Hafan > Preswyl > Cydraddoldeb ac Amrywioldeb > Sipsiwn a Theithwyr

Sipsiwn a Theithwyr

Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig yn grwpiau hiliol cydnabyddedig dan Ddeddf (Diwygio) Cysylltiadau Hil, ac er mwyn dangos parch iddynt fel i grwpiau ethnig eraill, dylid defnyddio priflythrennau S a T wrth ddisgrifio Sipsiwn a Theithwyr.  Ni ddylech ddefnyddio’r term Tinceriaid i ddisgrifio Sipsiwn a Theithwyr.

Hanes Byr

Bu Sipsiwn yn rhan o’n cymdeithas ers cannoedd o flynyddoedd. Credid yn wreiddiol mai o’r Aifft yr oeddent yn hanu, ac o’r gair Saesneg ‘Egyptians’ y daw’r geiriau ‘Gypsy’ a ‘Sipsi’, ond mewn gwirionedd, maent yn hanu o'r India.

Mae pobl Romani wedi bod yn byw yn Lloegr ers dros 500 mlynedd, a’r Gymuned Deithwyr Gwyddelig ers rhyw 150 o flynyddoedd. Cafwyd y cofnod dilys cyntaf o’u presenoldeb ym Mhrydain ym 1501 yn yr Alban. Heddiw, amcangyfrifir bod rhwng 250,000 a 300,000 o Deithwyr traddodiadol yn byw ym Mhrydain Fawr.

Mae eu ffordd o fyw yn golygu eu bod yn teithio’r wlad gan aros am wahanol gyfnodau mewn gwahanol fannau, er mwyn ennill bywoliaeth. Dyma fu eu ffordd o fyw ers cenedlaethau. Mae deddfwriaeth cysylltiadau hil yn cydnabod Sipsiwn a Theithwyr fel grwpiau hiliol penodol, h.y., Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig. Golyga hyn fod ganddynt hawl i fyw bywyd crwydrol.

Gwarchodir Sipsiwn a Theithwyr rhag camwahaniaethu gan Ddeddf Cysylltiadau Hil 1976 a Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae Deddf (Diwygio) Cysylltiadau Hil 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Sir y Fflint, i hybu cydraddoldeb hil i bob grŵp hiliol. Bydd y Cyngor yn gweithio gydag asiantaethau swyddogol eraill i geisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng hawliau Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog.

Cwestiynau Cyffredin

Pa ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Sipsiwn a Theithwyr a rheoli gwersylloedd heb awdurdod?

Y brif ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar Sipsiwn a Theithwyr a gwersylloedd heb awdurdod yw’r Deddfau Hawliau Dynol a Chysylltiadau Hil ac Adrannau 61, 62, 62A-E, 77 a 78 Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Drefn Gyhoeddus 1994.

Beth fedra’i wneud os oes gwersyll heb awdurdod ar fy nhir? Medrwch wneud y canlynol:

  • siarad â hwy i weld a ydynt yn barod i adael ar ddyddiad y cytunwch arno, neu
  • gymryd camau yn y Llys Sirol dan Reolau Gweithdrefnau Sifil 1998 i gael Gorchymyn Llys i’w troi allan.

Ond mae Teithwyr yn torri’r gyfraith, ‘does bosib.   Pam nad oes modd eu hel oddi yno’n syth?  

Dyma ddywed Canllawiau’r Llywodraeth ar gyfer delio â gwersylloedd heb awdurdod "Nid yw gwersylla heb awdurdod yn drosedd ac nid oes (gan y Llywodraeth) gynlluniau i’w wneud yn drosedd".   Mater sifil yw tresmasu. Mae’r gyfraith yn rhoi i dirfeddianwyr ac awdurdodau lleol yr hawl i adfeddiannu eu heiddo.

Ond maen nhw wedi torri i mewn ac wedi difrodi eiddo – ond yw hynny yn drosedd ac oni ddylid eu troi allan?  

Na. Troseddau yw torri i mewn a difrodi eiddo. Petai’r Heddlu yn medru dweud fod un neu fwy o unigolion wedi gwneud y difrod, byddai modd eu herlyn drwy’r Llysoedd, ond nid cael eu troi allan fyddai eu cosb.

Pam?

Mae modd dirwyo neu garcharu rhywun am ddifrod troseddol, ond ni fyddai’n rhesymol meddiannu eu cartref, eu hatal rhag gweithio’n gyfreithlon na tharfu ar addysg eu plant.

Beth os bydd y tirfeddiannwr yn penderfynu gadael iddynt aros?

Mae’r Llywodraeth yn annog goddef gwersylloedd heb awdurdod lle nad oes niwsans neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd. Fodd bynnag, gall gwersylloedd heb awdurdod fod yn torri rheoliadau cynllunio neu reoliadau eraill.

Oni bai bod y tirfeddiannwr eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer safle garafannau neu bod y Sipsiwn/Teithwyr yn helpu gyda chasglu ffrwythau, etc, yna gallai’r tirfeddiannwr fod yn torri’r Deddfau Cynllunio. Gallai’r Cyngor wedyn gymryd camau yn erbyn y tirfeddiannwr i fynnu symud y gwersyll anghyfreithlon.

I ddechrau, ffoniwch Adran Gynllunio Cyngor Sir y Fflint am ganllawiau.

Oes gan y Cyngor neu’r Heddlu ddyletswydd i symud gwersylloedd heb awdurdod lle maent ar dir y Cyngor?

Os yw gwersyll heb awdurdod ar dir y Cyngor, mae gan y Cyngor y PŴER nid DYLETSWYDD i’w symud ymlaen. Gallant eu troi allan yn unig wedi ystyried Deddf Hawliau Dynol. Os methant â chydymffurfio, gallai olygu bod y Cyngor a swyddogion yr Heddlu yn agored i’w herio gan y llysoedd. Gallai hyn fod yn gostus, a gallai hefyd olygu bod y gwersyll yno am gyfnod hwy.

Mae Protocol yn cael ei ddatblygu rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint i ofalu ein bod yn ymateb i wersylloedd mewn dull cyson.

Beth yw’r drefn ar gyfer troi allan o dir yr awdurdod lleol?

Yr ydym yn cymryd agwedd deg a chytbwys tuag at safleoedd heb awdurdod. Byddwn yn ymweld â’r safle ac yn cynnal asesiad. Bydd hyn yn golygu edrych ar lefel y tarfu ar y gymuned leol a rhwystro hawliau tramwy. Rhaid i ni ystyried hefyd a oes unrhyw ystyriaethau lles. Os nad oes fawr o niwsans, hwyrach y byddwn yn penderfynu gadael y gwersyll heb awdurdod fel y mae am gyfnod byr yn unol â chyngor y Llywodraeth.

Fedr y Cyngor symud Sipsiwn/Teithwyr oddi ar eu tir yn syth?Na. Rhaid i’r Cyngor wneud y canlynol:

  • dangos fod y Sipsiwn/Teithwyr ar y tir heb ganiatâd,
  • gwneud ymholiadau ynghylch iechyd, lles ac addysg y plant yn gyffredinol
  • gofalu y cydymffurfiwyd yn llawn â Deddf Hawliau Dynol 1998, a
  • dilyn y drefn gywir i lwyddo i gael yr awdurdod angenrheidiol gan y Llysoedd i symud y Sipsiwn/Teithwyr.

Fedr y Llys wrthod rhoi Gorchymyn i’r Cyngor symud y Sipsiwn / Teithwyr ymlaen?

Gall – os oes rheswm anorfod i’r Sipsiwn / Teithwyr aros ar y safle neu os cred y Llys fod y cyngor wedi methu gwneud ymholiadau digonol am iechyd a lles cyffredinol y Sipsiwn / Teithwyr. Rhaid i ni geisio cael y wybodaeth hon cyn mynd i’r llys.

Beth am weithgaredd troseddo sy’n gysylltiedig â rhai gwersylloedd answyddogol?

Mae’r heddlu yn ceisio bod yn gadarn ac yn deg, ac os oes rhywbeth wedi ei wneud yn groes i’r gyfraith, cosbir y sawl sy’n gyfrifol. Er hynny, ni allant weithredu yn erbyn honiadau heb eu profi, neu ragdybiaethau. Bydd yr Heddlu yn delio â throsedd pan fydd cwyn a thystiolaeth i’w gefnogi. Er mwyn ymchwilio i weithgaredd troseddol, rhaid i’r Heddlu gael tystiolaeth ysgrifenedig gan dystion. Os byddwch yn dyst i ymddygiad anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol, soniwch amdano wrth yr Heddlu. Os am gymorth yr Heddlu mewn argyfwng, dylech ffonio 999 yn syth. Am alwadau heb fod yn rhai brys i Heddlu Gogledd Cymru, ffoniwch 101.

 

Dewis arall yw galw Taclo’r Tacle ar 0800 555111 neu Taclo'r Tacle (ffenestr newydd)

Neu ewch at wefan Heddlu Gogledd Cymru (ffenestr newydd)

Medrwch adrodd am niwsans i adran Iechyd Amgylchedd yr awdurdod lleol neu’r Heddlu

Dylai Teithwyr gadw at yr un safonau â’r rhai a ddisgwylir gan y gymuned sefydlog. Yr ydym eisiau gwybod pan fo niwsans go-iawn yn digwydd a byddwn yn gwneud ein gorau i’w drin, ac yn gofyn i bobl sy’n gwneud cwynion gymryd golwg gytbwys. Yr ydym yn aml yn derbyn cwynion am ddim mwy na phresenoldeb Teithwyr heb unrhyw dystiolaeth o niwsans o gwbl.

Beth am y sbwriel sy’n cael ei adael gan rai gwersylloedd heb awdurdod?

Byddwn yn ymweld â gwersylloedd heb awdurdod ar ochr y ffordd neu ar dir y Cyngor, ac yn gwneud pob ymdrech i geisio cadw’r safle yn daclus.

Tra bod rheidrwydd ar wersylloedd heb awdurdod i gadw unrhyw safle yn daclus, mae tirfeddianwyr preifat yn gyfrifol am symud gwastraff oddi ar eu tir eu hunain.

Mae rhai mathau o wastraff angen triniaeth arbennig. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â Llinell Gymorth Adran yr Amgylchedd ar 0800 807060 neu’r adran Iechyd Amgylchedd ar 01352 703404.

Beth am Sipsiwn/Teithwyr sy’n prynu eu tir eu hunain ac yn ymgartrefu yno?

Rhaid i Sipsiwn a Theithwyr gael caniatâd cynllunio am safle felly yn union yr un fath ag unrhyw un arall.

Beth ddylwn i wneud os gwela’i wersyll Sipsiwn/Teithwyr?

Ffôn 01352 703020. Dylech rhoi union fanylion am leoliad y gwersyll fel y gall y swyddogion ymweld yn ddi-oed.

Fedrwch chi ddim atal gwersylloedd anghyfreithlon rhag digwydd yn y lle cyntaf?

Mae gan Deithwyr yr hawl i fyw bywyd crwydrol, ond does dim digon o safleoedd swyddogol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Hefyd, mae llawer o fannau aros traddodiadol bellach wedi eu gwarchod i atal Teithwyr rhag sefydlu gwersylloedd. Golyga hyn fod Teithwyr yn cael eu gorfodi i wersyllfa lle medrant a gwersylla yn anghyfreithlon mewn mannau sydd yn fwy amlwg ac amhriodol. Maent hefyd yn fwy tebygol o aros yn hwy os nad oes digon o lefydd lle medrant aros.

Mae hyn yn arwain at gylch cas o sefydlu gwersyll heb awdurdod – cyflwyno rhybudd i adael – symud ymlaen a sefydlu gwersyll arall heb awdurdod yn rhywle arall.

Rydw i’n talu treth y Cyngor ond dydy’r bobl hyn yn talu dim byd!  

Mae hwn yn gamsyniad cyffredin. Nid yw Sipsiwn a Theithwyr yn talu treth Cyngor ar safleoedd gwersylla heb awdurdod, ond y mae llawer o bobl mewn tai yn cael gostyngiad treth Cyngor, budd-dâl tai etc. Gall Sipsiwn a Theithwyr hefyd ei chael yn anodd cyrchu’r gwasanaethau y bydd y gweddill ohonom yn eu defnyddio yn weddol rwydd. Maent yn cael problemau gyda gofal meddygol a deintyddol, casglu sbwriel, derbyn post, addysg y plant a gwaith cyson.

Mae llawer o Deithwyr yn gyflogedig ac yn talu treth dan y system Talu wth Ennill (PAYE), ac wrth gwrs, codir TAW ar bopeth y maent hwy, a ninnau, yn ei brynu.

Nid yw llawer o’r Sipsiwn Teithiol sy’n cyrraedd yn dymhorol, am gyfnodau byr, yn wahanol o gwbl i bobl ar eu gwyliau gan fod ganddynt dai neu safleoedd sefydlog yn rhyw ran arall o’r wlad. Byddant yn talu trethi, rhent neu forgais yn y mannau eraill hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

  

 

 

 

 

 

 

Dogfennau perthnasol

Gwefannau Defnyddiol

Dogfennau Defnyddiol