Coronafeirws - Cefnogaeth
Coronafeirws
Pa gymorth sydd ar gael?
Cronfa Cymorth Dewisol i Gymru
Ymestyn ymlacio rheolau Cronfa Cymorth Dewisol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i ymlacio rheolau Cronfa Cymorth Dewisol tan 31 Mawrth 2021.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o gyngor.
NEWID DROS DRO: Meini prawf ar gyfer Taliad Cymorth mewn Argyfwng
Rheolau presennol
Fel arfer byddai Cronfa Cymorth Dewisol yn galluogi cleientiaid diamddiffyn i gael dyfarniad taliad hyd at 3 gwaith mewn cyfnod treigl o 12 mis. Caiff cleientiaid hefyd eu gwahardd os ydynt wedi derbyn dyfarniad taliad yn y 28 diwrnod diwethaf.
Hyblygrwydd i gefnogi effaith Coronafeirws
Serch hynny, er mwyn darparu rhagor o gymorth i aelwydydd sy’n wynebu caledi eithriadol oherwydd argyfwng y Coronafeirws rhwng 1 Mai a 31 Mawrth 2021, gall Canolfan Wasanaeth Gronfa Cymorth Dewisol roi rhagor o hyblygrwydd a disgresiwn mewn cysylltiad â nifer ac amlder y Taliadau Cymorth mewn Argyfwng y mae cleientiaid eu hangen.
Meini prawf presennol Taliad Cymorth mewn Argyfwng
Ar gyfer ceisiadau Taliad Cymorth mewn Argyfwng nad ydynt yn gysylltiedig â’r Coronafeirws, fe fydd y rheolau presennol dal i fod yn berthnasol.
Gall enghreifftiau o ragor o hyblygrwydd yn sgil Covid-19 gynnwys:
- Hepgor y rheol 28 diwrnod
- Cynyddu nifer y dyfarniadau mewn cyfnod o 12 mis hyd at uchafswm o 5 dyfarniad
- Cyfyngu dyfarniadau i un yr wythnos hyd at y nifer uchafswm o ddyfarniadau
Lle y gellir defnyddio rhagor o ddisgresiwn
Bydd cleientiaid sydd wedi’u heffeithio’n wirioneddol gan y Coronafeirws yn cael eu hystyried dan yr amodau canlynol:
- Wedi colli incwm a gwneud hawliad newydd am fudd-dal e.e. y cyfnod dros dro rhwng sefydlu cleient newydd am fudd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau neu ddiwygio hawliad i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer cleient presennol
- Gostyngiad mewn incwm a ddim yn gymwys am Gredyd Cynhwysol e.e. un partner yn colli ei incwm
- Costau byw allweddol ychwanegol e.e. gwario mwy ar nwy, trydan a bwyd yn sgil hunan-ynysu a’r ffaith bod y plant adref
Rhaid i chi lenwi’r rhan cwestiynau/tystiolaeth Coronafeirws yn yr adran gwneud cais ar-lein. Bydd y cais yn gofyn am fanylion banc. Telir y dyfarniad trwy BACS (a delir mewn i gyfrif banc). Bydd dull talu arall ar gael mewn amgylchiadau eithriadol e.e. dim cyfrif banc prif ffrwd.
Sut i ymgeisio:-
Ar-lein – Ymgeisiwch ar-lein trwy’r wefan https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/sut-i-wneud-cais
Rhif ffôn - darparwch rif cais ar y ffôn Cronfa Cymorth Dewisol os nad oes gan y cleient fynediad/gallu digidol neu os oes yna risg enbyd i les (megis ffoi rhag cam-drin domestig).
Ymholiadau: Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â phartner, e-bostiwch helen.richards@familyfundservices.co.uk
Sir y Fflint Gyda’n Gilydd – Gwybodaeth Ddefnyddiol i Breswylwyr
Rydyn ni fel Cyngor yn chwilio am ffyrdd o helpu ein preswylwyr yn ystod y cyfnod digynsail yma drwy’r amser. Rydyn ni wedi creu’r llyfryn hwn o wybodaeth gan y Cyngor gyda’n partneriaid ac rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol ac o fudd i chi – gan y Cyngor a’n partneriaid.
Mae’r llyfryn yn cynnwys ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
- Manylion cyswllt allweddol y Cyngor
- Gwybodaeth am ddiogelu
- Help a chyngor ar Dreth y Cyngor a rhent
- Dŵr Cymru
- Cymru Gynnes
- Y Gwasanaeth Tân
- Bod yn ymwybodol o dwyll
I gael mynediad i’r llyfryn uchod o wybodaeth ddefnyddiol, dilynwch y ddolen hon.
Cefnogaeth Dileu Swydd
Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind yn wynebu sefyllfa dileu swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg a gweithredu yn unol â’ch contract a’ch hawliau cyfreithiol o ran dileu swydd. Mae hynny’n cynnwys sicrhau eich bod yn rhan o unrhyw drafodaethau, dilyn y broses ddethol gywir a rhoi cyfnod rhybudd priodol i chi. Os na fydd y pethau hyn yn digwydd, mae’n bosibl y bydd modd i chi gyflwyno honiad o ddiswyddo annheg, neu hawlio iawndal am ddiffyg ymgynghori.
Mae rhaglen Ymateb Cyflym i Ddileu Swyddi Sir y Fflint (RRR) yn cynnig cymorth i gwmnïau a’u gweithwyr pan fydd cyhoeddiad am ddileu swyddi wedi’i wneud. Mae RRR yn ddull partneriaeth o gefnogi’r rhai sydd mewn perygl o ddileu swyddi ac mae’n cynnwys asiantaethau a chefnogaeth berthnasol ac mae’n cynnwys asiantaethau a chefnogaeth berthnasol sy’n cynnig gwasanaethau fel:
Chwilio am swyddi / paru swyddi / codi ymwybyddiaeth o swyddi gwag gyda chyflogwyr amgen perthnasol / hawl i fudd-daliadau / ReAct a mentrau eraill / uwchsgilio a datblygiad personol / CV a sgiliau cyfweliad / sut i gyllidebu a rheoli cyllid / rhaglenni C4W / cyfleoedd am hunangyflogaeth / ymateb i anghenion unigol penodol.