Alert Section

Diogelwch bwyd


Mae swyddogaethau’r Adran hon yn cynnwys: Cymeradwyo eiddo sy’n trin bwyd a thrwyddedu siopau cigyddion yn ôl rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd; cynnal arolygon glendid bwyd, cwynion yn ymwneud â bwyd a hylendid, rheoli achosion o wenwyn bwyd ac afiechydon heintus, archwilio bwyd, ardystio bwyd ar gyfer ei allforio a chondemnio bwyd, rhybuddio ynglyn â pheryglon bwyd, samplu bwyd, darparu gwasanaeth cynghori a gwybodaeth cyffredinol, dyletswyddau iechyd mewn porthladdoedd, cofrestru eiddo sy’n trin bwyd.

Cynhelir arolygon hylendid mewn eiddo sy’n trin bwyd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, megis cynhyrchwyr, eiddo cyfanwerthu a manwerthu, gwestai, ysgolion, ysbytai, ffreuturiau a marchnadoedd i sicrhau eu bod yn cynnal y safonau priodol ac yn cydymffurfio â’r Rheoliadau priodol. Byddwn yn monitro eiddo a gymeradwyir yn ôl rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys llefydd sy’n pasteureiddio llaeth a hufen iâ, yn ogystal â samplu a gorfodi’r ddeddfwriaeth berthnasol. Ymchwilio pob achos o wenwyn bwyd ac afiechydon heintus penodol. Rhoddir cyngor hefyd ynglyn â mesurau ataliol er mwyn atal afiechydon heintus rhag lledaenu. Ymchwilio cwynion ynglyn â bwyd, yn cynnwys pethau dieithr a ganfyddir mewn bwyd yn ogystal â chwynion ynglyn ag eiddo aflan neu arferion aflan yn ymwneud ag arlwyo.

Am ymholiadau a chwynion cyffredinol ynglyn â bwyd, cysylltwch ag:

Is-adran yr Amgylchedd
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NH

Rhif ffôn: 01352 703386

neu gyflwyno ffurflen ymholiad

(Byddai o gymorth i ni pe baech yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn, mewn unrhyw ohebiaeth)