Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chi eisiau gwneud newid? Rhowch gynnig ar yr Ysgol Fusnes Dros Dro

Published: 07/01/2020

Beth yw hyn? Ni yw’r dewis amgen blaenllaw yn y DU i’r ffordd draddodiadol o gychwyn busnes.

Mae ein cwrs busnes AM DDIM yn dangos ffordd newydd o feddwl i chi a ffyrdd ymarferol i chi roi eich syniad busnes ar waith.

Mae’r cwrs am ddim i chi, diolch i gefnogaeth noddwyr lleol. Does neb ERIOED wedi gorfod talu i fynychu.  DIM Uwchwerthu. DIM byd annisgwyl. DIM telerau ac amodau cudd. Rydym ni’n addo.

Os ydych chi eisiau cymryd rheolaeth o’ch bywyd, os ydych yn ddi-waith, mewn swydd llawn amser (ond anfoddhaol), wedi bod yn gweithio ar eich busnes am flynyddoedd neu gyda channoedd o syniadau, bydd dulliau amgen yr Ysgol Fusnes Dros Dro yn eich helpu i roi cychwyn arni.

Wrecsam – Y Ganolfan Fusnes, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam - 20 – 24 Ionawr 2020 10am-3pm

Sir y Fflint - Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - 27 – 31 Ionawr 2020 10am-3pm

Sefydlwyd yr Ysgol Fusnes Dros Dro yn 2012 gan Alan Donegan a Simon Paine.  Roeddent yn gwybod bod y dull traddodiadol o gychwyn busnes (benthyciadau a chynlluniau cychwyn busnes) yn fwy o rwystr nag o gymorth i bobl, ac er mwyn chwilio, ysbrydoli a helpu pobl i gychwyn busnes (yn enwedig ar lawr gwlad), mae angen i chi gymryd dull hollol wahanol.

Felly fe wnaethant ail-ddyfeisio sut i gychwyn busnes. Roedd digwyddiad cyntaf yr Ysgol Fusnes Dros Dro yn Weston-super-Mare, Gwlad yr Haf, mewn partneriaeth ag Alliance Homes ac fe gawsom ganlyniadau anhygoel.  O wibio ymlaen i heddiw, maent wedi partneru gyda Chymdeithasau Tai, Prifysgolion, y Ganolfan Byd Gwaith ac Awdurdodau Lleol, ac maent wedi helpu i gychwyn mwy na 1500 o fusnesau mewn cymunedau ar draws y DU.