Alert Section

Farchnad Yr Wyddgrug


Dewch i’r Wyddgrug, tref farchnad draddodiadol sy’n swatio ar waelodion Cadwyn Clwyd. Mae marchnad stryd wedi bod yn yr Wyddgrug ers y canol oesoedd a hon yw’r farchnad fwyaf a’r orau yng ngogledd Cymru a’r Gororau hyd heddiw.

Cynhelir marchnadoedd stryd yn yr Wyddgrug bob dydd Mercher a dydd Sadwrn trwy gydol y flwyddyn lle ceir dros 70 o stondinau ar y Stryd Fawr a Sgwâr Daniel Owen. Mae amrywiaeth eang o gynnyrch ar gael gan gynnwys ffrwythau a llysiau ffres, caws, cig, llestri, dillad a phlanhigion - fe gewch bopeth sydd ei angen arnoch yn y farchnad!

‘Does dim yn well nag awyrgylch y farchnad stryd ac mae’n rhoi gwir flas i chi o’r dref. Gallwch fwynhau’r bwrlwm wrth i chi chwilio am fargeinion gan gymeriadau lliwgar. Cewch ddigon o gyngor yn rhad ac am ddim am sut i goginio’r cinio rhost perffaith neu am y planhigyn gorau i’w blannu mewn math penodol o bridd yn eich gardd!

Mae marchnad dan do ffyniannus ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn hefyd lle ceir amryw o stondinau a siop barbwr dan do.

Waeth beth fo’r tywydd, bydd croeso cynnes a chyfeillgar i chi yn yr Wyddgrug!