Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailwampio Marchnad Dan Do’r Wyddgrug 

Published: 30/08/2019

Mae Gwasanaeth Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint wedi’i ailwampio gydag ychydig o arwyddion newydd y tu allan.  

Mae masnachwyr yn falch iawn o’r arwyddion newydd ac eisiau cipio’r cyfle hwn i annog pawb i ddod i weld beth sydd ar gael.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae ein gwasanaeth marchnadoedd yn cefnogi masnachwyr marchnad dan do’r Wyddgrug i hyrwyddo’u busnesau. Gyda’n gilydd, rydym ni wedi creu nifer o ffilmiau byrion sydd i’w gweld ar ein gwefan. Mae’r farchnad yn dal i ffynnu ac yn cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd yr Wyddgrug ac mae’n dod â mwy o bobl i’r dref sydd o fudd i'r busnesau a’r gwasanaethau eraill.”

Mae’r farchnad ar agor o 9am tan 5pm ddydd Llun, ddydd Mercher, ddydd Gwener a dydd Sadwrn, o 9am tan 4pm ddydd Iau, ac ar gau ddydd Sul.

I wylio’r ffilm, ewch i: 

siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Tourism/Mold-Market.aspx

Mold Market PRESS 01.jpg

 

 

 

 

 

 

 

 

  • Flowers by Anne (Gwerthwr blodau gyda dros 25 mlynedd o brofiad) 
  • The Craft Shack (anrhegion wedi’u personoli, dillad / dillad gwaith a brodwaith)
  • Mold CB and Guitars (arbenigwyr mewn gitarau a radio’r bobl) 
  • NETworks (addasu dillad, rhwydi a voile) 
  • Dragon DVD & Games (DVDs, cryno ddisgiau, consolau a gemau) 
  • Wild Bird and Pet (bwyd anifeiliaid anwes, bwyd adar gwyllt ac ategolion) 
  • The Phoneman (atgyweirio ac ategolion ffonau a llechi electronig) 
  • Rachel's Deli (bwyd a byrbrydau cartref, bar brechdanau)
  • JOSAR (torri allweddi, fframio lluniau ac ysgythru) 
  • Artist From Fleetwood (pysgod a bwyd môr ffres) 
  • GLAMBOX (colur, gemau gwisgo, ategolion gwallt a phriodas) 
  • Gemania Jewellers (gemwaith aur, arian a gemfeini) 
  • Black Sheep Barbers (barbwr) 
  • Carolina Hair and Nails (salon trin gwallt ac ewinedd gel)