgau talu yn Sir Y Fflint Yn Cysylltu ar neu ar ôl 1 Mawrth 2021 (Bydd Cynghorwyr Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar gael i helpu trigolion i gwblhau ceisiadau).
Byddwn yn casglu biniau brown o bob cartref sydd wedi tanysgrifio ac wedi talu am wasanaeth casglu gwastraff gardd 2021.
Rydym yn casglu gwastraff gardd bob pythefnos rhwng 1 Mawrth a 10 Rhagfyr, ar yr un diwrnod ag y byddwn yn casglu eich ailgylchu a’ch gwastraff bwyd, sydd bob yn ail wythnos â’ch casgliad bin du. Er mwyn gwirio eich diwrnod casglu cliciwch Gwirio'ch diwrnod biniau .
Rhowch y sticer ar ochr y bin o dan yr handlen neu ar y tag presennol ar handlen eich bin. Mae hyn yn galluogi’r criw i’w weld yn hawdd a sicrhau nad yw'r sticer yn cael ei ddifrodi gan y cyfarpar codi.
Ni fydd y criwiau casglu’n casglu unrhyw finiau gwastraff gardd heb sticer arnynt.
Gofynnwn i chi holi eich cymdogion i wneud yn siŵr nad ydyn nhw wedi mynd â’r bin brown ar gam. Os nad ydynt, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib' er mwyn i ni allu ymchwilio i'r mater.
Rydym yn eich annog i farcio eich bin brown gyda rhif eich tŷ neu’r cyfeiriad i wneud eich bin yn un hawdd ei adnabod. Cyfrifoldeb deiliad y tŷ yw sicrhau bod eu bin brown yn cael ei storio'n ddiogel. Os oes bin ar goll, bydd angen talu £30 am un newydd (cost y bin).
Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu am y sticer ar y bin a sicrhau bod eich cyfeiriad i’w weld yn glir bob amser. Fodd bynnag, os yw wedi’i ddifrodi/ar goll, ffoniwch y llinell gymorth a bydd swyddog yn gwirio eich manylion ar ein system ac, os oes angen, yn dod i ymweld â’r safle.
Defnyddiwch y ffurflen gais ad-dalu i wneud cais am ad-daliad ar eich taliad 2021. Bydd y ffurflen hon yn eich arwain drwy’r wybodaeth y mae ei hangen arnom i asesu cais am ad-daliad. Unwaith y byddwn wedi ei asesu byddwch yn cael gwybod y canlyniad o fewn 14 diwrnod.