Alert Section

Aelodau Etholedig


Atebolrwyddau:

  • Cyngor Llawn
  • Etholaeth eu ward 

Rôl, Pwrpas a GweithgarwchCynrychioli a chefnogi cymunedau:

  • Cynrychioli buddiannau’r ward
  • Bod yn eiriolwr ar gyfer y Cyngor yn y ward a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu
  • Bod yn sianel gyfathrebu i’r gymuned ar strategaethau, polisïau, gwasanaethau a gweithdrefnau’r Cyngor
  • Cynrychioli etholwyr unigol a sefydliadau lleol, gan ymgymryd â gwaith achos ar eu rhan a gwasanaethu pawb yn deg ac yn gyfartal
  • Cysylltu ag aelodau gweithredol, aelodau eraill y cyngor, swyddogion y cyngor a sefydliadau partner i sicrhau y caiff anghenion y cymunedau lleol eu hamlygu, eu deall a’u cefnogi
  • Hybu goddefgarwch a chydlyniant mewn cymunedau lleol

Gwneud penderfyniadau a goruchwylio perfformiad y cyngor: 

  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd Cyngor Llawn, gan gyrraedd a gwneud penderfyniadau gwybodus a chytbwys, a goruchwylio perfformiad
  • Cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau gwybodus a chytbwys ar bwyllgorau a phaneli y gallent gael eu penodi arnynt
  • Cadw at egwyddorion democratiaeth a chydgyfrifoldeb wrth wneud penderfyniadau
  • Hybu a sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn narpariaeth y cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill

Cynrychioli’r Cyngor (yn amodol ar benodiad):

  • Cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol lleol fel un o benodai’r Cyngor
  • Cynrychioli’r Cyngor ar gyrff partneriaeth lleol, gan hybu buddiannau cyffredin a chydweithio er lles y naill a’r llall
  • Cynrychioli a bod yn eiriolwr i’r Cyngor ar gyrff cenedlaethol ac mewn digwyddiadau cenedlaethol

Llywodraethu mewnol, safonau moesol a pherthnasau:

  • Hybu a chefnogi rheolaeth dda'r Cyngor a’i faterion
  • Darparu arweinyddiaeth gymunedol a hybu dinasyddiaeth weithgar 

Hybu a chefnogi llywodraeth agored a thryloyw: 

  • Cefnogi a chadw at berthnasau parchus, priodol ac effeithiol gyda gweithwyr y Cyngor
  • Cadw at God Ymddygiad yr Aelodau, Protocol yr Aelodau/Swyddogion a’r safonau ymddygiad uchaf mewn swyddfa gyhoeddus

Datblygiad Personol a Swydd: 

  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a gynigir i aelodau gan yr awdurdod 

GwerthoeddBod yn ymrwymedig i werthoedd y cyngor a'r gwerthoedd canlynol mewn swyddfa gyhoeddus: 

  • Didwylledd a thryloywder
  • Gonestrwydd ac uniondeb
  • Goddefgarwch a pharch
  • Cydraddoldeb a thegwch
  • Gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol
  • Cynaliadwyedd